Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Gweithgareddau ac Ymchwil 6

6. Y prif gasgliadau o'r arolwg diweddaraf o ymwelwyr i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

(Gwnaethpwyd yr arolwg yn 2005 a chafodd dros 1,000 o bobl eu cyfweld mewn saith lleoliad ar draws y Parc Cenedlaethol).

  • Mae'r rhan fwyaf o'r ymwelwyr undydd i'r parc yn dod o Gymru, a'r mwyafrif o'r ymwelwyr sy'n aros yn dod o Dde Ddwyrain Lloegr a Gorllewin y Canolbarth.
  • O safbwynt y mwyafrif o'r ymwelwyr (92%) y prif reswm dros iddynt ddod i'r parc oedd y golygfeydd a'r heddwch a thawelwch.
  • Roedd y rhan fwyaf o'r ymwelwyr dros 35 mlwydd oed, yn gyfoethocach na'r cyfartaledd a dim ond 30% o'r ymweliadau oedd yn grwpiau teuluol gyda phlant.
  • Roedd y mwyafrif o'r rhai a atebodd, tua 68%, yn mwynhau cerdded fel gweithgaredd yn y parc.
  • Mae'r ymwelwyr yn tueddu i aros yn y prif drefi a'r cyffiniau o fewn y parc; Aberhonddu, Crucywel a'r Gelli Dandryll.
  • Roedd nifer o'r ymwelwyr yn ystyried siopa fel gweithgaredd pwysig ac roedd siopau llyfrau'r Gelli Gandryll yn un o'r atyniadau mwyaf poblogaidd.
  • Mae nifer o'r ymwelwyr ar eu hailymweliad – nid dyma'r tro cyntaf iddynt ymweld â'r parc.
  • Tanlinellir y ffactorau sy'n dilyn fel rhai da neu yn ardderchog gan yr atebwyr:
    • Y teimlad o ddiogelwch - 97.2%
    • Y teimlad o groeso - 96.3%
    • Ansawdd yr atyniad - 94.1%
    • Pobl leol yn ewyllysgar - 93.3%
    • Ansawdd y mannau lleol ar gyfer bwyta ac yfed - 89.5%
    • Ansawdd siopa - 82%
  • Buasai nifer arwyddocaol o atebwyr yn hoffi gweld mwy o gyfleoedd ar gyfer cerdded, beicio a marchogaeth.

.Gweithgareddau ac Ymchwil 6

  1. Rhowch grynodeb o ddarganfyddiadau'r ymchwil gan ddefnyddio siartiau a graffiau.
  1. Darganfyddwch fwy o wybodaeth o arolwg 2005 drwy ymweld â gwefan Awdurdod y Parc Cenedlaethol. Chwiliwch am fwy o wybodaeth am y mathau o lety lle mae pobl yn aros.