Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
Gweithgareddau ac Ymchwil 7
7. Dadansoddiad CGCB (SWOT) ar gyfer Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
Cryfderau
- Amgylchedd naturiol o ansawdd uchel gydag ystod o dirluniau a golygfeydd
- Bioamrywiaeth gyfoethog a chyfleoedd da i brofi bywyd gwyllt
- Cyfleoedd da ar gyfer cerdded, beicio, marchogaeth a gweithgareddau eraill
- Yn agos at nifer fawr posibl o ymwelwyr sy'n aros
- Mae Bannau Brycheiniog yn enw(brand) adnabyddus ym marchnad dwristaidd domestig y DU
- Rhwydwaith dda o ddarparwyr gweithgareddau
- Rhai digwyddiadau tra chyfarwydd
- Busnesau yn barod i ddod at ei gilydd a gweithio mewn partneriaethau
- Rhai mannau hunanarlwyol, gwersylla a thai bwyta wedi derbyn gwobrwyon.
Gwendidau
- Gormodedd o ymwelwyr diwrnod
- Gorddibyniaeth ar geir i deithio i'r Parc Cenedlaethol ac oddi fewn iddo
- Gostyngiad yn nifer y bobl sy'n dymuno aros mewn llety sy'n cynnig gwasanaethau
- Dosbarthiad anghyson o fusnesau twristaidd ar draws y Parc Cenedlaethol
- Darpariaeth gyfyngedig o atyniadau ar gyfer ymwelwyr, lletyau mwy o faint â gwasanaethau (gwestai) a thai bwyta o safon
- Ansawdd amrywiol y lleoedd aros sy'n cynnig gwasanaeth
- Prinder cyfleusterau twristaidd mewn rhai mannau gwledig
- Nifer isel o awdurdodau lleol sy'n ymwneud â'r Parc Cenedlaethol
- Lefelau cymharol isel o wario gan ymwelwyr undydd ac ymwelwyr yn aros
Cyfleoedd
- Twf yn y farchnad gwyliau byr yn arbennig y rhai sydd â diddordeb mewn:
-iechyd a lles
-gweithgareddau
-bwyd a diod
-treftadaeth a diwylliant
-twristiaeth bywyd gwyllt;
- Yn ddaearyddol yn agos at brif farchnadoedd
- Datblygiad ymweliadau yn defnyddio llwybrau cludiant cyhoeddus:
- Llinell Calon Cymru
- Y Fenni fel gorsaf fynedfa
- Bws y Bannau
- Datblygiad Bannau Brycheiniog fel brand
- Gwneud y gorau o fanteision y prif ddigwyddiadau yn y Parc Cenedlaethol
- Cynyddu'r defnydd o'r Rhyngrwyd ar gyfer archebu llety ymlaenllaw a chael gwybodaeth i'r ymwelwyr
- Mwy o bwyslais ar ddulliau byw iach, agenda iechyd a 'dihangdod'
- Diddordeb cynyddol mewn cynnyrch lleol yn arbennig bwyd a diod.
Bygythiadau
- Rheoli'r amrywiol asiantaethau a chyrff cyhoeddus sy'n gweithio yn y Parc Cenedlaethol
- Methiant i ennyn diddordeb y sefydliadau yn y sector preifat
- Cystadleuaeth gynyddol o gyrchfannau eraill mewn mannau eraill yn y DU a thramor
- Lleihad yn y cyllido cyhoeddus ar gyfer Croeso Cymru a byrddau twristaidd rhanbarthol eraill
- Methiant i ddangos pwysigrwydd twristiaeth yn yr economi
- Twristiaeth wedi 'i ddyfeisio ac yn creu adweithiau negyddol ar yr amgylchedd a difrodi'r amgylchedd mewn rhai lleoliadau.
- Cynhyrchu cyflwyniad PowerPoint i bedair sleid yn crynhoi dadansoddiad CGCB (SWOT) ar gyfer y Parc Cenedlaethol.
- Sut y gallai Awdurdod y Parc Cenedlaethol fynd i'r afael â'r gwendidau a amlinellwyd yn y CGCB (SWOT)?
- Beth yn eich barn chi yw'r prif fygythiadau i'r Parc Cenedlaethol? Rhowch resymau dros eich ateb.