English

4. Y System Nerfol

Erbyn diwedd y sesiwn byddwch yn deall:

  • Y brif system nerfol (ymennydd a madruddyn y cefn)
  • Y system nerfol berifferaidd (nerfau a nerfgelloedd)

Mae’r system nerfol yn cyd-drefnu symudiadau corff anifeiliaid, derbyn a danfon negeseuon sy’n eu galluogi i ymateb i symbyliadau fel poen, sain, arogl. Hefyd mae’r system nerfol yn monitro gweithrediad yr organau.

Gellir cymharu strwythur nerf, sy’n cynnwys nifer o nerf gelloedd bach gyda strwythur cebl trydanol, sy’n cynnwys nifer o wifrau copr bach. Pilen fyelin sy’n ynysu’r negeseuon trydanol tu fewn y nerf gelloedd. Ynysiad plastig sy’n ynysu’r trydan mewn i’r gwifrau copr.

Gweithredoedd gwirfoddol: Rhaid dysgu sut i’w gwneud, meddwl amdanynt a phenderfynu eu gwneud, e.e. arwain mewn cebyst.

Gweithredoedd atgyrch: Caiff anifeiliaid eu geni â’r gallu i’w gwneud. Maent yn digwydd yn gyflym iawn. Mae’r rhan fwyaf yn amddiffyn y corff. Maent yn digwydd yn awtomatig, e.e. maint annwyll y llygad.


Gweithred wirfoddol Gweithred atgyrch neu anwirfoddol
Mae angen meddwl Mae’n digwydd heb feddwl
Yn arafach Yn gyflymach
Yr ymennydd sy’n ei rheoli’n bennaf Madruddyn y cefn sy’n ei rheoli’n bennaf
Ar gyfer gweithredoedd bob dydd Fel arfer yn weithrediadau sy’n achub bywyd

Tair math o nerfgelloedd

Llwybr Atgyrch

Llwybr Atgyrch yw ymateb awtomatig – heb gael ei ystyried gan yr ymennydd.

Prosesir gwybodaeth a drosglwyddir gan nerfgell synhwyraidd gan y Brif System Nerfol, mae ymateb yn cael ei gludo ar hyd nerfgell echddygol i effeithydd.

Llwybr Atgyrch

Cwblhau’r daflen waith - Lawrlwytho

Tasg

Ewch ati i greu ar gyfrifiadur neu â llaw i gynnwys y termau canlynol. Ysgrifennwch gliw, fel bod person yn gwybod pa derm y mae’n chwilio amdano.

Y brif system nerfol, ymennydd, madruddyn y cefn, y system nerfol berifferol, nerfau, nerfgelloedd (synhwyraidd, cysylltiol ac echddygol), synapsau.