Sesiwn 5:
Trin y tir a’r peiriannau a ddefnyddir i wneud hyn.
NOD:
Dangos pwrpas trin y tir cyn lleied â phosibl a dangos gwahanol beiriannau a ddefnyddir i wneud hyn.
Amcanion
- Esbonio gwahanol systemau i drin y tir.
- Nodi gwahanol beiriannau a ddefnyddir i paratoi’r gwely hadau.
- Esbonio'r manteision a'r anfanteision.
- Egluro sut i amcangyfrif y gyfradd gweithio.
Nodyn
Cyn gweithio gydag unrhyw beiriant, gwnewch yn siŵr eich bod yn gyfarwydd â’r canlynol:
- Asesiad risg
- Cadw at ganllawiau diogelwch y diwydiant a llawlyfr y defnyddiwr
- Cychwyn a stopio'n ddiogel
- Monitro perfformiad ac allbwn y peiriant
- Cyfathrebu'n effeithiol
- Clirio unrhyw beth sy'n sownd mewn offer
- Newid rhwng safleoedd gweithio a theithio
- Gweithredu'n economaidd
- Gweithredu'n ddiogel ac yn effeithlon.
Tair ffordd i baratoi’r gwely hadau
- Trin y tir yn gonfensiynol
- Trin y tir cyn lleied ag sy’n bosibl
- Dim trin y tir
- Wrth drin y tir cyn lleied â phosibl mae llai o darfu ar y tir.
- Nid yw gweddillion y cnydau'n cael eu haredig ar ôl eu cynaeafu.
- Mae gwahanol beiriannau yn cael eu defnyddio yn y broses hon.
- Mae gwahanol beiriannau yn cael eu defnyddio yn y broses hon.
Ymarfer dosbarth
Manteision
- Costau yn llai a mewnbwn ynni yn llai.
- Llai o ddifrod i'r peiriannau.
- Gwella strwythur y pridd ac hefyd llai o ddifrod wrth drafod y peiriannau.
- Llai o erydu'r pridd.
- Pridd yn gallu cadw'r lleithder.
Ymarfer dosbarth
Anfanteision
- Rhaid delio â gweddillion y cnydau.
- Costau chwynladdwr a'r problemau posibl.
- Mwy o glefydau sy'n gysylltiedig â gweddillion ac â llai o darfu ar y pridd.
Trin tir cyn lleied â phosibl yn Malawi, Affrica
Record byd ar gyfer trin y tir
643.8 hectar mewn 24 awr
Cyfradd gweithio a ragwelir ar gyfer oged ddisg 6.5m
Dyma’r fformiwla i gyfrifo'r gyfradd gweithio =
Cyfradd gweithio a ragwelir ar gyfer oged ddisg 6.5m
Cymharu trin y tir gostyngol ag aredig.
Trin y tir cyn lleied â phosib
- Lleihau'r defnydd o ynni
- Lleihau costau llafur
- Cadw lleithder
- Cadw planhigion dros y pridd fel bod cyn lleied o erydu ag sy'n bosibl
Manteision trin y tir cyn lleied â phosib
- lleihau costau a mewnbynnau ynni
- llai o draul ar beiriannau
- gwella strwythur y pridd a llai o risg o ddifrod o beiriannau
- llai o bridd yn erydu a dŵr ffo
- mwy o infertebratau a mwydod/pryfed genwair
- llai o nitrogen yn mwyneiddio a llai o risg o drwytholchi (leaching)
- mae costau llafur wedi cael eu lleihau
- mae costau rhedeg peiriannau wedi cael eu lleihau
Nesaf, mae angen i chi ystyried pa broblemau sy'n debygol o godi o unrhyw newidiadau i dechnoleg trin y tir, a sut mae'n bosibl eu goresgyn nhw.
Mae'n bosibl bydd y canlynol ymysg y rhain:
- ymdrin â gweddillion cnydau;
- mwy o glefydau'n gysylltiedig â gweddillion cnydau a llai o darfu ar y pridd, ac a fyddai newid dilyniant cnydau'n ddewis i oresgyn y broblem;
- mwy o blâu tan i'r system gyrraedd cydbwysedd rhwng plâu ac ysglyfaethwyr;
- ffyrdd eraill o ymdrin â chwyn a chostau chwynladdwyr (herbicides) a'u problemau posibl.
Y mater olaf i'w ystyried yw bod rhaid i'r treial fod yn un hirdymor, efallai yn fwy na thair blynedd.
Wrth symud o drin y tir yn llawn i beidio â thrin, mae'r micro-fflora a ffawna yn cymryd amser hir i ailsefydlu a chyrraedd cydbwysedd mewn proffil pridd nad oes llawer o darfu arno. Efallai bydd yr amser hir hwn yn gwneud i'r ffermwr beidio â dechrau'r treial er ei fod yn deall yn iawn beth yw manteision posibl trin y tir yn llai aml.
Cyfleoedd i leihau yr effaith amgylcheddol o weithio'r tir
Y cwestiwn cyntaf i'w ateb gyda'r ffermwr yw pam rydych chi'n bwriadu gwneud treialon trin y tir? Bydd dyluniad y treial yn dibynnu ar yr ateb.
Ystyriwch a oes cyfleoedd i wneud y canlynol:
- lleihau problemau erydu ar y tir lle mae tir serth iawn.
- medi'r cnwd yn gynharach, yn nes at y ffenestr ddelfrydol i'r math gorau, petai hi'n bosibl trin a hau yn gyflymach. A fyddai plannu'n gynharach yn arwain at fwy o gynnyrch? A fyddai hyn o fudd economaidd cyffredinol i'r fferm? Gweithiwch allan beth yw'r symiau bras.
- trin y tir yn llai aml heb golli cynnyrch, felly arbed arian drwy leihau tanwydd a thraul ar yr offer ac amser y gweithiwr ar weithgareddau trin y tir. Cyfrifwch faint allai gael ei arbed.
- lleihau problem gyffredin, sef cywasgu pridd sy'n gysylltiedig â pheiriannau trwm yn symud dros y tir drwy'r amser.
- lleihau colli dŵr prin sy'n cael ei storio yn ystod cyfnod braenar drwy drin a phlannu ar yr un pryd. A fyddai hyn yn arwain at fwy o gynnyrch wrth fod mwy o ddŵr ar gael i'r cnwd wrth iddo sefydlu? Amcangyfrifwch faint.
Crynodeb
Nawr gallwch chi...
esbonio'r systemau amaethu amrywiol.
esbonio'r peiriannau amrywiol sy'n cael eu defnyddio.
esbonio manteision ac anfanteision y systemau.
esbonio pam mae'n bwysig i weithio allan beth yw'r gyfradd gwaith.