English

Sesiwn 8:
Cyflwyniad i Fyrnwyr Sgwâr Mawr

NOD

  • Dangos sut mae’r byrnwr mawr sgwâr yn gweithio.
  • Dangos cnydau amrywiol yn cael eu cynaeafu.
  • Dangos rhannau amrywiol o'r byrnwr.

Amcanion

  • Esbonio beth yw egwyddor gweithio'r byrnwr.
  • Esbonio'r cnydau amrywiol sy'n cael eu cynaeafu.
  • Adnabod cydrannau gwahanol y byrnwr.

Nodwch

Cyn gweithio ar unrhyw beiriant, gwnewch yn siŵr eich bod yn gyfarwydd â’r canlynol:

  • Asesiad risg
  • Cadw at ganllawiau diogelwch y diwydiant a llawlyfr y defnyddiwr
  • Cychwyn a stopio'n ddiogel
  • Monitro perfformiad ac allbwn y peiriant
  • Cyfathrebu'n effeithiol
  • Clirio unrhyw beth sy'n sownd mewn offer
  • Newid rhwng safleoedd gweithio a theithio
  • Gweithredu'n economaidd
  • Gweithredu'n ddiogel ac yn effeithlon.

Byrnwr Sgwâr Mawr

Pwy sy'n eu gwneud nhw?

Sut mae’r Byrnwr yn gweithio?

Rhannau’r byrnwr

Sut mae'r Byrnwr yn gweithio?

Swyddogaeth y byrnwr sgwâr mawr

Swyddogaeth y byrnwr sgwâr mawr

Mae'r byrnwr yn codi'r cnwd o ystod, ac yn ei wasgu'n fwrn mawr petryal.

Mae'r byrnau mawr mwyaf yn gallu pwyso hyd at 1 dunnell.

  • Yn wahanol i'r byrnwr bach, mae lled ac uchder y bwrn yn gallu amrywio.
  • Mae maint siambr byrnwyr mawr sgwâr yn gallu amrywio.
  • Hefyd mae mecanwaith torri ar gael i dorri hyd y cnwd.

Egwyddor Gweithredu

Beth yw biomas?

Biomas yw unrhyw ddeunydd organig sy'n dod o blanhigion sydd ar gael oherwydd ei fod yn ei adnewyddu ei hun. Mae'r carbon sy'n cael ei ryddhau i'r atmosffer pan mae'r deunydd yn cael ei losgi yn cyfateb i'r carbon y mae'r planhigyn yn ei amsugno yn ystod ei gylchred tyfu.

Mae'r math hwn o danwydd ar sawl ffurf – o gnydau fel barlys sy'n cael eu tyfu'n benodol i'w defnyddio mewn gorsafoedd pŵer i sgil-gynnyrch fel gwellt.

Cludo Byrnau

Gorsafoedd Pŵer

Mae gorsafoedd pŵer eisiau byrnau sgwâr mawr.

Mae'r gorsafoedd yn cael eu hadeiladu o gwmpas maint y byrnau oherwydd:

  • dwysedd uchel
  • siâp unffurf
  • llai o gludo oherwydd y maint
  • maen nhw’n dal eu siâp ar ôl eu cludo o'r cae i'r orsaf
  • hawdd eu storio

Sut mae Byrnwyr Sgwâr Mawr yn cael eu defnyddio i gynaeafu sgil-gynnyrch cans siwgr yn Malawi

Ystod yn barod i'r byrnwr ei droi'n fyrnau

NH BB-A - Byrnwr IH LBX

Ailedrych ar y wers

  • Sut mae'r byrnwr sgwâr mawr yn gweithio.
  • Y cnydau y mae'n bosibl eu cynaeafu gan ddefnyddio byrnwr sgwâr mawr.
  • Adnabod rhannau gwahanol y byrnwr.