English

Sesiwn 7:
Dyfeisiadau bwydo a thorri ar gynaeafwr porthiant

Nodau'r sesiwn

Erbyn diwedd y sesiwn byddwch chi'n gallu...

  • enwi a disgrifio dyfeisiadau torri amrywiol ar gynaeafwyr cnydau porthi.
  • esbonio sut i addasu hyd y toriad.
  • gwerthuso rôl cynnal a chadw peiriannau er mwyn i fywyd gwaith cynaeafwr cnydau porthi fod cyn hired â phosibl.

NOD

  • Dangos sut mae'r ddyfais bwydo a thorri ar gynaeafwr porthiant yn gweithio.
  • Dangos gwahanol fecanweithiau torri.
  • Sut i addasu hyd y cnwd.
  • Pwysigrwydd cynnal a chadw.

Amcanion

  • Egluro sut mae'r ddyfais bwydo a thorri ar cynaeafwr porthiant yn gweithio.
  • Adnabod dyfeisiau torri gwahanol.
  • Esbonio sut i addasu hyd y cnwd.
  • Cydnabod pwysigrwydd cynnal a chadw.

Nodwch

Cyn gweithio ar unrhyw beiriant, gwnewch yn siŵr eich bod yn gyfarwydd â’r canlynol:

  • Asesiad risg
  • Cadw at ganllawiau diogelwch y diwydiant a llawlyfr y defnyddiwr
  • Cychwyn a stopio'n ddiogel
  • Monitro perfformiad ac allbwn y peiriant
  • Cyfathrebu'n effeithiol
  • Clirio unrhyw beth sy'n sownd mewn offer
  • Newid rhwng safleoedd gweithio a theithio
  • Gweithredu'n economaidd
  • Gweithredu'n ddiogel ac yn effeithlon.

Y System Bwydo a Thorri

Ymarfer dosbarth

  • Sawl rholer porthiant sydd wedi'u gosod?
  • Beth yw maint mwyaf yr agoriad?
  • Math o silindr torri?
  • Sut gallwch wella llif y cnwd?
  • Tynnwch lun sy'n dangos llif y cnwd ac yn tynnu sylw at y ffactorau hyn.

Mae’n hawdd addasu'r hyd torri

Heb newid y gerau yn y blwch gêr, mae’r defnyddiwr yn gallu addasu'r hyd torri yn yr ystod o 6 i 44 mm heb orfod defnyddio unrhyw offer.

Crynodeb

Ar ddiwedd y sesiwn hon byddwch chi nawr yn gallu…

  • enwi a disgrifio dyfeisiadau torri amrywiol ar gynaeafwyr cnydau porthi.
  • esbonio sut i addasu hyd y toriad.
  • gwerthuso rôl cynnal a chadw cynaeafwr cnydau porthi fel bod ei fywyd gwaith cyn hired â phosibl.