Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
8. Pob gweithgaredd ac Ymchwil a restrwyd
Gweithgareddau ac ymchwil 1
- Felly, beth yw'r gwahaniaeth rhwng Parc Cenedlaethol a pharc thema?
- Amlinellwch bwrpas Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol.
- Chwiliwch am enwau Parciau Cenedlaethol yr Alban.
- Eglurwch pam nad yw ymwelwyr yn gorfod talu i fynd i Barciau Cenedlaethol a pham y maent yn agored gydol y flwyddyn.
Gweithgareddau ac ymchwil 2
- Darganfyddwch ffeithiau sylfaenol am un Parc Cenedlaethol arall, megis Arfordir Penfro neu Eryri a'i gymharu ag un Bannau Brycheiniog.
- Cynhyrchwch gyflwyniad PowerPoint yn cyflwyno Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
- Defnyddiwch gynllunydd taith i wybod sut i gyrraedd Aberhonddu o'r lle rydych yn byw.
- Eglurwch pam y gall cael mwy o ymwelwyr sy'n aros yn gymorth i economi Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Gweithgareddau ac ymchwil 3
- Dyluniwch bamffled yn hyrwyddo manteision cerdded ym Mannau Brycheiniog.
- Ymchwiliwch i'r ystod o weithgareddau sydd ar gael yn Llyn Llan-gors.
- Awgrymwch sut y gall ymwelwyr dreulio diwrnod neu hanner diwrnod yn nhref Aberhonddu a'r cyffiniau.
- Beth sy'n digwydd yng Ngŵyl Y Gelli Gandryll?
- Ymchwiliwch i'r cynhyrchion a'r gwasanaethau sydd ar gael yng Nghanolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol yn Libanus ac ym Mharc Gwledig Craig-y-nos.
Gweithgareddau ac ymchwil 4
- Dychmygwch eich bod yn berson ifanc yn byw yn lleol ac yn methu â fforddio prynu tŷ. Ysgrifennwch lythyr at eich papur lleol, yn amlinellu eich problemau ac i ddweud pam y dylid lleihau y nifer o ail gartrefi.
- Dyluniwch boster ar gyfer cerddwyr yn awgrymu sut y gallant leihau eu heffaith ar amgylchedd Bannau Brycheiniog.
- Crynhowch effeithiau twristiaeth ym Mannau Brychiniog ar ffurf cyflwyniad PowerPoint.
.Gweithgareddau ac Ymchwil 5
- Amlinellwch beth yw ystyr y term 'twristiaeth gynaliadwy'..
- Rhowch grynodeb o'r pedwar mesur y mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wedi eu cymryd i gynnal twristiaeth gynaliadwy.
- Dyluniwch boster ar gyfer beicwyr yn rhoi gwybodaeth iddynt am sut y maent yn cefnogi twristiaeth gynaliadwy drwy ddefnyddio cynllun Bws y Bannau.
.Gweithgareddau ac Ymchwil 6
- Rhowch grynodeb o ddarganfyddiadau'r ymchwil gan ddefnyddio siartiau a graffiau.
- Darganfyddwch fwy o wybodaeth o arolwg 2005 drwy ymweld â gwefan Awdurdod y Parc Cenedlaethol. Chwiliwch am fwy o wybodaeth am y mathau o lety lle mae pobl yn aros.
.Gweithgareddau ac Ymchwil 7
- Cynhyrchu cyflwyniad PowerPoint i bedair sleid yn crynhoi dadansoddiad CGCB (SWOT) ar gyfer y Parc Cenedlaethol.
- Sut y gallai Awdurdod y Parc Cenedlaethol fynd i'r afael â'r gwendidau a amlinellwyd yn y CGCB (SWOT)?
- Beth yn eich barn chi yw'r prif fygythiadau i'r Parc Cenedlaethol? Rhowch resymau dros eich ateb.