English

Sesiwn 10:
Gweithdrefnau ar ôl gweithio ar gyfer peiriannau ar y tir

Cyflwyniad

Ar ddiwedd y sesiwn hon a nifer o sesiynau ymarferol ac ymarfer mewn amgylchedd gwaith go iawn, byddwch chi'n gallu:

  • arddangos tasgau syml archwilio, cynnal a chadw a chyn storio.

Mae hyn yn bwysig iawn fel bod y peiriant yn dirywio cyn lleied â phosibl, ac i sicrhau ei fod mewn cyflwr lle bydd yn bosibl ei ddefnyddio’n syth y tro nesaf.

Y Gyfraith

PUWER 1998

Yn ôl Bwrdd Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE):

‘Mae Rheoliadau Darparu a Defnyddio Cyfarpar Gwaith 1998 (PUWER), yn golygu bod rhaid i chi gynnal unrhyw offer gwaith rydych chi'n eu darparu mewn cyflwr diogel i'w defnyddio fel nad yw iechyd a diogelwch pobl mewn perygl ac, mewn amgylchiadau penodol, mae'n rhaid i chi drefnu archwiliad i sicrhau mai felly mae hi o hyd.’

Beth yw'r gweithdrefnau ar ôl gweithio?

Mae llawer o weithdrefnau ar ôl gweithio y mae angen iddyn nhw ddigwydd i beiriannau ar ôl eu defnyddio. Mae'n dibynnu'n llwyr ar y math o beiriant. Dyma’r pedair tasg sylfaenol:

  • golchi
  • archwilio am ddifrod neu namau a rhoi gwybod amdanyn nhw
  • iro
  • storio.

Glanhau

Mae peiriannau ac offer fferm yn siŵr o faeddu neu drochi bob tro maen nhw'n cael eu defnyddio.

Mae glanhau'n hanfodol er mwyn atal cymhlethdodau fel:

  • sgriniau gwynt budr neu frwnt
  • goleuadau troi a goleuadau brêc sydd heb eu gorchuddio neu nad ydyn nhw'n glir.
  • breciau sydd ddim mor effeithiol
  • Hefyd, mae cael gwared ar y baw a'r mwd yn clirio'r ffordd ar gyfer archwilio hawdd er mwyn ei gwneud hi'n haws nodi diffygion fel olew'n gollwng, craciau, darnau wedi torri neu rannau sydd ar goll.
  • Mae sbwriel a baw sydd wedi crynhoi yn gallu creu peryglon tân, camweithio trydanol, offer yn cyrydu a rhydu, sy'n gallu arwain at y peiriant yn torri i lawr y tymor canlynol.

Yn olaf, mae glanhau'n bwysig iawn hefyd er mwyn sicrhau bod peiriannau'r fferm yn para ac yn byw'n hir.

Archwilio am ddifrod neu namau a rhoi gwybod amdanyn nhw

Yn ôl Bwrdd Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) a VOSA;

‘Mae'r Bwrdd Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) a VOSA (gwasanaeth profi a gorfodi'r gyfraith) yn credu bod yr oriau hir y mae ffermwyr yn eu gweithio, diffyg amser, a mwy o bwysau adeg cyfnodau prysur, cerbydau diffygion a methiant i gynnal a chadw offer i safonau cyfreithiol yn aml yn cyfrannu i ddamweiniau ffordd.’

Ar ôl glanhau'r cerbyd mae'n bwysig chwilio am unrhyw ddifrod sydd wedi digwydd.

Gallai nytiau rhydd, diffygion neu rannau rhydd gwympo i ffwrdd gyda dirgryniad, sy'n gwneud difrod i fecanwaith y peiriant, neu gallen nhw wneud niwed i'r person sy’n rhedeg y peiriant.

Pibellau a Gwregysau

Os oes system hydrolig gan dractor neu beiriant, mae ganddo bibellau a/neu diwbiau o dan wasgedd uchel. Os yw'r hylif hwn yn methu ar wasgedd uchel, mae'n gallu achosi i'r gydran fethu, colli gyriant neu broblemau eraill.

Os yw'r bibell (neu'r gwregys) yn edrych fel tasai wedi difrodi, wedi treulio neu wedi gracio, dylech roi un newydd yn ei (l)le'n syth.

Os yw'r gosodiadau neu'r cysylltiadau'n gollwng, yna dylech chi eu tynhau nhw, a rhoi seliau newydd.

Hoses and Belts

Iro

Sylwedd yw iriad sy'n lleihau ffrithiant, gwres, a threulio wrth ei gyflwyno fel haen rhwng arwynebeddau solet.

Mae defnyddio'r iriad cywir yn helpu i estyn oes y berynnau a'r peiriannau. Mae hyn yn arbed arian, amser, a llafur, fel bod gweithrediadau'n fwy effeithiol ac yn fwy dibynadwy.

Mae'r Llawlyfr Gweithredu'n nodi'r holl bwyntiau iro allweddol ar beiriant.

Rhoi saim

Defnyddiwch wn saim, glanhewch y gosodiad, rhowch y bibell yn ei lle a phwmpiwch y saim tan fod digon o saim wedi'i roi.

Chwiliwch am ffitiadau saim ar gydrannau gyrru; cysyllteddau'r brêc a'r cydiwr; a phwyntiau colyn bachyn tri phwynt.

Os oes rhan sy'n symud, fel arfer mae angen ei iro.

Greasing

Storio

Rhestr Wirio Storio'r Tymor Segur

Glanhewch yr holl offer yn drylwyr gyda golchwr pwysedd uchel.

Irwch bob pwynt.

Rhowch haen dros bob rhan sy'n rhydu'n hawdd, fel llafnau aradr neu rodiau silindr hydrolig crôm, â gwarchodydd o ansawdd uchel. Gwiriwch yr holl offer am ddarnau sydd wedi'u torri, wedi'u plygu neu wedi'u treulio. Cywirwch nhw neu rhowch rai yn eu lle fel sydd angen.

Rhowch ychydig o baent ar ardaloedd sydd wedi'u crafu neu wedi rhydu.

Rhowch haen hael o gwyr i helpu'r offer i frwydro yn erbyn effeithiau'r elfennau.

Rhestr wirio wrth storio Peiriant sy'n ei yrru ei hun (self-propelled).

Offer sy'n eu gyrru eu hunain (self-propelled).

Gwiriwch neu draeniwch, fflysiwch ac ail-lenwch y rheiddiadur â'r oerydd cywir.

Draeniwch olew'r injan a'i ddadansoddi i weld a oes halogyddion (contaminants) ynddo.

Gwiriwch hylif y system hydrolig.

Rhowch hylif newydd os oes angen.

Gwiriwch lefel hylif y trawsyriant. Os oes angen, draeniwch ac ail-lenwch. Gosodwch hidlenni newydd.

Gwiriwch y tanciau tanwydd am anweddu. Llenwch y tanciau â thanwydd o radd uchel.

Datgysylltwch geblau daear y batri os yw'r peiriant yn segur am nifer o fisoedd.

Gwiriwch wasgedd y teiars yn rheolaidd yn ystod y gaeaf.

Siediau storio

Storiwch offer mewn sied neu o dan ddarn o darpolin neu blastig trwm os yw'n bosibl.

Cloi

Ar diwedd y sesiwn hon dylech chi fod yn gallu:

  • disgrifio ac esbonio'r amrywiaeth o weithdrefnau ar ôl gweithio y mae angen eu gwneud i beiriannau ar y tir
  • rhoi rhesymau pam mae'r gweithdrefnau'n bwysig
  • gwerthuso pwysigrwydd pob gweithdrefn.