The Brecon Beacons National Park

Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Gweithgareddau ac ymchwil 2

2. Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog – Gwybodaeth Allweddol

  • Yn gorchuddio 1347 cilomedr sgwâr.
  • Y prif drefi yw Aberhonddu, Crucywel a'r Gelli Gandryll
  • Mae tua 33,000 o bobl yn byw o fewn y parc cenedlaethol.
  • Mae'r parc ar ymylon maes glo De Cymru a'r pwynt uchaf yw Pen-y-Fan ar 886 metr.
  • Mae'r tirlun yn amrywiol ac yn cynnwys dyffrynnoedd rhewlifol, mawnogydd a rhostiroedd grug yn ogystal â systemau ogofâu, afonydd a rhaeadrau.
  • Mae'r tirlun dynol yn cynnwys bryngeiri hynafol, cestyll ac eglwysi.
  • Mae'r aneddiadau presennol yn cynnwys trefi gwasgarog a phentrefi a ffermydd mynydd.
  • Ceir tua 3.4 miliwn o ymweliadau undydd i'r parc.
  • Mae tua 250,000 o bobl yn aros am o leiaf un noson yn y parc.
  • Cyflogir tua 2,900 o bobl yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol yn gysylltiedig â thwristiaeth yn y parc cenedlaethol.
  • Mae pob ymwelydd undydd yn gwario tua £22 ar gyfartaledd, a phob ymwelydd sy'n aros yn gwario tua £90.
Machlud haul dros Ben y Fan o Gomin Mynydd Illtud

Machlud haul dros Ben y Fan

o Gomin Mynydd Illtud

Cefnau a chopaon – Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Cefnau a chopaon

Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Ymwelwyr i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Fel ym mhob un o'r Parciau Cenedlaethol daw y mwyafrif o'r ymwelwyr i Fannau Brycheiniog yn eu ceir. Mae pawb sy'n byw yn ne Cymru, Birmingham a Gorllewin y Canolbarth o fewn taith dwy awr i'r parc, yn ogystal â'r rhai sy'n byw ym Mryste a Chaerfaddon.

Gellir dosbarthu yn dri grŵp yr ymwelwyr a ddaw i Fannau Brycheiniog.

  1. Ymwelwyr undydd. .  Y rhain yw'r bobl sy'n byw yn yr ardal o amgylch y parc yn cynnwys Caerdydd, Birmingham a threfi mawr eraill, sy'n ymweld â'r parc am y diwrnod, yn cymryd rhan mewn rhyw weithgaredd hamdden neu adloniadol ac yna dychwelyd adref.
  1. Twristiaid sy'n aros o fewn ffiniau'r Parc. Bydd y bobl hyn ar wyliau neu'n aros ar rhyw bwrpas twristaidd megis busnes neu ymweliad addysgol.
  1. Twristiaid nad ydynt yn aros o fewn y Parc ond yn ymweld â'r Parc fel rhan o'u gwyliau neu rhyw weithgaredd twristaidd arall.
Bwlch yr Efengyl ger Y Gelli Gandryll, Powys

Bwlch yr Efengyl

Y Gelli Gandryll, Powys

Mae'r grwpiau hyn yn effeithio'n wahanol ar amgylchedd ac economi Bannau Brycheiniog.

Bydd y bobl sy'n ymweld am y dydd yn tueddu i ddod mewn car gan achosi llygredd a bydd angen rhywle iddynt barcio eu ceir pan gyrhaeddant. Os nad oes meysydd parcio ar gael tueddant i barcio ar ymylon palmentydd ac ochrau ffyrdd gan achosi difrod i'r tirlun. Hefyd, os cyrhaeddant neu adael ar yr un pryd, ac mae hyn yn bosibl, byddant yn achosi tagfeydd. Yr un modd, nid yw'r rhai sy'n teithio am y diwrnod yn cyfrannu fawr ddim at economi'r Parc. Gallant beidio â thalu i ymweld ag atyniadau a gallant beidio â phrynu bwyd a chynhyrchion eraill gan y gymuned leol.

Cerddwyr ym Mannau Brycheiniog ger Storey Arms

Cerddwyr ym Mannau Brycheiniog

ger Storey Arms

Bydd y bobl sy'n aros yn y Parc fel arfer yn cyfrannu mwy at yr economi leol. Byddant yn aros mewn llety sy'n eiddo pobl leol, prynu bwyd a chynhyrchion eraill gan fusnesau lleol ac yn fwy tebygol o ymweld ag atyniadau. Byddant hefyd yn rhyngweithio mwy â'r gymuned a dysgu mwy am y diwylliant lleol a'r amgylchedd.

Un o'r sialensiau sy'n wynebu Awdurdod y Parc Cenedlaethol yw sut i droi ymwelwyr undydd yn ymwelwyr sy'n aros fel eu bod yn cyfrannu mwy at economi Bannau Brycheiniog.

Gweithgareddau ac Ymchwil 2

  1. Darganfyddwch ffeithiau sylfaenol am un Parc Cenedlaethol arall, megis Arfordir Penfro neu Eryri a'i gymharu ag un Bannau Brycheiniog.
  1. Cynhyrchwch gyflwyniad PowerPoint yn cyflwyno Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
  1. Defnyddiwch gynllunydd taith i wybod sut i gyrraedd Aberhonddu o'r lle rydych yn byw.
  1. Eglurwch pam y gall cael mwy o ymwelwyr sy'n aros yn gymorth i economi Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.