English

5. Systemau Treulio mewn anifeiliaid fferm

Yn y cyflwyniad yma fe welwch dri math o system:

  • Monogastrig
  • Cilfilyn
  • Aderyn

Erbyn diwedd y sesiwn byddwch yn deall:

  • Systemau treulio monogastrig a’r prosesau treulio sy’n digwydd ynddynt
  • System dreulio cilfilyn
  • System dreulio aderyn

1. Monogastrig: System treulio mochyn

I ddechrau:

Rhestrwch gymaint o rannau o’r system dreulio ag y gallwch mewn munud.

Penderfynwch pa ran/organ sydd fwyaf pwysig ac esboniwch pam.

Defnyddiwch y we i lenwi’r tabl

Anifeiliaid cnoi cil

Diffiniad anifeiliaid cnoi cil

‘An animal that has a stomach with four complete cavities, and that characteristically regurgitates undigested food from the rumen, and masticates it when at rest' (Blood et al, 1999).

Blood, D.C. & Studdert, V.P. (1999) “Saunders Comprehensive Veterinary Dictionary: Second Edition” Harcourt Publishers Limited

Enghreifftiau:

  • Dafad
  • Gafr
  • Buwch
  • Carw
  • Jiráff
  • Bual
  • Elc

Oesoffagws

  • Cyswllt rhwng y ffaryncs a'r stumog
  • Anatomi yr un fath ym mhob anifail?
  • Mae anifeiliaid cnoi cil yn gallu codi cil (regurgitate) bwyd
  • Erucation yn enw Saesneg arall
  • Drwy symudiad goddefol = peristalsis cildro
  • Pam mae'n hanfodol i anifail cnoi cil wneud hynny sawl gwaith?

Epleswyr creuanol – Anifeiliaid Cnoi Cil

Mae ganddyn nhw bedwar strwythur stumog cymhleth:

  • Rwmen
  • Reticwlwm
  • Omaswm
  • Abomaswm

Four-chambered stomach dissection

Y Rwmen

  • Cerwyn (vat) eplesu mawr
  • Bacteria a microbau

  • Mae leinin o babilau gan y rwmen
  • Pam?

  • Mae micro-organebau'n gallu treulio cellwlos a syntheseiddio asidau amino, yn ogystal â fitaminau B cymhleth
  • Cynhyrchu asid brasterog anweddol = Egni

Reticwlwm – 2il Siambr

  • Mae gan y recticwlwm leinin gydag adran fach sydd fel crwybr (honeycomb).
  • Mae'n rhyngweithio â'r rwmen wrth gymysgu / cywasgu mater sydd heb ei dreulio cyn codi cil.

Cynhwysedd

  • Gwartheg – 9 litr
  • Defaid – 2¼ litr

Omaswm – 3edd Siambr

  • Mae llawer o blygiadau gan yr omaswm –
  • Maen nhw'n helpu i falu'r bwyd
  • Adamsugno dŵr

Cynhwysedd

  • Gwartheg – 6 litr
  • Defaid – 1 litr

Abomaswm – 4edd Siambr

  • y gwir stumog
  • Anatomi a ffisioleg tebyg i stumog anifeiliaid ag un stumog (monogastrig)
  • Mae treulio'n digwydd yma.

Cynhwysedd bras

  • Gwartheg – 16 litr
  • Defaid – 3¼ litr

Abomaswm

  • Mae'n debyg iawn i stumog monogastrig o ran anatomi a ffisioleg:
  • Plygiadau = Rugae
  • Epitheliwm chwarennol
  • Cynhyrchu ensymau (pepsinogen)
  • Cynhyrchu HCl sy'n actifadu'r ensym
  • Mae cyfangu'r cyhyrau yn galluogi'r stumog i gymysgu'r cynnwys
  • Symud i mewn i'r dwodenwm drwy sffincter y pylorws

Symudiad yr hyn sydd wedi'i amlyncu drwy stumog yr anifail cnoi cil

Cynhwysedd y rwmen – 180 litr mewn gwartheg: 23 litr mewn defaid

Datblygiad y Rwmen

  • Mae anifeiliaid cnoi cil yn cael eu geni â phedair stumog.
  • Dydy'r rwmen ddim yn aeddfed yn yr anifail newydd anedig.
  • Bwyd yr anifail newydd anedig – llaeth.
  • Mae llaeth yn cael ei dreulio yn yr abomaswm.
  • Mae llaeth yn mynd heibio i'r rwmen / recticwlwm.

Datblygiad y Rwmen

Ffisioleg system dreulio Anifeiliaid sy'n cnoi cil

  • Bwyd yn cyrraedd y rwmen
  • Yma mae'n cael ei gymysgu â micro-organebau, (bacteria, protosoa a rhai ffyngau)
  • Mae micro-organebau'n helpu i ddefnyddio cellwlos a'i dorri i lawr ac i syntheseiddio protein o nitrogen heb fod yn brotein a rhai fitaminau
  • Codi cnoi cil

Ffisioleg system dreulio Anifeiliaid sy'n cnoi cil

  • Bwyd yn symud o'r rwmen – recticwlwm lle mae mwy o falu a chymysgu
  • Mae recticwlwm yn sgrin ar gyfer FBs
  • Wrth i'r rwmen / recticwlwm gyfangu, mae cnoi cil yn digwydd – peristalsis cildro o'r bwyd cymysg
  • Pan fydd yn barod, bydd y "bwyd" yn symud i'r omaswm

Ffisioleg system dreulio Anifeiliaid sy'n cnoi cil

  • Mae'r omaswm yn tynnu 60-70% o'r dŵr cyn i'r "bwyd" symud i'r abomaswm (4edd siambr).
  • Pan mae'r "bwyd" yn yr abomaswm, mae sudd treulio sy'n cynnwys ensymau'n dechrau torri'r proteinau i lawr ac yn ychwanegu lleithder ato cyn iddo fynd i mewn i'r coluddyn bach.

Gwiriwch eich dysgu...

  • Beth mae anifail cnoi cil yn ei fwyta (deiet)?
  • Pam mae'n bwysig bod cilddannedd mawr gan anifail cnoi cil? Oes angen dannedd llygad arnyn nhw?
  • Pam mae'r anifail cnoi cil yn codi cil?
  • Pam mae'n bwysig i'r anifail cnoi cil fod â stumog wedi'i datblygu'n dda?
  • Beth am y coluddion – a yw wedi arbenigo mewn rhyw ffordd mewn anifail cnoi cil?

Y System Dreulio Un Stumog (Monogastrig)

Treulio ydy’r broses o dorri darnau mawr o fwyd I lawr yn foleciwlau digon bach fel eu bod yn gallu croesi wal filysau y coluddyn bach i mewn i’r llif gwaed.

Y Stumog

  • Celloedd peptig – sectretu pepsin ar ffurf rhagweithydd anweithredol, pepsinogen. Mae hyn yn osgoi awtolysis / wal y stumog yn treulio ei hun cyn i fwyd fod ynddi. Mae pepsin yn cychwyn treuliad proteinau i bolypeptidau.
  • Mae stumogau mamolion sy’n sugno yn cynhyrchu’r ensym renin i geulo llaeth (ei droi’n solet), fel ei fod yn cymryd mwy o amser i deithio i lawr y system dreulio, fel bod y mamolion yn gallu tynnu’r maeth ohono.

Y Stumog

  • Celloedd ocsyntig – yn secretu asid hydroclorig a fydd yn lladd bacteria ac yn actifadu pepsin.
  • Celloedd gobled – yn sectretu mwcws. Mae’n ffurfio haen amddiffynol o amgylch wal y stumog, felly’n atal awtolysis ac yn iro symudiad y bwyd.

Bustl

  • Cynhyrchir gan yr afu
  • Storir yn y goden fustl
  • Mynd i’r dwodenwm trwy ddwythell y bustl
  • Mae’n emwlseiddio lipidau.
  • Emwlseiddio drwy ostwng tensiwn arwyneb y lipidau – torri diferion lipid yn ddefnynnau bach
  • Cynyddu arwynebedd arwyneb ar gyfer y lipas
  • Hefyd yn niwtraleiddio cynnwys asidig o’r stumog.

Sudd Pancreatig

Caiff ei secretu o’r pancreas.

Mynd i’r coluddyn bach trwy’r dwythell bancreatig. Mae’n cynnwys nifer o ensymau:

  • Amylas – torri startsh i lawr i glwcos.
  • Lipas – torri braster/ olew i lawr i asidau brasterog a glyserol.
  • Pepsin – torri proteinau lawr i asidau amino.

Filysau – darparu arwynebedd arwyneb anferth er mwyn amsugno’r moleciwlau bwyd i mewn i’r llif gwaed.

Y coluddyn mawr

Bydd unrhyw fwyd sydd heb ei dreulio yn pasio i lawr y tiwb yma i gael ei ymgarthu ar ffurf dom. Amsugnir dŵr ar draws wal y coluddyn mawr i mewn i’r corff i adael gwastraff lled- solet.

Cwblhau’r gwaith darllen a’r cwestiynau ar y daflen - Word, PDF

Y coluddyn mawr

Ceir system dreulio monogastrig (un stumog) mewn hollysyddion fel moch (a pobl).

Mae hollysyddion yn bwyta cig a phlanhigion, felly mae ganddynt ddannedd llygaid i rwygo cig a childdannedd blaen ac ôl i dorri cellfuriau planhigion ar agor. Mae hollysyddion hefyd yn bwyta prydau bwyd bob yn hyn a hyn, felly maent wedi datblygu stumog fawr.

  1. Rhestrwch gymaint o rannau o’r system dreulio ag y gallwch mewn munud.
  2. Penderfynwch ba ran/organ sydd fwyaf pwysig ac esboniwch pam.

System Dreulio Aderyn

Darllenwch y darn darllen ar y sleid nesaf, yna crëwch 10 cwestiwn i gyfoed ei ateb (cofiwch fod rhaid I chi fod yn gwybod yr atebion).

Mae’r bwyd yn cael ei bigo fyny gan y pig, yna mae’n symud lawr i’r “crop” trwy’r oesoffagws. Yma caiff y bwyd ei storio dros dro. Nesaf mae’r bwyd yn cyrraedd y profentricwlws, y gyntaf o ddwy ran y stumog. Ychwanegir ensymau treulio at y bwyd, rhyddheir asid ato a cynhyrchir mwcws yn y profentricwlws.

Bydd hyn oll yn meddalu’r bwyd sy’n aml ar ffurf grawn caled iawn. Yna mae’n symud ymlaen i’r lasog, ail ran y stumog. Yn y lasog, gyda’i wal gyhyrog a gwydn, mae’r malu'n cael ei gwblhau. Caiff y bwyd ei falu'n llai gyda help swnd a cherrig bach mae’r adar yn eu llyncu.

Gall y bwyd cael ei basio nôl a mlaen rhwng y profentricwlws a’r lasog sawl tro i wella effeithiolrwydd treuliad. Wedi ei dreulio digon mae’r bwyd yn symud ymlaen i’r coluddyn bach, lle mae’r afu a’r pancreas yn helpu i amsugno maethynnau fel yn y systemau eraill astudiwyd.

Ceir coluddyn mawr byr a lle mae’r coluddyn bach a mawr yn cwrdd ceir y ddau caecwm, bydd y caeca a’r coluddyn mawr yn amsugno dŵr. Mae’r caeca hefyd yn cynnwys microbau i eplesu ffibr. Bydd y gwastraff yn pasio allan trwy’r cloaca ar ôl i asid wrig cael ei ychwanegu ato.

Clo

Ar ddiwedd y sesiwn hon dylech fod yn gallu:

  • Disgrifio systemau treulio monogastrig ac esbonio’r prosesau treulio sy’n digwydd ynddynt.
  • Disgrifio system dreulio’r cilfilyn ac esbonio’r prosesau sy’n digwydd.
  • Disgrifio system dreulio yr aderyn ac esbonio’r prosesau sy’n digwydd.