Sesiwn 3: 
        Paratoi, gwirio cyn dechrau gweithio a namau cyffredin mewn peiriannau
    
    
      Cyflwyniad
      Erbyn diwedd y sesiwn hon byddwch chi'n gallu:
      
        - paratoi rhai mathau o beiriannau ar y tir i weithio, gan ddilyn argymhellion y gwneuthurwyr, llawlyfr y defnyddiwr neu lawlyfr y peiriannau. 
- gwirio rhai peiriannau ar y tir cyn dechrau gweithio, gan ddilyn argymhellion y gwneuthurwyr, llawlyfr y defnyddiwr neu lawlyfr y peiriannau. 
- nodi namau cyffredin ac awgrymu camau priodol i atgyweirio'r peiriant. 
- gwirio gofynion diogelwch rhai peiriannau ar y tir a rhoi gwybod amdanyn nhw gan ddilyn argymhellion y gwneuthurwyr, llawlyfr y defnyddiwr neu lawlyfr y peiriannau. 
Paratoi'r peiriant at gael ei ddefnyddio
      
        - Asesu'r jobyn sydd i'w wneud (addasrwydd, mynediad i gaeau, llethrau, teiars). 
- Gwirio bod y peiriannau'n addas a bod y mewnbwn pŵer cywir o'r tractor (e.e. hp marchnerth cywir). 
- Gwirio bod y peiriannau wedi cael gwasanaeth ac nad oes unrhyw waith atgyweirio i'w wneud. 
- Gwirio bod y dyfeisiadau diogelwch yn eu lle ac yn addas i'r pwrpas. 
- Gwirio bod pob lefel olew yn gywir ac bod yr iro wedi'i wneud. 
- Sicrhau bod yr offer wedi'i roi wrth y tractor yn ddiogel ac yn gadarn. 
- Sicrhau bod y person sy'n gweithio’r peiriant yn gyfarwydd â llawlyfr yr offer. 
Gwirio personol cyn dechrau
      
        - Cael hyfforddiant cyn defnyddio unrhyw beiriannau. 
- Dillad addas – dim dillad llac neu emwaith a allai fynd yn sownd mewn rhannau sy'n symud, clymu gwallt hir yn ôl, gwisgo esgidiau addas (rhai diogelwch, glân gyda gafael dda) a PPE os oes angen (amddiffynwyr clustiau/menig). 
- Bod yn effro ac nid wedi gorflino. 
- Bod yn gyfarwydd â sut i redeg y tractor a beth mae’n gallu ei wneud.
Gwirio tractorau a pheiriannau cyn dechrau gweithio
      
        - Gwirio'r tanwydd – edrych i weld mewn modelau henach neu edrych ar y medrydd (gauge) tanwydd. 
- Gwirio'r olew – bocs gêr / gyriant pŵer / injan / echel ôl. 
- Hylif y cydiwr a'r breciau. 
- Gwirio lefel y dŵr a bod dim malurion yn y rheiddiadur. 
- Gwirio bod y teiars heb dreulio, gwasgedd y teiars a namau. 
- Gwirio'r goleuadau, yn enwedig y breciau, y dangosydd (indicator) a'r oleufa (beacon). 
- Gwirio cysylltiadau'r batri a lefel yr electrolytau. 
- Gwirio'r gwregys ffan am densiwn a thraul. 
- Gwirio bod y ffenestri i gyd yn lân. 
- Gwirio bod y drychau yn y safle cywir a'u bod yn lân. 
Nodi namau cyffredin mewn peiriannau ar y tir
      Mae amrywiaeth o namau'n gallu digwydd yn ystod diwrnod/bywyd gwaith peiriant. 
      
        - tanwydd anghywir, wedi'i lygru neu ddiffyg tanwydd 
- hidlenni (aer, tanwydd, olew) wedi'u blocio 
- gwasgedd olew gwael 
- sbrocedi wedi'u difrodi a systemau gyriant wedi'u baeddu (fouled) 
- llafnau heb fod yn finiog neu wedi'u difrodi 
- bwlch plygiau tanio wedi'i faeddu neu heb ei osod yn gywir 
- tensiwn adlamu'r taniwr (starter recoil tension) 
- mecanweithiau wedi'u blocio 
Byddai pob un o'r rhain yn gwneud i'r peiriant weithio'n llai effeithlon neu dorri i lawr.  
    
    
      Beth yw'r gofynion diogelwch ar gyfer rhai peiriannau ar y tir yn y diwydiant?
      
        
          Fel arfer maen nhw i'w gweld yn: 
          
            - argymhellion y gwneuthurwyr pan maen nhw'n gwerthu peiriant i ffermwr 
- llawlyfr y defnyddiwr 
- llawlyfr y peiriant 
 
        
       
    
    
      Enghreifftiau o ofynion diogelwch ar beiriannau
      
        
          
            - caban diogelwch 
- gardiau PTO 
- gardiau llafnau / cyllyll 
- botymau stop argyfwng 
- grisiau â gafael / danheddog (serrated) i gaban y tractor 
- balast i gael cydbwysedd rhag i’r peiriant ddymchwelyd 
 
        
       
    
    
    
      Cloi
      Ar ddiwedd y sesiwn hon, ac ar ôl cyfres o dasgau ymarferol yn y gweithdy ac yn y maes, dylech chi fod yn gallu: 
      
        - dewis rhai peiriannau ar y tir sydd yn y diwydiant ar gyfer gwaith penodol. 
- gwirio rhai peiriannau ar y tir cyn eu defnyddio. 
- nodi namau cyffredin ac awgrymu camau priodol i atgyweirio'r peiriant. 
- gwirio'r gofynion diogelwch ar gyfer y diwydiant ar y tir rydych chi wedi'i ddewis.