Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
Gweithgareddau ac ymchwil 3
3. Gweithgareddau ac Atyniadau ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
Fel pob Parc Cenedlaethol, mae Bannau Brycheiniog yn darparu cyfleusterau ar gyfer ystod o weithgareddau adloniant awyr agored. Y gweithgareddau mwyaf poblogaidd yw cerdded, beicio mynydd a beicio yn ogystal ag ystod o weithgareddau sy'n seiliedig ar ddŵr.
Cerdded
Fel mewn sawl parc cenedlaethol, cerdded yw'r gweithgaredd hamdden mwyaf poblogaidd. Ceir nifer o deithiau â digon o arwyddbyst sy'n amrywio o ran hyd ac anawsterau. Mae cerdded yn ffordd i ymwelwyr werthfawrogi prydferthwch tirlun y Parc Cenedlaethol. Gall y cerddwyr gael arweinwyr yn y Canolfannau Gwybodaeth sy'n rhoi manylion am y teithiau cerdded:
- Gall y cerddwr gael gwybodaeth am yr ardal lle mae'n cerdded
- Maent yn llai tebygol o fynd ar goll neu grwydro ar dir na ddylent gerdded arno, ac felly nid yw ffermwyr lleol na thirfeddianwyr yn cael eu tarfu.
- Mae'r ymwelydd yn fwy tebygol o ddychwelyd i fynd ar deithiau eraill yn yr ardal.
- Gall y llwybrau annog cerddwyr i ymweld â busnesau twristaidd lleol megis tafarndai a chaffis i wario eu harian.
- Gall arweinwyr roi gwybodaeth am gyfleusterau eraill sydd ar gael yn y Parc Cenedlaethol.
Beicio
Mae'n bwysig hyrwyddo gweithgareddau megis beicio ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Gall busnesau o fewn y parc gefnogi beicwyr mewn nifer o ffyrdd (llogi a thrwsio beiciau, darparu bwyd a diod, ayyb.)
Mae gwella ansawdd y wybodaeth sydd ar gael i feicwyr yn cael ei ystyried yn flaenoriaeth. Syniad pwysig arall yw gwella cysylltau rhwng systemau cludiant cyhoeddus a llwybrau beicio fel bod beicwyr yn dibynnu llai ar eu ceir eu hunain.
Mae beicio mynydd wedi cynyddu'n ddramatig yn ddiweddar a bu'n rhaid i Awdurdod y Parc Cenedlaethol ddatblygu traciau a llwybrau newydd i gyfarfod ag anghenion y rhai sy'n mwynhau y sport newydd hwn. Mae 16 llwybr beiciau mynydd wedi eu creu ac maent i gyd yn cychwyn o un o bum lleoliad neu ' ganolbwynt'. Fel gyda seiclo ar y ffyrdd, mae pecynnau teithiau ar gael.
Gweithgareddau Dŵr
Ceir ystod eang o weithgareddau seiliedig ar ddŵr. Mae canŵio a mynd mewn ceiac yn boblogaidd ac mae modd pysgota dŵr croyw yn y nifer o lynnoedd ac afonydd.
Yn Llyn Llan-gors ceir cyfle i hwylio a bordhwylio yn ogystal.
Merlota a marchogaeth
Mae Cymdeithas Ceffylau Prydain wedi dyfarnu'r wobr 'Mynediad Gorau' i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog am iddo agor llwybrau marchogaeth newydd ac mae hyn wedi arwain at fanteision i fusnesau o fewn y Parc Cenedlaethol.
Atyniadau
Atyniad naturiol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yw'r tirlun o fynyddoedd, gweundiroedd, afonydd ac ogofâu, ynghyd â bywyd gwyllt a geir o fewn yr ardal.
Mae'r atyniadau adeiledig yn cynnwys y cestyll a'r bryngeiri hynafol yn ogystal â Chamlas Aberhonddu a Sir Fynwy.

Pobl yn pysgota a chwpl ar gwch cul, Camlas Sir Fynwy a Brycheiniog, Bannau Brycheiniog, de-ddwyrain Cymru
Mae'r atyniadau a adeiladwyd i bwrpas yn cynnwys Canolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol yn Libanus a Pharc Gwledig Craig-y-nos.
Mae trefi hanesyddol, megis Aberhonddu, Y Gelli Gandryll a Chrucywel hefyd yn denu ymwelwyr.
- Dyluniwch bamffled yn hyrwyddo manteision cerdded ym Mannau Brycheiniog.
- Ymchwiliwch i'r ystod o weithgareddau sydd ar gael yn Llyn Llan-gors.
- Awgrymwch sut y gall ymwelwyr dreulio diwrnod neu hanner diwrnod yn nhref Aberhonddu a'r cyffiniau.
- Beth sy'n digwydd yng Ngŵyl Y Gelli Gandryll?
- Ymchwiliwch i'r cynhyrchion a'r gwasanaethau sydd ar gael yng Nghanolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol yn Libanus ac ym Mharc Gwledig Craig-y-nos.