English

Sesiwn 2:
Egwyddorion gweithio a chyfyngiadau peiriannau ar y tir

Cyflwyniad

Erbyn diwedd y sesiwn hon byddwch chi'n gallu deall pwrpas, egwyddorion gweithredu a gweithio, a chyfyngiadau peiriannau ar y tir y diwydiant. Er enghraifft:

  • Peiriannau sy'n cael eu hadeiladu'n benodol, gyda threilar, ar dractorau, sy'n gyrru neu’n symud eu hunain
  • Ffynhonnell pŵer (e.e. trydan, batri, tanio gwreichionog (spark ignition), tanio cywasgol (compression ignition), PTO a hydrolig)
  • Systemau gyriant a thrawsyriant
  • Mecanweithiau torri
  • Capasiti neu ystod torri/llwyddo
  • Ystodau a lefelau mewnbwn ac allbwn
  • Addasrwydd y tir
  • Nodweddion diogelwch

Peiriannau sy'n cael eu hadeiladu'n benodol, gyda threilar, ar dractorau, rhai sy'n gyrru neu’n symud eu hunain

Ffynonellau pŵer i beiriannau

Er mwyn i beiriant weithio, rhaid bod ffynhonnell bŵer.

Mae llawer o fathau:

  • Trydan
  • Batri
  • Tanio gwreichionog (spark ignition)
  • Tanio cywasgol (compression ignition)
  • PTO
  • Hydrolig

Diffiniadau

Ffynhonnell pŵer
Disgrifiad
Enghraifft
Trydan
Peiriannau sy'n cael eu pweru'n syth o'r soced trydan.
Peiriant cneifio
Batri
Peiriannau sy'n rhedeg oddi ar fatri sy'n storio ynni.
Offer llaw batri
Tanio gwreichionog
Mae injan tanio gwreichionog (SI engine) yn injan tanio mewnol, lle mae proses danio'r cymysgedd aer-tanwydd yn cael ei danio gan wreichionyn o blwg gwreichion.
Llif gadwyn betrol
Tanio cywasgol
Injan tanio cywasgog yw lle mae'r gwres sy'n dod o gywasgu aer yn y siambr gywasgu, gyda'r tanwydd sy'n cael ei chwistrellu yn ddigon i ddechrau'r broses danio, heb fod angen gwreichionyn allanol.
Injans tractorau diesel
PTO- Ysgogi pŵer
Dyfais yw hwn sy'n trosglwyddo pŵer mecanyddol o injan i ddarn arall o offer, yn enwedig ar dractor neu gerbyd tebyg.
Siafft PTO i redeg troellwr gwrtaith
Hydrolig
Mae system hydrolig yn dechnoleg gyriant lle defnyddir hylif i symud yr ynni o, e.e. motor trydan i ysgogydd (actuator), fel silindr hydrolig. Yn ddamcaniaethol mae'n amhosibl cywasgu'r hylif ac mae llwybr yr hylif yn gallu bod yn hyblyg yn yr un ffordd â chebl trydan.
Codi breichiau tractor Hwrddbeiriant hydrolig i godi'r pen blaen

System hydrolig tractor

Systemau gyriant a thrawsyriant

Mae system trawsyriant y tractor yn cynnwys

  • y cydiwr
  • y blwch gêr
  • y differyn (differential)
  • rhydwythiad gêr terfynol (final gear reduction)

Y cydiwr

Mae'r cydiwr yn y llwybr pŵer yn union ar ôl chwylrod (flywheel) yr injan. Mae'n ddyfais sy'n cysylltu'r injan â gweddill y system. Mae cydwyr ar dractorau'n gallu gweithredu'n sych neu redeg mewn olew (gwlyb). Mae'r cydiwr gwlyb yn aml yn cynnwys sawl plât; hynny yw, mae iddo fwy nag un disg gyrru.

Mae sbringiau neu gyswllt dros y canol yn gallu cadw'r cydiwr yn ei le. Mae gwasgedd hylif yn cadw cydwyr hydrolig yn eu lle. Mae pen draw'r siafft mewnbwn yn cael ei ffitio mewn beryn yng nghanol y chwylrod ac mae'r plât wedi'i osod rhwng wyneb y chwylrod a phlât gwasgedd wedi'i lwytho â sbring.

Y cydiwr (parhad)

Er mwyn trosglwyddo'r gyriant o chwylrod yr injan i siafft y cydiwr sy'n mynd yn syth i'r blwch gêr, does ond angen gadael i blât y cydiwr gael ei ddal rhwng wynebau'r chwylrod a’r plât gwasgedd. Mae gwasgedd trwm y sbringau yn ddigon i wneud hyn ac i ffurfio gyriant solet i'r siafft.

I ryddhau'r gwasgedd ar y sbring, does ond angen gwasgu pedal troed y gyriant sy'n gwthio'r gwrthferyn ymlaen, sydd yn ei dro'n rhyddhau'r gwasgedd a'r gafael rhwng y plât gwasgedd a'r chwylrod ac mae'r gyriant i siafft y cydiwr yn gorffen.

Y cydiwr sengl, sych

Yn y cydiwr sengl, sych, mae'r cydiwr ynghlwm wrth chwyldrod yr injan fel ei fod yn cylchdroi gyda hi. Mae plât ffrithiant yn cael ei sbleinio ar siafft y cydiwr. Mae sbleiniau'n cael eu ffurfio drwy dorri hafnau siâp petryal allan ar hyd rhan o'r siafft.

Os oes sbleiniau wedi'u torri yng nghanol plât y cydiwr, mae'n bosibl paru'r rhain â'r siafft fel bydd yn llithro ar hyd y siafft, ond eto'n cylchdroi gydag e.

Y blwch gêr

Prif bwrpas y blwch gêr yw lleihau cyflymdra'r gyriant o grancsiafft yr injan cyn i'r gyriant gael ei roi i olwynion ôl y tractor.

Hefyd bydd yn newid y gyfradd cyflymdra fel sydd angen. Mae'r blwch gêr yn galluogi'r tractor i fynd am yn ôl ac mae'n galluogi'r gyriant i'r olwynion i gael ei stopio heb stopio'r injan gan ddefnyddio'r cydiwr.

Y differyn

Mae'r gyriant o'r injan yn dod mewn llinell syth gyda chrancsiafft yr injan, er mwyn gallu gyrru olwynion ôl y tractor. Nawr mae angen i'r gyriant gael ei gymryd ar onglau sgwâr i'r llinell hon.

Mae siafft allbwn y blwch gêr yn estyn ychydig y tu allan i'r blwch gêr ac mae gêr dant o'r enw piniwn befel wedi'i ffitio ar y pen.

Mae'r piniwn hwn yn masgio â gêr befel arall o'r enw'r olwyn warchod (crown wheel). Mae hyn yn gwneud tri pheth:

  • newid cyfeiriad y gyriant
  • lleihau cyflymdra
  • gadael i bob olwyn gylchdroi ar gyfradd gyflymach neu arafach na'r llall wrth droi corneli.

Y differyn (parhad)

Er mwyn i hyn allu digwydd, mae'r uned o'r enw y differyn yn cael ei defnyddio a'i rhoi'n sownd wrth yr olwyn warchod. Anfantais y differyn yw, er enghraifft, pan mae tractor yn aredig, mae un o'i olwynion fel arfer yn rhedeg ar arwynebedd seimlyd, felly mae'r olwyn honno'n gallu llithro. I ddod dros hyn, mae clo differyn yn cael ei roi ar y tractor. Bydd hyn yn gwneud i'r ddwy olwyn deithio gyda'i gilydd mewn llinell syth.

Rhydwythiad gêr terfynol

Mae gan bob blwch gêr ryw fath o rydwythiad gêr wrth i'r gyriant adael uned y differyn cyn cyrraedd yr olwynion.

Dyma ddwy enghraifft:

  • Rhydwythiad sbardun (spur reduction): Dyma lle mae'r hanner siafftiau sy'n dod o uned y differyn yn cael eu ffitio â sbardun bychan sy'n gysylltiedig ag olwyn gêr sbardun fawr sy'n union ar ben draw'r echel ôl.
  • Rhydwythiad episeiclig (epicyclic reduction): Dyma lle mae'r gyriant o'r differyn yn mynd i mewn i becyn gêr episeiclig ac mae'r gyriant yn cael ei leihau i gyflymdra'r olwyn.

Mecanweithiau torri peiriannau ar y tir

Mae'r rhan fwyaf o fecanweithiau torri ar beiriannau fferm yn medi cnydau. Enghreifftiau:

  • torwyr gwair
  • cynaeafwyr cnydau porthi
  • llifiau cadwyn a pheiriannau torri i lawr eraill

Mae'r mecanwaith torri'n amrywio, fel hyn:

  • disg
  • set o gyllyll
  • cadwyn
  • bar torri
  • un llafn
  • llafnau ffustio

Mae'n rhaid hogi pob arwyneb torri.

Enghreifftiau o fathau gwahanol o fecanweithiau torri

Capasiti llwytho ar beiriannau ar y tir

Mae capasiti llwytho gan bob peiriant sy'n cario nwyddau. Dyma bwysau'r llwyth y mae'r darn o offer yn gallu ei gario.

Trelars

I weld beth yw'r capasiti llwytho ar gyfer eich echel, edrychwch ar blât neu sticer VIN y trelar sy'n rhoi'r rhif VIN. Dylai dosbarthiad pwysau'r echel fod wedi'i restru ar yr un plât neu sticer hwnnw. Hefyd, gallai fod tag neu blât ar yr echel a fydd yn dweud beth yw'r capasiti pwysau.

Pa mor addas yw peiriannau ar y tir?

Dim ond drwy ddefnyddio tractor ac offer yn gywir y byddan nhw'n ddiogel ac yn effeithiol. Bydd rhai mathau o dir, e.e. llethrau, gwlyb, creigiog, cerrig rhydd, tir wedi'i rewi neu dail buarth yn effeithio ar afael (grip) y tractor.

Mae'r dull o osod yr offer neu ei safle yn gallu effeithio ar graidd disgyrchiant (gravity) y tractor a'r tyniant (traction) a'r gafael.

Sut mae peiriannau'n cael eu haddasu i dir anodd?

Teiars neu draciau.

Nodweddion diogelwch peiriannau ar y tir

Mae peiriannau sy'n symud yn gallu achosi niwed mewn sawl ffordd:

  • Mae pobl yn gallu cael eu taro a'u niweidio gan rannau sy'n symud y peiriant neu gan ddeunydd sy'n cael ei daflu allan. Hefyd, mae rhannau'r corff yn gallu cael eu tynnu i mewn neu eu dal yn sownd rhwng roleri, gwregysau a gyriannau pwlïau.
  • Mae ymylon miniog yn gallu niweidio drwy dorri, mae darnau pigfain yn gallu trywanu neu dorri drwy'r croen, ac mae rhannau ag arwyneb garw yn gallu achosi ffrithiant neu grafiadau.
  • Mae pobl yn gallu cael eu gwasgu gan rannau, neu rhwng rhannau sy'n symud gyda'i gilydd.
  • Mae rhannau o'r peiriant, y deunyddiau a'r allyriadau (fel stêm neu ddŵr) yn gallu bod yn ddigon poeth neu oer i losgi neu sgaldanu, ac mae trydan yn gallu achosi sioc drydan a llosgiadau.
  • Mae niwed yn gallu digwydd hefyd oherwydd bod peiriannau'n mynd yn annibynadwy ac yn datblygu namau neu pan nad yw peiriannau'n cael eu defnyddio'n gywir oherwydd diffyg profiad neu hyfforddiant.

Enghreifftiau o nodweddion diogelwch peiriannau ar y tir

Enghreifftiau o nodweddion diogelwch peiriannau ar y tir

Cloi

Nawr dylech chi fod yn gallu:

  • esbonio egwyddorion gweithio rhai peiriannau sy'n cael eu defnyddio'n gyffredin yn eu diwydiant penodol ar y tir a sut maen nhw wedi'u hadeiladu
  • dangos gwybodaeth o sut maen nhw'n gweithio
  • rhoi enghreifftiau o baramedrau perfformio.