Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
Gweithgareddau ac ymchwil 4
4. Effeithiau Twristiaeth ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
Effeithiau Economaidd Cadarnhaol
Effeithiau Economaidd Cadarnhaol
Mae nifer mawr o fusnesau o fewn y parc cenedlaethol yn dibynnu'n uniongyrchol ar dwristiaeth am eu hincwm. Ceir dros 100 o ganolfannau gweithgareddau awyr agored a'u gweithredwyr yn ogystal â darparwyr llety a darparwyr atyniadau. Un o brif ffynonellau cyflogaeth i bobl sy'n byw yn y parc cenedlaethol yw'r gwestai a'r mannau arlwyo. Fe gyfrifir fod twristiaeth yn werth mwy na £126 miliwn i'r economi leol bob blwyddyn – tua £4,000 ar gyfer pob person sy'n byw o fewn y parc cenedlaethol.
Mae swyddi megis hyfforddwyr dringo creigiau yn cael eu creu oherwydd y nifer o ymwelwyr sy'n dod i'r ardal i gymryd rhan yn y gweithgaredd hwn.
Mae nifer o siopau a busnesau eraill hefyd yn gwerthu ystod o gynnyrch i'r twristiaid ac nid ydynt yn gallu dibynnu'n unig ar y masnach a ddaw o'r bobl sy'n byw yn y parc cenedlaethol.Hefyd, gan fod cymaint o'r gweithgaredd twristaidd yn digwydd ym misoedd yr haf mae nifer o'r swyddi sy'n gysylltiedig â thwristiaeth yn tueddu i fod yn rhai tymhorol ac ni chyflogir rhai pobl gydol y flwyddyn.
Effeithiau economaidd negyddol
Fel mewn Parciau Cenedlaethol eraill, mae mwy o bobl yn prynu ail gartrefi. (Ail gartref yw'r un sy'n cael ei brynu gan rhywun sydd â'i brif gartref y tu allan i'r Parc Cenedlaethol ac yn dod iddo ddim ond i fwrw'r Sul a gwyliau).
Mae'r galw am ail gartrefi yn golygu fod prisiau eiddo yn cynyddu o fewn y Parc Cenedlaethol ac nid yw pawb o'r bobl leol yn gallu fforddio prynu eu cartrefi eu hunain.
Effeithiau Cymdeithasol/Diwylliannol Cadarnhaol
Fel mewn sawl Parc Cenedlaethol, cedwir rhai gweithgareddau traddodiadol a digwyddiadau yn fyw yn bennaf drwy dwristiaeth. Mae rhai o westai'r ardal yn gweini bwydydd a chynnyrch lleol.
Effeithiau cymdeithasol/diwylliannol negyddol
Ceir pryder y gallai cymunedau'r pentrefi o fewn y parc ddioddef pe byddai nifer yr ail gartrefi yn parhau i gynyddu.
Gall y bydd nifer y bobl ifanc a'r plant yn lleihau; gall ysgolion gau a'r iaith Gymraeg ddioddef.
Effeithiau Amgylcheddol Cadarnhaol
Nid ywn hawdd adnabod effeithiau cadarnhaol twristiaeth ar yr amgylchedd. Mewn rhai achosion, mae cynnydd mewn diddordeb twristaidd yn arwain at ddiogelu ac adfer adeiladau. Hefyd, gellid dadlau fod ymwelwyr sy'n deall a pharchu'r tirlun yn llai tebygol o ddifrodi'r tirlun.
Effeithiau Amgylcheddol Negyddol
Yn uwchdiroedd y parc cenedlaethol, yr effaith mwyaf cyffredin yw erydiad a achosir gan gerddwyr. Mae sgidiau cerdded yn achosi difrod i'r llystyfiant ac mae cerddwyr yn cywasgu'r pridd wrth iddynt gerdded dros y ddaear. Pan mae'n bwrw mae pyllau dŵr yn ffurfio ar y llwybrau ac felly mae cerddwyr yn tueddu i gerdded ar y naill ochr, gan ehangu lled y llwybr ac achosi mwy o erydiad.
Mae gwaith wedi dechrau i atgyweirio'r llwybrau ac i amddiffyn y tirlun rhag mwy o erydiad.
Y gweithgaredd mwyaf poblogaidd ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yw mynd o gwmpas mewn car i werthfawrogi'r golygfeydd. Mae nifer mawr o geir yn effeithio ar yr amgylchedd ac ar ansawdd bywyd y bobl sy'n byw yn yr ardal.
Hefyd, gall meysydd parcio ddifrodi'r tirlun ac achosi llygredd aer oherwydd allyriannau pibellau gwacáu ceir.
- Dychmygwch eich bod yn berson ifanc yn byw yn lleol ac yn methu â fforddio prynu tŷ. Ysgrifennwch lythyr at eich papur lleol, yn amlinellu eich problemau ac i ddweud pam y dylid lleihau y nifer o ail gartrefi.
- Dyluniwch boster ar gyfer cerddwyr yn awgrymu sut y gallant leihau eu heffaith ar amgylchedd Bannau Brycheiniog.
- Crynhowch effeithiau twristiaeth ym Mannau Brychiniog ar ffurf cyflwyniad PowerPoint.