Cyfnod Allweddol 3 - Dan y Wenallt

Dan y Wenallt - Detholiad - I'w ddefnyddio gyda gwersi 2, 3 a 4

(Distawrwydd)

Llais Cyntaf (yn dawel fach)

A dechrau yn y dechrau'n deg:
mae hi'n nos o Wanwyn yn y dref fach
ddileuad, ddiseren,
dywylled â beibl,
y strydoedd cobl yn ddistaw,
a gallt wargrwm y cariadon a'r cwningod
fel ar herc anweledig lawr at y môr pygddu,
ddued ag eirin y fagddu,
lle mae'r cychod pysgota'n hen aflonyddu.
Mae'r tai mor ddall â gwahaddod,
(er fe wêl y gwahaddod yn burion heno,
yn y glynnoedd melfedaidd, trwyngul)
neu'n ddall fel y Capten fan draw'n cyfeillachu
â'r pwmp a'r cloc a'r siopau'n eu galar,
a'r Neuadd Les fel gweddw wylofus.
A chaewyd llen pob llygad tan amrannau trwm y nos.

Ust, mae'r plantos yn cysgu,
a ffarmwr, masnachwr, pysgotwr, pensiynwr, postman,
crydd, sgwlyn, meddwyn, tafarnwr, teiliwr, pregethwr, plisman,
yr ymgymerwr,
Y cocs-fenwod traed hwyaden,
a'r gwragedd cymen.
Merchetach yn gorwedd mewn gwalau meddal,
neu'n llithro i freuddwydio modrwyon a ffrogiau priodas,
a magïod yn forynion
ar eiliadau organyddol ar y gelltydd.

Bechgynnach yn breuddwydio drygioni,
yn marchogaeth y paith ar fwng y nos
neu'n hwylio'n fanerddu ar yr heli.
Delwau duon y ceffylau ynghwsg yn y caeau,
y da yn y beudái,
a'r cŵn ar fuarthau gwlych gan eu ffroenau;
ac mae'r cathod yn hepian yng nghorneli'r encilion
neu'n sleifio'n un llinyn ar y cwmwl o doeon.

Gallwch glywed y gwlith yn diferu, a'r dref ddistaw'n anadlu.

A'ch llygad chi yn unig sy'n agored i weld
y dref fach bygddu ymhlyg yn ei chwsg trwm ac ysgafn.
A chi yn unig glyw'r seren wib anweledig,
a mân-gyffro crych-wlithog y llanw llawn lledod
ym more bach yr awr dywyllaf
lle mae'r Arethusa a'r Curlew a'r Skylark,
y Zanzibar, y Rhiannon a'r Rover,
y Cormorant a'r Star of Wales
yn hepian wrth angor.

Clywch. Mae'r nos yn symud drwy'r strydoedd,
ar ymdeithgan urddasol y gwynt
yn Heol y Brenin a Lôn Cregyn,
a'r halen yn drwch ar yr alaw,
ym mhrifio'r borfa ar Fryncyn Llaregyb,
yn y gwlithyn sy'n cronni a'r seren sy'n chwalu,
ac yng nghwsg adar y Wenallt.

...

Edrychwch. Mae'r nos
ar ymdaith fud dywysogaidd
rhwng ceirios y Coroni yn Heol y Brenin,
a menig am ddwylo dwys-wlithog plethedig
ei chwaon ym mynwent Bethesda;
yn twmblo wrth dafarn y Morwr.

Mae amser yn cerdded. Clywch.
ddoe heddiw ac yfory a thrennydd a thradwy.
Clywch gerdded traed amser.
Dewch yn nes nawr.

* Dan y Wenallt
Cyfieithiad T.James Jones

Dan y Wenallt - Detholiad - I'w ddefnyddio gyda gwersi 5 & 6

Cymeriadau : Lili Bwt, Mrs Beynon, Llais, Mr Puw, Mrs Puw, Meri Ann y Morwr, Dai Bara, Mrs Dai Bara Gwyn, Mrs Dai Bara Brown, Syr Wili Watsh, Dai Di-ddim, Miss Price, Poli Gardis

LILI:

O! 'Na wep!
Ble gest ti'r gwallt 'na?
'Da'r cwrcyn, wrth gwrs.
Rho fe 'nôl 'te, bach.
O! 'Na byrm!

'Da pwy gest ti'r trwyn 'na, Lil?
Ei ga'l e 'da Dadi, dwpsen!
Ma'i ben e sha lawr!
O! 'Na gonc!

Edrych ar dy gro'n!
O, na, edrych di!
'Mbach o baent sy isie...
Feil sy isie!
O! 'Na bishyn!

Ble gest ti'r wên 'na Lil?
Minda dy fusnes, ferch.
'Sneb yn caru ti.
'Na beth wyt ti'n feddwl.

Pwy sy'n caru ti?
Sa i'n gweud.
O, dere Lil.
'Wedi did dim?
Folon marw...

LLAIS:

Ac yn ddistaw bach, â'i gwefusau ar gusanu'i llun ei hunan, gollynga'r enw i niwl y glás siafo.

MRS BEYNON:

(yn uchel oddi-uchod) Lili!

LILI:

(yn uchel) Ie, misus...

MRS BEYNON:

Ble ma' 'nhe i, ferch?

LILI:

(Yn isel) Ble chi'n feddwl? Ym mocs y gath?


(Yn uchel) Dod, misus...

LLAIS:

Yn Nhŷ'r Ysgol gyferbyn, mae Mr Puw yn cario te i Mrs Puw, ac yn sibrwd ar y stâr

MR PUW:

Dyma'ch arsenic, cariad,
A'ch bisgïen lladd chwyn.
'Wy wedi tagu'r paracît.
Wedi poeri'n y jwge.
Wedi rhoi caws yn y twlle llygod.
Dyma'ch... (Drws yn gwichian agor)
...te neis, cariad.

MRS PUW:

Gormod o siwgur.

MR PUW:

Tastwch e gynta, cariad.

MRS PUW:

Gormod o la'th, 'te. Ody Mr Jenkins wedi gweud ei bishyn?

MR PUW:

Ody, cariad.

MRS PUW:

Mae'n bryd codi, 'te. Dowch â'r glasys. Na, dim y glasys darllen. 'Wy am edrych mas. 'Wy am weld.

LLAIS:

Lili Bwt y trysor ar ei gliniau coch yn golchi'r trothwy.

MRS PUW:

Ma' hi wedi bwndlo'i ffrog yn ei blwmyrs - O! 'Na slwten!

LLAIS:

Mae PC Rhys, traed fel badau, ac fel eidion o lydan, yn clindarddach mas o Glinc-y-bobi mewn tymer tarw, a'i dalcen du, cuchog, dan ei helmet wlych...

MRS PUW:

Ma' fe'n mynd i aresto Poli Gardis, gewch chi weld.

MR PUW:

Am beth, cariad?

MRS PUW:

Am blanta.

LLAIS:

...ac yn bustachu i gyfeiriad y traeth i weld a yw'r môr yno o hyd. Egyr Meri Ann y Morwr ffenest y llofft uwchben y bar a chyhoeddi bob cam i'r nef

MERI ANN:

Wy'n bump a phedwair ugen mlwydd a tri mis a diwrnod!

MRS PUW:

Ma' rhaid i fi weud hyn amdani, so hi byth yn neud mistêc.

LLAIS:

Mae Organ Morgan, ar sil ffenest ei stafell wely, wrthi'n cordio rhegfeydd gwylanod y bore, ac wrth heclo uwchben Lôn Asyn, fe welant

DAI BARA:

Fi, Dai Bara, yn hastu i'r popty, a chwt 'y nghrys i mas, yn bwtwmo 'ngwasgod, diawl 'na fwtwm arall wedi hedfan, pam na allan nhw'u gwinio nhw, dim amser i frecwast, dim byd i frecwast, 'na wragedd i chi...

MRS DAI BARA GWYN:

Fi, Mrs Dai Bara Gwyn, cap am 'y mhen, siol am 'y ngwar, a dim am 'y nghanol, ma' hi'n neis bod yn gyffwrddus, ma hi'n neis bod yn neis, yn clymhercan ar y cobls i alw cymdoges. O, Mrs Sara, allwch chi sbario torth, cariad? Ma' Dai Bara wedi anghofio'r bara... On'd yw hi'n fore lyfli! Shwt ma'ch cornwd chi heddi? ... O, 'na gwd, ontefe? Ma' hi'n neis ca'l ishte lawr. Ta, Mrs Sara.

MRS DAI BARA BROWN:

Fi, Mrs Dai Bara Brown, clatsien o fenyw ddansherus yn 'y mhais sidan, sgarlad, uwch na 'mhenlinie, penlinie brwnt, pert, shgwla ar 'y nghnawd sy mor frown â mwyaren o dan 'y mhais, sodle main ac un sawdl ar goll, crib cragen-crwban yn 'y ngwallt melfed, llithrig, llachar, dim byd arall amdana i o gwbwl, dim ond dab o sent, yn falch o ga'l neud siew wych o'n hunan ar y trothwy, fe weda i dy ffortiwn yn y dail te, yn gwgu ar yr heulwen, yn tano 'mhib.

SYR WILI WATSH:

Fi, Syr Wili Watsh, yn hen got-a-chwt Eli Jenkins a throwser postman o Jymbl Bethesda, yn rhedeg mas i ddiwel slops - sa' 'nôl, Rover! - a wedyn, rhedeg miwn 'to, tic toc.

DAI DI-DDIM:

Fi, Dai Di-ddim, yn neud mwy na dim yn y golchdy.

MISS PRICE:

Fi, Miss Price yn 'y mrat cotwm print, yn ddeche â'r lein ddillad, mor deidi â dryw bach, cyn mynd 'nôl pit-a-pat at yr ŵy yn ei wlanen, a'r bysedd-tost cras, a'r jam eirin cartre a'r brinten fach o fenyn.

POLI GARDIS:

Fi, Poli Gardis, dan y lein ddillad yn rhoi bron yn yr ardd i'r babi newy' sbon. 'Sdim byd yn tyfu fan hyn ond dillad ar y lein. A babis. A ble ma'u tade nhw'n byw, cariad? Draw dros y bryn yn bell, bell bant. Wyt ti'n edrych lan arna i nawr, yn driflo yn dy la'th, druan. 'Wy'n gwbod beth ti'n weud, 'y mach i. Bo' ti ddim tamed gwell na ddylet ti fod, Poli. A ma' hwnna'n ddigon da i fi. O! On'd yw bywyd yn ofnadw - diolch i Dduw!