Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
Gweithgareddau ac Ymchwil 5
5. Twristiaeth gynaliadwy ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
Ceir ymwybyddiaeth gynyddol fod gan dwristiaeth gyfrifoldeb tuag at y gymuned letyol a'r amgylchedd lle mae twristiaeth yn digwydd.
Mae twristiaeth gynaliadwy yn ymwneud â sicrhau helpu twristiaid i fwynhau'r ardal y maent yn ymweld â hi ond ar yr un pryd yn gwarchod yr ardal ar gyfer y dyfodol.
Y diffiniad swyddogol a ddefnyddir amlaf o dwristiaeth gynaliadwy yw 'twristiaeth sy'n cyfarfod â gofynion twristiaid presennol a rhanbarthau lletyol tra'n gwarchod a gwella'r cyfleoedd ar gyfer y dyfodol'.
(Sefydliad Twristiaeth y Byd).
Mae Awdurdod Parc Cenedlathol Bannau Brycheiniog yn gyfrifol am roi gyda'i gilydd gynlluniau ar gyfer twristiaeth gynaliadwy yn y parc cenedlaethol. Gelwir hyn yn strategaeth.
Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn ceisio cyflwyno twristiaeth gynaliadwy drwy:
- Annog a hyrwyddo twristiaeth mewn ffordd sy'n gwarchod yr amgylchedd a helpu'r gymuned leol
- Rheoli ymwelwyr er mwyn lleihau'r difrod i'r amgylchedd yn y parc cenedlaethol ond ar yr un pryd helpu ymwelwyr i fwynhau eu hymweliad
- Helpu pobl i fwynhau eu hymweliad drwy ddarparu cyfleusterau da
- Helpu pobl leol i elwa o dwristiaid sy'n ymweld â'r Parc Cenedlaethol
- Datblygu prosiectau twristaidd sy'n helpu gwarchod yr amgylchedd a helpu'r cymunedau yn y Parc Cenedlaethol.
Nid yw twristiaeth gynaliadwy yn golygu rhwystro twristiaid ymweld â'r ardal ond yn hytrach mae'n cefnogi'r math iawn o dwristiaeth, a gwneud yn siŵr nad yw'r ardal yn cael ei difrodi gan dwristiaeth. Mae hefyd am helpu pobl leol i elwa o dwristiaeth.

Aros yn lleol
- aros mewn gwestai a
mannau Gwely a Brecwast sy'n
eiddo i bobl leol
(Llun Gwesty'r Alarch, y Gelli
Gandryll, Canolbarth Cymru)

Prynu yn lleol
- prynwch fwyd a chynhyrchion
eraill o siopau lleol
(Pobl yng nghanol y dref, Gŵyl
Lyfrau Flynyddol, Y
Gelli Gandryll, Canolbarth Cymru)

Bwyta yn lleol
- defnyddiwch dai bwyta
lleol a chaffis, yn hytrach
na chadwyni cenedlaethol
neu ryngwladol.
Prosiectau Twristiaeth Gynaliadwy ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
1. Grŵp Dreigiau Gwyrdd Bannau Brycheiniog – Darparwyr Llety
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wedi sylweddoli fod mwy a mwy o ymwelwyr (yn arbennig y rhai o Ewrop) am wybod pa mor amgylcheddol gyfeillgar yw'r mannau lletya y bwriadant aros ynddynt. Mae cynllun y Dreigiau Gwyrdd yn cynnwys grŵp o ddarparwyr llety yn y Parc Cenedlaethol sydd wedi ymrwymo i arferion cynaliadwy a gwarchod yr amgylchedd lleol. Mae cynllun y Dreigiau Gwyrdd yn rhoi sicrwydd i ymwelwyr cyn iddynt archebu eu llety.
Mae'r cyrff sy'n ymwneud â'r cynllun yn cynnwys:
- Hostelau ieuenctid
- Darparwyr gweithgareddau
- Gwersyllfaoedd/meysydd carafanau
- Darparwyr hunan-arlwyo
- Darparwyr Gwely a Brecwast
Bydd Grŵp y Ddraig Werdd yn marchnata eu hunain fel cyrff sy'n hyrwyddo twristiaeth gynaliadwy drwy gylchgronau arbenigol.
2. Siarter Amgylcheddol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog – Darparwyr Gweithgareddau
Ymrwymiad yw'r Siarter ar ran y canolfannau gweithgareddau a darparwyr gweithgareddau eraill o safbwynt y defnydd cynaliadwy o ardaloedd o fewn Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog . Mae aelodau grŵp y Siarter wedi ymrwymo i:
- Annog eu cwsmeriaid i ddeall a gwerthfawrogi nodweddion arbennig y Parc Cenedlaethol a'r ffyrdd y gellir gofalu amdano
- Dilyn arfer da ar gyfer defnydd cynaliadwy o'r Parc Cenedlaethol
- Gweithredu mewn ffordd sy'n cadw perthynas dda â defnyddwyr eraill
- Annog cydweithwyr, clientau a myfyrwyr i fwynhau a pharchu bywyd gwyllt, tirlun a threftadaeth ddiwylliannol y Parc Cenedlaethol
- Cydnabod bod nifer o safleoedd, planhigion ac anifeiliaid yn cael eu gwarchod gan y gyfraith ac er mwyn osgoi ymyrraeth
- Deall fod yr holl dir yn eiddo i rhywyn a dangos parch tuag at dirfeddianwyr
- Annog eu cwsmeriaid i ddangos parch at anghenion preswylwyr lleol.
3. Gweithredu ar gyfer Cylchlythyr Twristiaeth – busnesau twristiaeth
Mae'r cylchlythyr yn cael ei anfon at fusnesau twristiaeth ym Mannau Brycheiniog i adael gwybod iddynt am faterion a phrosiectau twristiaeth gynaliadwy y mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn ymgymryd â hwy. Mae'n cynnwys gwybodaeth am ddyddiau hyfforddi sydd ar gael ar gyfer busnesau twristiaeth, manylion prosiectau newydd a gwybodaeth berthnasol arall.
4. Cludiant cynaliadwy – ymwelwyr
Cynllun diweddar a gyflwynwyd gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol yw 'Bws y Bannau'. Bysiau yw'r rhain sy'n dod ag ymwelwyr o drefi a dinasoedd cyfagos i'r Parc Cenedlaethol ar ddyddiau brig ac i fwrw'r Sul yn yr haf, ac yn annog ymwelwyr i adael eu ceir gartref. Mae'r bysiau yn gollwng yr ymwelwyr yn Aberhonddu ac oddi yno gallant gael mynediad i deithiau cerdded, gweithgareddau ac atyniadau.
- Amlinellwch beth yw ystyr y term 'twristiaeth gynaliadwy'.
- Rhowch grynodeb o'r pedwar mesur y mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wedi eu cymryd i gynnal twristiaeth gynaliadwy.
- Dyluniwch boster ar gyfer beicwyr yn rhoi gwybodaeth iddynt am sut y maent yn cefnogi twristiaeth gynaliadwy drwy ddefnyddio cynllun Bws y Bannau.


