Sesiwn 6: 
        Cyflwyniad i Offer Codi a Thorri: 
      Torwyr gwair, Cyflyrwyr, Chwalwyr a Chribinau gwair 
    
    
      Nod y sesiwn: 
      Erbyn diwedd y sesiwn hon byddwch chi'n gallu:
      
        - rhoi enghreifftiau o wahanol fathau o dorwyr gwair.
- disgrifio sut mae torwyr gwair yn gweithio.
- esbonio sut mae torwyr gwair yn gweithredu.
Nodwch
      Cyn gweithio ar unrhyw beiriant, gwnewch yn siŵr eich bod yn gyfarwydd â’r canlynol:
      
        - Asesiad risg 
- Cadw at ganllawiau diogelwch y diwydiant a llawlyfr y defnyddiwr
- Cychwyn a stopio'n ddiogel
- Monitro perfformiad ac allbwn y peiriant
- Cyfathrebu'n effeithiol
- Clirio unrhyw beth sy'n sownd mewn offer
- Newid rhwng safleoedd gweithio a theithio
- Gweithredu'n economaidd
- Gweithredu'n ddiogel ac yn effeithlon.
Torwyr gwair 
      Swyddogaeth
      Torri gwair o fath, hyd, a chyflwr amrywiol ac yna ei gyflwyno ar gyfer gwaith pellach, e.e. 
      
        - chwalu gwair
- gwneud rhesi (cribinio)
- codi â chynaeafwr, ac ati.
Torwyr Gwair
       
    
    
    
      
        - Ystod (swath) – Llinell neu res o wair wedi'i dorri ar ôl i’r peiriant ei daflu at ei gilydd.
- Am flynyddoedd lawer, roedd torwyr gwair yn rhai a oedd â bar torri. Ond nawr mae torwyr gwair cylchdro (rotary) ac i raddau llai, y ffustiwr (flail mower), wedi dod yn lle'r peiriannau hyn. 
Torrwr Gwair Bar Torri
       
 
    
      
        - Mae'r mecanwaith â chyllyll sy'n torri yn debyg i un combein. 
- Mae'r gyllell yn cael ei gyrru gan y ddyfais tynnu pŵer (PTO) drwy granc a 'pitman' (rhoden sy'n cysylltu). 
- Mae cranc y gyriant yn rhedeg ar tua 500rpm gan roi tua 1,000 o doriadau y funud. 
- Mae hyd toriad y gyllell yn 75mm ac mae dyfeisiadau diogelwch yn cynnwys mecanwaith torri'n ôl ar y bar torri, cydiwr llithro yn y prif yriant a gwregysau'r gyriant. 
 Torwyr Gwair Cylchdro 
       
 
    
      
        - Mae  cyfradd gweithio torwyr cylchdro yn uchel a does dim llawer yn mynd yn sownd ynddyn nhw, hyd yn oed mewn cnydau trwm neu lawn drysi. 
- Mae'n bosibl gweithio ar 15kmya mewn amodau gwaith da. 
- Maen nhw naill ai'n cael eu gosod ar gyswllt tri phwynt, neu'n cael eu llusgo, a'r PTO yn eu gyrru. 
- Mae rhai'n cael eu gosod ar y blaen, fel bod lle i osod ail dorrwr gwair atred (offset) ar y cyswllt ôl. 
 
 
      
 
    
      Torwyr gwair drwm 
      Mae drymiau sy'n cylchdroi yn groes i'w gilydd. Mae cyllyll sy'n hongian yn rhydd yn torri'r cnwd ac yn gwthio ystod allan o gefn y peiriant. 
      
        
          
            - dau, tri neu bedwar drwm 
- llusgo, wedi'i osod ar y blaen neu'r cefn 
- gyda chyflyrydd neu hebddo 
- lled gweithio o 1.65 i 4m 
- drymiau'n cylchdroi ar 1600 i 1800 rpm 
- 3 neu 4 cyllell i bob drwm 
- cyflymdra blaen y gyllell yw tua 70m yr eiliad (170 mya) 
- uchder torri / sofl neu fonion 20 i 100 mm 
 
        
          
            - newid yr uchder drwy gyllyll gwahanol, sgidiau o dan y drymiau, drymiau symudol, stops ar hyrddbeiriannau codi / cynnal (lifting support rams) 
- cyswllt arnofio (floatation linkage) yn galluogi'r peiriant i ddilyn amlinell y tir 
- llinell y gyriant yn cael ei diogelu â chydwyr llithro, cydwyr gor-redeg, bolltau torri a gwregysau (llithro) (slip clutches, over run clutches, shearbolts and belts (slippage)) 
 
       
    
    
    
      Ar ddiwedd y sesiwn rydych chi bellach yn gallu:
      
        - rhoi enghreifftiau o wahanol fathau o dorwyr gwair amaethyddol.
- disgrifio ac esbonio sut mae torwyr gwair yn gweithio.