The Brecon Beacons National Park

Cyflwyniad

Gweithgareddau ac ymchwil 1

1. Parciau Cenedlaethol Prydain

Cerdded Graig Fan Las - Bannau Brycheiniog

Cerdded Graig Fan Las

Bannau Brycheiniog

Ceir 14 Parc Cenedlaethol yn Nghymru, Lloegr a'r Alban, ac mae 3 ohonynt yng Nghymru. (Bannau Brycheiniog, Arfordir Penfro ac Eryri). Mae'r holl Barciau Cenedlaethol yn cynnwys ardaloedd o fryniau, mynyddoedd ac arfordiroedd sy'n cael eu hystyried yn olygfeydd ardderchog ac yn cynnig cyfleoedd ar gyfer gweithgareddau hamdden a thwristiaeth. Mae tirluniau Parciau Cenedlaethol yn cael eu diogelu rhag ddatblygiad fel bod yr ardaloedd yn cael eu gwarchod ar gyfer y dyfodol.

Mae'n rhaid i holl Barciau Cenedlaethol Prydain:

  • warchod a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol'.   Mae hyn yn golygu fod yr ardal yn cael ei gwarchod a'i hamddiffyn.
  • hybu cyfleoedd ar gyfer deall a mwynhau yr ardaloedd'  Mae hyn yn golygu fod y gweithgareddau hamdden a thwristiaeth yn cael eu hybu, ond iddynt beidio ag effeithio ar y tirlun a'r cymunedau, yn enwedig yn y mannau lle y gall y rhai sy'n ymweld â'r ardal ddysgu mwy am y tirlun a diwylliant yr ardal.
  • meithrin lles y gymuned leol'.   Mae hyn yn golygu edrych ar ôl y bobl sy'n byw a gweithio o fewn y Parciau Cenedlaethol a gwneud yn siŵr fod eu hanghenion yn cael eu diwallu.
Sgwd Isaf Clun-gwyn, Afon Mellte, Ystradfellte

Sgwd Isaf Clun-gwyn

Afon Mellte, Ystradfellte

Mae'r Parciau Cenedlaethol yn cael eu rheoli gan gyrff a elwir yn Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ond mae'n hanfodol bwysig deall nad yr Awdurdodau hyn yw perchenogion tir y parciau. Mae'r awdurdodau yn gorfod gweithio gyda nifer o grwpiau gan gynnwys:

  • Preswylwyr lleol
  • Tirfeddianwyr
  • Ffermwyr
  • Awdurdodau Lleol (cyfanswm o 9 awdurdod i gyd)
  • Busnesau twristaidd megis darparwyr llety ac atyniadau
  • Busnesau eraill o fewn y Parc Cenedlaethol
  • Darparwyr Cludiant
  • Asiantaethau Amddiffyn yr Amgylchedd
  • Cyrff Elusennol megis yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Tref Aberhonddu a'r Crug – Bannau Brycheiniogs

Tref Aberhonddu a'r Crug

Bannau Brycheiniog

Felly, mae'n rhaid i Awdurdod y Parc Cenedlaethol weithio gyda'r holl grwpiau uchod, ystyried anghenion y bobl sy'n byw ac yn gweithio yn y cymunedau yn ogystal ag edrych ar ôl nodweddion arbennig yr ardal.
Mae'n bwysig cofio fod y Parciau Cenedlaethol yn y Deyrnas Unedig yn 'agored' drwy'r amser ac nid yw ymwelwyr yn gorfod talu i ddod i ymweld â'r parc. Ceir gwahaniaeth mawr rhwng Parc Cenedlaethol a Pharc Thema!

Mantell eira ar Fannau Brycheiniog

Mantell eira ar Fannau Brycheiniog

Gweithgareddau ac ymchwil 1

  1. Felly, beth yw'r gwahaniaeth rhwng Parc Cenedlaethol a pharc thema?
  1. Amlinellwch bwrpas Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol.
  1. Chwiliwch am enwau Parciau Cenedlaethol yr Alban.
  1. Eglurwch pam nad yw ymwelwyr yn gorfod talu i fynd i Barciau Cenedlaethol a pham y maent yn agored gydol y flwyddyn.