English

1. System Cylchrediad y Gwaed

Erbyn diwedd y sesiwn byddwch yn deall:

  • strwythur a swyddogaeth y gwaed
  • strwythur a swyddogaeth y pibellau gwaed
  • strwythur a swyddogaeth y galon

Cyfansoddiad y gwaed

Rhannu’r dosbarth yn grwpiau o 4. Y grŵp yn penderfynu pwy ydy 1, 2, 3 a 4.

Unigolion yn dod yn arbenigwyr ar 1-4 isod, darllen trwy ddarn darllen, wedyn adrodd yn ôl i gweddill y grŵp fesul un – angen i’r rhai sy’n gwrando wneud nodiadau wrth iddynt adrodd yn ôl.

1. Celloedd Coch y Gwaed.

Mae'r celloedd hyn yn cludo ocsigen o gwmpas y corff.

Maent yn gelloedd fflat, deugeugrwm, siâp disg; maent yn cael eu lliw coch oherwydd pigment o'r enw haemoglobin. Mae hwn yn uno ag ocsigen i'w gludo o gwmpas y corff. Does gan gelloedd coch y gwaed ddim cnewyllyn.

Mae angen haearn i gynhyrchu haemoglobin. Os oes prinder haearn, fydd gan yr unigolyn ddim digon o gelloedd coch y gwaed. Enw'r cyflwr hwn yw anaemia ac mae'n golygu bod llai o ocsigen yn cael ei gludo o gwmpas y corff.

2: Celloedd gwyn y gwaed

Mae'r celloedd hyn yn amddiffyn y corff rhag pathogenau (microbau sy'n achosi clefydau).

Maent yn fwy na chelloedd coch y gwaed, ac mae ganddynt gnewyllyn, ond does dim pigment ynddynt felly maent yn ddi-liw.

Os oes gennych chi haint, mae nifer celloedd gwyn y gwaed yn eich corff yn cynyddu'n gyflym.

3: Platennau

Mae platennau'n ceulo'r gwaed.

Pan mae'r croen yn torri, rydych chi'n gwaedu. Mae platennau'n gwneud i'r gwaed geulo, gan ffurfio jeli trwchus. Mae hwn yn caledu i ffurfio crachen, i'ch atal chi rhag gwaedu a cholli gwaed. Mae'r grachen yn cadw'r clwyf yn lân wrth i groen newydd dyfu oddi tani.

Mae hyn yn atal pathogenau rhag mynd i'r corff ac yn atal haint bacteriol.

4: Plasma

Mae plasma yn cludo sylweddau wedi'u hydoddi.

Hwn yw rhan hylifol y gwaed. Mae ganddo liw melyn golau a dŵr yw 90% ohono.

Mae plasma yn cludo llawer o sylweddau wedi hydoddi o gwmpas y corff:

  • Moleciwlau bwyd bach hydawdd, e.e glwcos, asidau amino ayb.
  • Cemegion gwastraff sy'n cael eu cynhyrchu gan y corff, e.e. carbon deuocsid o resbiradaeth ac wrea sy'n cael eu cynhyrchu gan yr iau.
  • Hormonau sy'n cael eu cludo o'r chwarennau endocrin i'w horganau targed. e.e. inswlin.
  • Halwynau mwynol e.e. ïonau sodiwm.

Mae plasma hefyd yn dosbarthu gwres o gwmpas y corff.

Pibellau gwaed

Pibellau gwaed

Defnyddiwch y wybodaeth yn y sleidiau canlynol er mwyn cwblhau'r grid yn y daflen waith.

Lawrlwytho - Word, PDF

  1. Swyddogaeth y bibell waed
  2. O ble ac i le mae’r bibell yn cludo gwaed?
  3. Addasiadau – sut mae’r bibell gwaed wedi addasu ar gyfer ei swyddogaeth yn y corff?

Dylid labelu ar y diagram...haenen allanol wydn, haen gyhyrau, endotheliwm a lwmen.

Rhydwelïau

  • Cludo gwaed o’r galon (bob tro yn waed ocsigenedig heblaw am y rhydweli ysgyfeiniol sy’n mynd o’r galon i’r ysgyfaint)
  • Muriau cyhyrog trwchus
  • Sianelau bach ar gyfer y gwaed (lwmen mewnol)
  • Cynnwys gwaed dan bwysedd uchel

Gwythiennau

  • Cludo gwaed i’r galon (bob tro yn waed deocsigenedig heblaw am y wythïen ysgyfeiniol sy’n mynd i’r galon o’r ysgyfaint)
  • Muriau tenau
  • Sianeli mwy ar gyfer y gwaed (lwmen mewnol)
  • Cynnwys gwaed dan bwysedd isel
  • Falfiau i atal gwaed rhag llifo yn ôl

Capilarïau

  • Yn y cyhyrau a’r ysgyfaint
  • Microsgopig – trwch un gell
  • Pwysedd gwaed isel iawn
  • Dyma ble mae’r cyfnewid nwyon yn digwydd – mae’r ocsigen yn pasio drwy’r mur capilari ac i mewn i’r meinweoedd ac mae carbon deuocsid yn pasio o’r meinweoedd i’r gwaed

Capilarïau yw'r pibellau gwaed lleiaf sy'n cludo gwaed drwy organau'r corff. Mae sylweddau sydd eu hangen mewn celloedd yn mynd o'r gwaed i'r meinweoedd, ac mae sylweddau sy'n cael eu cynhyrchu gan y celloedd yn mynd i'r gwaed drwy furiau'r capilariau.

  • Maent yn ffurfio rhwydweithiau helaeth, felly does dim cell yn bell oddi wrth gapilari.
  • Mae eu muriau'n denau iawn i'w gwneud hi'n hawdd i ddeunyddiau dryledu rhwng y gwaed a'r corffgelloedd.

Cylchrediad dwbl: gwaed yn symud trwy’r galon ddwywaith mewn un gylched/curiad.

  • 1. Ysgyfeiniol: O’r galon i’r ysgyfaint ac yn ôl.
  • 2. Systemig: O’r galon i’r corff ac yn ôl.

Rhannau’r Galon

Rhannau’r Galon

Clefydau a’r system gylchredol:

Gwelir cyfraddau curiad calon arferol anifeiliaid fferm yn y tabl. Bydd straen neu glefyd yn newid y gyfradd. Bydd y cyfraddau’n arafu wrth i anifeiliaid heneiddio.

Anifail Cyfradd curiad y galon (curiadau/munud)
Gwartheg 45-50
Defaid 70-80
Moch 70-80

Anaemia - prinder haemoglobin, sef y cemegyn mewn celloedd coch y gwaed sy'n cario ocsigen. Mae anifeiliaid sy'n brin o haearn yn aml yn dioddef o'r clefyd hwn, e.e, moch bach sydd heb gael digon o haearn yn eu diet, neu famogiaid sy'n cario llawer iawn o lyngyr.

Ataliad y galon - mae'r galon yn stopio pwmpio gwaed o gwmpas y corff.

Diweddglo

  • Lluniwch gwestiynau ar gyfer yr atebion canlynol:
  • Rhydwelïau, capilarïau, gwythiennau, lwmen, haemoglobin, atriwm, fentrigl, aorta, fena cafa, rhydweli ysgyfeiniol, gwythïen ysgyfeiniol, falfiau cilgant, falf ddwylen, falf deirlen.