English

Sesiwn 4:
Ffyrdd o leihau effaith amgylcheddol peiriannau ar y tir

Cyflwyniad

Erbyn diwedd y sesiwn hon byddwch chi'n gallu:

  • gweithredu o leiaf tri pheiriant wedi'u pweru sy'n briodol i'ch maes astudio, a hynny mewn amgylchedd diwydiannol realistig lle mae'n bosibl.
  • dweud sut gall peiriannau ar y tir ddifrodi'r amgylchedd.
  • awgrymu ffyrdd o wneud llai o ddifrod.

Tasg:

  • Dewiswch dri pheiriant o'ch maes astudio.
  • Dewch o hyd i'r llawlyfrau defnyddwyr.
  • Gwnewch asesiad risg ar y peiriant ac ar y gwaith i'w wneud.
  • Paratowch a gweithredwch y peiriant yn rheolaidd er mwyn dod yn hyfedr.
  • Tynnwch luniau (llonydd neu fideo) o'ch gweithgarwch.

Rhestr wirio – Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gyfarwydd â'r canlynol cyn ceisio gyrru peiriant newydd:

  • yr asesiad risg penodol
  • canllawiau diogelwch y diwydiant a llawlyfr y defnyddiwr
  • sut i gychwyn a stopio'n ddiogel
  • sut i fonitro perfformiad ac allbwn y peiriant
  • dal i gyfathrebu'n effeithiol wrth weithio
  • sut i glirio unrhyw beth sy’n sownd yn ddiogel
  • sut i newid rhwng safleoedd gweithio a theithio
  • sut i weithredu'r peiriant yn economaidd
  • sut i weithredu'n ddiogel ac yn effeithlon.

Difrod amgylcheddol gan beiriannau ar y tir

Mae'n bosibl ystyried yr amgylchedd fel tri maes gwahanol:

  • aer
  • pridd
  • dŵr

Mae peiriannau, e.e. tractorau, taenwyr tail, chwistrellwyr cemegau, yn gallu difrodi'r amgylchedd yn uniongyrchol. Maen nhw’n gwneud hyn naill ai drwy lygru'r amgylchedd â gwastraff gwenwynig neu'n uniongyrchol drwy wneud difrod ffisegol i'r tir ac i'r pridd.

Pridd, Aer a Dŵr

Mae'r Llywodraeth yn cynhyrchu Codau Ymarfer y dylai ffermwyr eu dilyn i osgoi difrodi'r amgylchedd.

Cyfrifoldebau staff y fferm a chontractwyr

Er mwyn osgoi llygredd a difrod i'r amgylchedd, dylai pob aelod o staff:

  • gael hyfforddiant priodol ar gyfer yr hyn y mae'n rhaid ei wneud.
  • gwybod sut i weithio a chynnal a chadw'r offer y mae’n eu defnyddio.
  • gwybod beth i'w wneud mewn argyfwng.
  • gallu dilyn unrhyw gynllun argyfwng ar gyfer y fferm.
  • cydymffurfio ag unrhyw asesiadau risg, e.e. mewn cynlluniau rheoli tail, maethynnau, pridd neu ddiogelu cnydau.
  • bod yn ymwybodol a oes unrhyw ardaloedd y gallen nhw eu niweidio wrth weithio, e.e. tarddellau (springs), ffynhonnau a dyfrdyllau (boreholes), neu Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSSIs).

Difrod i'r pridd

  • Bydd paratoi cynllun rheoli'r pridd yn eich helpu i reoli ac i diogelu’r pridd fesul cae. Hefyd gall eich helpu i nodi unrhyw ardaloedd lle gall fod angen gwaith arbennig.
  • Ystyriwch amodau'r pridd bryd bynnag y byddwch chi'n teithio dros y pridd neu'n ei drin.
  • Dewiswch systemau rheoli a dulliau a fydd yn eich galluogi i amddiffyn strwythur y pridd a'i reoli fel bod cyn lleied ag sy’n bosibl o ddŵr ffo (run-off) ac erydiad gan ddŵr a gwynt.

Llygredd aer

  • Mae mygdarth (fumes) o'r peiriannau wrth i’r injan losgi'r tanwydd yn gallu rhyddhau nwyon peryglus i'r atmosffer.
  • Mae injans sydd heb eu cynnal a'u cadw yn gallu allyrru mwg du.
  • Mae sŵn o beiriannau'n gallu achosi llygredd sŵn.

Llygredd dŵr

  • Mae tir wedi'i droi yn gallu gadael pridd yn agored ac mae'r pridd yn gallu ffoi i mewn i nentydd.
  • Gall pridd wedi erydu aros wedi'i ddal yn y dŵr (suspended) a gostwng ansawdd dŵr yfed. Mae gronynnau mwy yn gallu setlo (gwaddodi/sedimentation) yng ngraean afonydd. Mae hyn yn achosi difrod difrifol i bysgodfeydd drwy orchuddio mannau claddu wyau (spawning grounds) a lleihau'r bwyd sydd ar gael.
  • Os nad yw tanwydd ac olew yn cael eu storio'n gywir, maen nhw'n gallu achosi llygredd dŵr wrth iddyn nhw dreiddio drwy'r pridd i'r dŵr daear.

Difrod gan dractorau

Mae peiriannau trwm yn gallu achosi difrod i strwythur y pridd. Mae hyn yn gallu atal gwreiddiau planhigion rhag cael gafael ar faetholion (nutrients).

Asesu'r Dysgu

Darlun i nodi difrod peiriannau i'r amgylchedd

Cloi

Ar ddiwedd y sesiwn hon, trwy waith ymarferol amrywiol yn y maes, a thrwy weithio gydag amrywiaeth o beiriannau, dylech chi fod yn gallu:

  • gweithredu lleiafswm o dri pheiriant wedi'u pweru sy'n briodol i'ch maes astudio mewn amgylchedd diwydiannol realistig lle mae'n bosibl.
  • dweud sut gall peiriannau ar y tir ddifrodi'r amgylchedd.
  • awgrymu ffyrdd o wneud llai o ddifrod.