English

Sesiwn 9:
Prosesau cynaeafwr cnydau porthi (cracydd corn)

NOD

  • Esbonio pam mae angen rhoi rhai cnydau drwy'r cracydd corn.
  • Dangos gwahanol atodiadau.
  • Egluro sut i addasu gwahanol gydrannau.
  • Dangos pwysigrwydd bod gwaith cynnal a chadw yn cael ei wneud.

Nodwch

Cyn gweithio ar unrhyw beiriant, gwnewch yn siŵr eich bod yn gyfarwydd â’r canlynol:

  • Asesiad risg
  • Cadw at ganllawiau diogelwch y diwydiant a llawlyfr y defnyddiwr
  • Cychwyn a stopio'n ddiogel
  • Monitro perfformiad ac allbwn y peiriant
  • Cyfathrebu'n effeithiol
  • Clirio unrhyw beth sy'n sownd mewn offer
  • Newid rhwng safleoedd gweithio a theithio
  • Gweithredu'n economaidd
  • Gweithredu'n ddiogel ac yn effeithlon.

Silwair India corn yw un o'r cynhyrchion porthiant mwyaf pwysig. Er mwyn sicrhau bod y gwerth maethol uchaf posibl yn cael ei dynnu, mae angen i bob cnewyllyn gael ei gracio'n agored.

Gwahanol fathau o gracyddion corn

Cyflymydd

Pan nad oes angen grym chwythu uchel ar y deunydd wedi'u dorri, dim ond agor y bwlch sydd ei angen – mae hyn yn golygu bod angen llai o bŵer a bydd llai o draul.

Ar gyfer cyfraddau dadlwytho uwch, gwnewch y bwlch yn llai.

Gallwch chi reoli ac addasu popeth yn hawdd, naill ai'n fecanyddol neu drwy CEBIS yn y caban.

Platiau'r cyflymydd y mae'n bosibl eu tynnu allan

Sgwd dadlwytho

  • Mae ongl dro 210° yn bosibl; mae rhai peiriannau'n gallu symud mwy.
  • Mae ffordd awtomatig ar gael o lywio'r pwynt llenwi ar y trelar yn baralel.

Ymarfer Dosbarth – Gwnewch restr o ofynion cynnal a chadw ar fecanwaith bwydo a thorri.

Rhaid glanhau ac archwilio'r rholiau bwydo ac archwilio'r rholyn bwydo blwch gêr y gyriant ar yr ochr dde.

Cofiwch archwilio siafftiau'r blwch gêr am ormod o "le rhydd", hefyd rhaid iro.

Rhaid iro'r cymalau cyffredinol i gyd.

Mae angen chwythu a glanhau gweddillion a llwch o dan flwch y cyllyll.

Hefyd, mae'n bwysig glanhau'r ardal hon yn aml yn ystod y tymor.

Mae'n rhaid ei lanhau cyn hogi llafnau cyllyll y torrwr i atal tân.

Golchwch y gweddillion ar y garreg hogi, hefyd gwiriwch ei chyflwr, y traul a'r difrod. Addaswch y garreg hogi os ydych chi'n gosod neu'n addasu'r llafnau.

Gwirio pob cyllell, hefyd gwiriwch am draul a difrod. Troi'r drwm a gwirio ei fod yn gytbwys.

Gwirio bod y gyllell yn clirio 0.5 mm ar draws holl lafn y gyllell.

Edrych eto ar y wers

  • Beth yw diben y cracer ŷd?
  • Sut gall y cyflymydd gael ei addasu?
  • Pa mor aml dylech chi hogi’r cyllyll?
  • Sut mae gosod y bwlch ar gyfer y cyllyll?