English

Sesiwn 1:
Deddfwriaeth Peiriannau

Erbyn diwedd y sesiwn hon byddwch chi'n gallu:

Disgrifio ac esbonio beth yw arwyddocâd y ddeddfwriaeth gyfredol a chanllawiau arferion gorau'r diwydiant i'r peiriannau rydych chi'n eu defnyddio.

  • Rheoliadau Darparu a Defnyddio Cyfarpar Gwaith 1998 (PUWER)
  • Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974
  • Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1999
  • Rheoliadau Rheoli Sylweddau sy'n Peryglu Iechyd 2002 (COSHH)
  • Rheoliadau Gweithrediadau Codi a Chario 1992
  • Rheoliadau Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) yn y Gwaith 1992
  • Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990
  • Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981
  • Rheoliadau Rheoli Sŵn yn y Gwaith 2005
  • Rheoliadau Rheoli Dirgryniadau yn y Gwaith 2005
  • Rheoliadau Gweithrediadau Codi a Chyfarpar Codi 1998

Rheoliadau Darparu a Defnyddio Cyfarpar Gwaith 1998

PUWER 98 yw un o'r setiau mwyaf pwysig o reoliadau sy'n ymwneud â diogelwch cerbydau a pheiriannau sy'n cael eu darparu i'w defnyddio yn y gwaith.

Mae'r Rheoliadau'n dweud bod rhaid i risgiau i iechyd a diogelwch pobl, o'r offer y maen nhw'n eu defnyddio yn y gwaith, gael eu hatal neu eu rheoli'n ddigon da.

Yn gyffredinol, mae'r Rheoliadau'n dweud bod rhaid i offer gwaith fod:

  • yn addas i'r defnydd rydych chi'n ei fwriadu
  • yn ddiogel i'w defnyddio, yn cael ei gynnal a'i gadw mewn cyflwr diogel
  • yn cael eu ddefnyddio dim ond gan bobl sydd wedi cael hyfforddiant digonol, ac sy'n dilyn mesurau diogelwch addas, e.e. dyfeisiadau diogelwch, cyfarwyddiadau, rhybuddion.

PUWER 98: Tractorau

Yn gryno, mae'n rhaid i dractorau fod:

  • yn addas i'r defnydd rydych chi'n ei fwriadu, e.e. tractor gyriant pedair olwyn er mwyn gweithio ar lethrau
  • yn cael eu cynnal a'u cadw a'u gwirio yn rheolaidd gyda chofnodion perthnasol yn cael eu cadw, e.e. gwaith cynnal a chadw er mwyn cywiro pethau sydd o'u lle a gwirio brêcs, y llywio ac ati.
  • Mae'n rhaid i'r rhai sy'n rhedeg peiriannau fod wedi'u hyfforddi'n ddigonol ac yn gymwys, e.e. hyfforddiant yn y gweithle, hyfforddiant ffurfiol a Thystysgrifau Cymhwysedd yn ddelfrydol.
  • Mae pwyntiau eraill yn cynnwys darparu bar rholio neu gaban, allwedd/agoriad sy'n gallu cael ei dynnu o'r tractor er mwyn dechrau/stopio'r tractor a diogelu a pharcio siafftiau PTO.

Pwy sy'n dod o dan Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974?

Mae Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 yn un bwysig ac mae'n cwmpasu dyletswyddau cyfreithiol:

  • Cyflogwyr
  • Gweithwyr
  • Pobl Hunangyflogedig

Pwrpas y ddeddf yw darparu fframwaith cyfreithiol i annog safonau uchel o ran iechyd a diogelwch yn y gwaith.

Beth yw nodau'r Ddeddf?

Ei nodau yw:

  • Sicrhau iechyd, diogelwch a lles personau yn y gwaith.
  • Diogelu'r cyhoedd yn gyffredinol rhag peryglon iechyd a diogelwch sy'n cael eu hachosi gan weithgareddau personau yn y gwaith.
  • Rheoli sut mae sylweddau ffrwydrol neu hynod fflamadwy neu beryglus fel arall yn cael eu cadw a'u defnyddio. Yn gyffredinol, atal sylweddau fel hyn rhag cael eu caffael, eu perchnogi a'u defnyddio.
  • Rheoli sut mae sylweddau niweidiol neu dramgwyddus o safleoedd yn cael eu rhyddhau i'r atmosffer.

Cyfrifoldeb Cyflogwyr

  • Darparu amgylchedd gweithio iach.
  • Darparu offer a systemau gwaith diogel.
  • Darparu gwybodaeth, cyfarwyddyd, hyfforddiant a goruchwylio.
  • Trefnu i wrthrychau a sylweddau gael eu storio, eu cludo a'u defnyddio'n ddiogel.
  • Darparu cyfleusterau lles digonol.
15

Cyfrifoldeb Gweithwyr

  • Cymryd gofal rhesymol o'u hiechyd a'u diogelwch eu hunain.
  • Cymryd gofal rhesymol o bobl eraill a all gael eu heffeithio gan yr hyn maen nhw'n ei wneud neu'n peidio ei wneud yn y gwaith.
  • Cydweithio â'u cyflogwr ar iechyd a diogelwch.
  • Peidio ag ymyrryd ag unrhyw beth neu gamddefnyddio unrhyw beth sydd yno er mwyn eu hiechyd, eu diogelwch neu'u lles.
14

Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1999

Mae Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1999 yn rhoi dyletswydd ar gyflogwyr i asesu a rheoli'r risgiau i'w gweithwyr ac eraill sy'n codi o weithgareddau gwaith.

Mae'n rhaid i weithwyr weithio'n ddiogel gan ddilyn yr hyfforddiant a'r cyfarwyddiadau a gawson nhw.

12

Rheoliadau Rheoli Sylweddau sy'n Peryglu Iechyd 2002 (COSHH)

COSHH yw'r ddeddf sy'n dweud bod rhaid i gyflogwyr reoli sylweddau sy'n beryglus i iechyd. Mae'n bosibl lleihau faint o sylweddau peryglus y mae gweithwyr yn dod ar eu traws drwy:

  • benderfynu beth sy'n peryglu iechyd;
  • penderfynu sut i reoli niwed i iechyd (asesiad risg);
  • darparu mesurau rheoli fel bod llai o niwed i iechyd.

Rheoliadau Gweithrediadau Codi a Chario 1992

Mae'r rheoliadau hyn yn rhoi'r mesurau ar gyfer ymdrin â risgiau o godi a chario, sef:

yn gyntaf: osgoi gweithrediadau codi a chario peryglus cyn belled ag y mae'n ymarferol bosibl;

yn ail: asesu unrhyw weithrediadau codi a chario peryglus sy'n amhosibl eu hosgoi; ac

yn drydydd: lleihau'r perygl o gael anaf cyn belled ag y mae'n ymarferol bosibl.

Rheoliadau Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) yn y Gwaith 1992

Lle bynnag mae risgiau iechyd a diogelwch sy'n amhosibl eu rheoli'n ddigonol mewn ffyrdd eraill, mae Rheoliadau Cyfarpar Diogelu Personol yn y Gwaith 1992 yn dweud bod rhaid darparu PPE.

Hefyd mae'r Rheoliadau'n dweud bod rhaid i PPE:

  • gael ei asesu'n iawn cyn ei ddefnyddio i sicrhau ei fod yn addas i'r pwrpas;
  • cael ei gynnal a'i gadw a'i storio'n gywir;
  • dod gyda chyfarwyddiadau ar sut i'w ddefnyddio'n ddiogel;
  • cael ei ddefnyddio'n gywir gan gyflogwyr.
3

Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990

Mae'r ddeddf hon yn cyflwyno system rheoli llygredd integredig i gael gwared ar wastraff i'r tir, i ddŵr ac i'r aer.

Y rhannau o'r Ddeddf sy'n berthnasol i amaethyddiaeth yw:

  • Rhan 1: mae'n sefydlu system rheoli llygredd integredig er mwyn rheoli llygredd dŵr, tir ac aer o amrywiaeth o brosesau penodol.
  • Rhan 2: mae'n ymdrin â'r rheolau ar gael gwared ar wastraff, e.e. teiars, olew gwastraff, hen hidlenni, metel scrap.
  • Rhan 3: mae'n sôn am niwsansau statudol ac aer glân.
a

Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981

Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 yw'r brif ddeddfwriaeth sy'n diogelu anifeiliaid, planhigion a chynefinoedd yn y DU.

Mae rheolau llym o ran pryd mae ffermwyr yn cael torri eu cloddiau.

b

Rheoliadau Rheoli Sŵn yn y Gwaith 2005

Nod y Rheoliadau Rheoli Sŵn yw sicrhau bod clyw gweithwyr yn cael ei ddiogelu rhag gormod o sŵn yn eu lle gwaith. Os oes gormod o sŵn, gallen nhw golli eu clyw a/neu ddioddef o tinnitus (sŵn uchel yn y clustiau drwy'r amser).

9

Rheoliadau Rheoli Dirgryniadau yn y Gwaith 2005

Nod y rheoliadau hyn yw amddiffyn gweithwyr rhag peryglon iechyd o ddirgryniadau.

Mae'r rheoliadau yn cyflwyno camau gweithredu a gwerthoedd terfyn ar gyfer dirgrynu braich-llaw a'r corff cyfan.

c

Rheoliadau Gweithrediadau Codi a Chyfarpar Codi 1998

Mae'r rheoliadau hyn yn berthnasol i offer a gweithrediadau codi ac mae tractorau â llwyth yn y pen blaen yn rhan o'r rhain.

Er mwyn dilyn y rheoliadau, mae angen i gyflogwyr a'r gweithwyr:

  • ddewis offer sy'n addas i'r gwaith, e.e. peidio â defnyddio picell bêls mawr i drafod llwythi eraill;
  • gwirio cyflwr yr offer, e.e. ffrâm y llwythwr am graciau, pinnau, bwshys a phibellau hydrolig;
  • sicrhau bod y darnau ychwanegol ar gyfer codi yn addas a bod y llwyth wedi'i wirio/farcio;
  • cynllunio gweithrediadau codi i sicrhau eu bod yn ddiogel.
10

Cloi

Ar ddiwedd y sesiwn hon dylech chi fod yn gallu disgrifio ac esbonio'r darnau canlynol o ddeddfwriaeth, ac esbonio sut maen nhw'n berthnasol i beiriannau ar y tir.

  • Rheoliadau Darparu a Defnyddio Cyfarpar Gwaith 1998 (PUWER)
  • Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974
  • Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1999
  • Rheoliadau Rheoli Sylweddau sy'n Peryglu Iechyd 2002 (COSHH)
  • Rheoliadau Gweithrediadau Codi a Chario 1992
  • Rheoliadau Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) yn y Gwaith 1992
  • Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990
  • Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981
  • Rheoliadau Rheoli Sŵn yn y Gwaith 2005
  • Rheoliadau Rheoli Dirgryniadau yn y Gwaith 2005
  • Rheoliadau Gweithrediadau Codi a Chyfarpar Codi 1998