English

6. System atgenhedlu anifeiliaid fferm

Erbyn diwedd y sesiwn hon byddwch chi'n gallu:

  • Disgrifio anatomi atgenhedlu gwrywaidd a benywaidd gwartheg a defaid
  • Esbonio rôl yr organau atgenhedlu allweddol
  • Enwi'r hormonau atgenhedlu ac esbonio eu rôl
  • Nodi'r drefn yng nghylchred atgenhedlu anifeiliaid fferm

Cyflwyniad

Mewn gwartheg, mae dwy system yn rhan o'r broses rheoli atgenhedlu:

  • Y system nerfol
  • Y system endocrin

Y System Nerfol

Mae pob anifail yn cael ysgogiadau (stimuli) o'r amgylchedd. Mae'r synhwyrau yn eu derbyn nhw ac yn eu trosglwyddo i'r ymennydd. Yma maen nhw'n cael eu dadgodio ac mae gweithredu'n digwydd. Mewn gwartheg, mae gan y llygaid a'r trwyn ran bwysig mewn atgenhedlu. Mae'r llygaid yn synhwyro goleuni ac yn gweld anifeiliaid eraill, ac mae'r trwyn yn codi'r arogleuon rhyw.

Mae'r ymennydd a madruddyn y cefn yn cael gwybodaeth o amgylchedd yr anifail ac yn trosglwyddo'r wybodaeth hon – sy'n berthnasol i atgenhedlu – i'r gonadau drwy echel yr Hypothalamws-Chwarren Bitwidol-Gonadau.

Echel yr Hypothalamws-Chwarren Bitwidol-Gonadau

System Hormonaidd

Mae'r system hormonaidd yn system reoli sy'n anfon gwybodaeth drwy negeseuon cemegol. Dyma'r system sy'n cysylltu'r system nerfol â nifer o organau atgenhedlu allweddol.

Mae'n bosibl disgrifio hormon fel sylwedd cemegol sy'n cael ei gynhyrchu naill ai mewn chwarren neu feinwe yn y corff, sy'n gwneud i adwaith penodol ddigwydd mewn meinweoedd neu organau sy'n sensitif i'r hormon hwnnw.

Sut mae’r system hormonaidd yn gweithio?

Mae'r system hormonaidd yn gweithio mewn dwy ffordd:

  1. Y Ffordd Awtocrin
  2. Y Ffordd Baracrin

Awtocrin: dyma lle mae'r organ sy'n cynhyrchu hefyd yn organ darged.

Paracrin: dyma lle mae'r organ sy'n cynhyrchu'n effeithio ar gelloedd neu organau.

Organau atgenhedlu'r fuwch

Rôl yr organau atgenhedlu mewn benyw:

Y llawes goch (vulva): Dyma'r unig organ sydd mewn cysylltiad â'r amgylchedd o'i amgylch.

Gwddf y groth: Dyma lle mae'r sberm a'r wy yn cwrdd i ffrwythloni.

Y groth: Dyma organ cyhyrog sy'n cysylltu â dwy ddwythell wyau. Dyma lle mae'r ffetws sy'n tyfu yn cael ei gynnal tan y geni. Hefyd dyma lle mae'r wy yn cael ei dderbyn ac yn ffurfio embryo.

Corn crothol: Y cyrn crothol yw'r man lle mae'r groth a'r ddwythell wyau yn cwrdd.

Ofari: Dyma lle mae'r wyau'n cael eu llunio, Oogenesis, dyma brif swyddogaeth yr ofarïau. Pan mae ffoligl wal yr ofari yn rhwygo, mae'r wy yn dianc ac yn mynd i mewn i'r ddwythell wyau ac yna i'r groth.

Organau atgenhedlu'r tarw

System atgenhedlu defaid benyw a gwryw

Benyw

System atgenhedlu defaid benyw a gwryw

Gwryw

Nodweddion atgenhedlol mamogion

Nodweddion Cyfartaledd Ystod
Oedran adeg glasoed 5 i 12 mis
Hyd y gylchred oestrws, dyddiau 17 13-19
Hyd yr oestrws, oriau 30 18-48
Amseru'r ofwliad (bwrw'r wy) 20-30 awr ar ôl dechrau'r oestrws
Cyfnod cyfebru, dyddiau 146-147 138-149

Rôl yr organau atgenhedlu mewn gwryw:

ceilliau: Mae'r rhain y tu allan i'r corff yn y sgrotwm. Mae hyn oherwydd na allan nhw ymdopi â gwres y corff. Y brif swyddogaeth yw cynhyrchu dau hormon, testosteron a sbermatosa.

epididymis: Mae hwn yn wastad ac yn hirgul. Mae'n sownd wrth un ochr o'r ceilliau. Mae 3 rhan iddo, y pen, y corff a'r gynffon. Ei brif rôl yw trosglwyddo testosteron o'r ceilliau i'r fas defferens.

fas defferens: Mae'r rhain yn dod o gynffon yr epididymis fel tiwb syth i mewn i geudod (cavity) y corff.

wrethra: Mae'r 2 fas defferens o bob caill yn uno yn un diwben. Sianel yr wrethra sy'n mynd drwy'r pidyn, yw llwybr y sberm a'r wrin.

chwarennau atodol: Mae'r 2 yn y rhan lle mae'r fas defferens yn cwrdd i ddod yn wrethra. Hylif o'r chwarren hon yw'r rhan fwyaf o'r sberm.

pidyn: Strwythur o'r anatomi yw hwn sy'n aros yn y wain heblaw am pan mae'n cael ei ddefnyddio.

Ceilliau – Testosteron.

Mae testosteron yn hanfodol ar gyfer cynhyrchiant sberm ac mae’n gyfrifol am ddatblygiad nodweddion rhywiol eilaidd – ysgwyddau, pen a gwar cryf.

Mae’r hypothalamws yn rhyddhau hormon rhyddhau gonadotroffin (GnRH), sydd yn achosi i’r chwarren bitwidol ryddhau hormon symbylu ffoligl (FSH) a hormon lwteineiddio (LH). Mae LH yn gwneud i gelloedd Leydig yn y ceilliau gynhyrchu testosteron. Bydd lefelau uchel o testosteron yn atal yr hypothalamws rhag cynhyrchu mwy o GnRH ac yn atal y chwarren bitwidol rhag rhyddhau FSH a LH, felly ni fydd y ceilliau’n cynhyrchu testosteron. Trwy’r system adborth negyddol yma rheolir lefelau testosteron y corff.

Testosteron

Mae'n cael ei gynhyrchu yn y ceilliau a hefyd mae'n gallu cael ei secretu o'r chwarennau adrenal. Mae'n gallu dylanwadu ar ymddygiad y tarw neu'r hwrdd, ond bydd hyn yn effeithio'n bennaf ar y gwartheg / mamogiaid sy'n wasod.

Progesteron

Dyma hormon sy'n ymwneud â beichiogrwydd a'r gylchred fislifol. Os yw buwch yn beichiogi, mae'r progesteron a'r (CL) yn aros ar lefelau uchel er mwyn cynnal y beichiogrwydd, drwy baratoi leinin y groth ar gyfer yr embryo.

Os nad yw'r fuwch yn beichiogi, mae lefelau'r CL yn gostwng ac mae llai o brogesteron yn cael ei gynhyrchu ar ddiwrnod 18 fel bod y fuwch yn gallu dychwelyd i oestrws ar ddydd 21.

Oestrogen

Yn y gylchred fenywaidd yn unig mae'n cael ei gynhyrchu, yn yr ofari. Ei brif swyddogaeth yw ysgogi ymddygiad oestrws ac yn symbylu rhyddhau GnRH cyn ofwliad (bwrw'r wy).

FSH

Dyma'r hormon symbylu ffoliglau. Mae'n cael ei secretu o'r chwarren bitwidol. Mewn benywod mae'n ysgogi twf ffoliglau ar yr ofari.

FSH

Yng nghylchred y gwryw mae'n effeithio'n uniongyrchol ar diwbynnau semen y ceilliau. Mae hyn yn dechrau'r broses o gynhyrchu sberm, sbermatogenesis.

LH

Mae LH, yr hormon lwteineiddio, yn cael ei gynhyrchu yn y chwarren bitwidol ôl, mewn benywod mae'n symbylu ofwliad a datblygiad y corpws lwtewm.

Mewn gwrywod mae'n symbylu cynhyrchu testosteron gan y celloedd Leydig. Yna mae'r testosteron hwn yn hybu ymddygiad ‘gwrywaidd’.

Hawlfraint - Ed Uthman

Inhibin

Mewn gwrywod mae'n cael ei gynhyrchu yn y ceilliau ac mewn benywod yn yr ofari. Yn ei dro mae'n atal cynhyrchu FSH yn y chwarren bitwidol. Mae hyn yn effeithio ar y ffoliglau sydd ddim yn cael eu symbylu mwyach.

Llinell amser y gylchred atgenhedlu

Y Gylchred Oestrws

Bydd anifeiliaid benyw yn cael cylchredau oestrws yn ystod eu tymor bridio, sef trwy’r flwyddyn i wartheg a moch ac yn ystod yr hydref i ddefaid. Mae’r gylchred yn cael ei rheoli gan hormonau rhyw benywaidd. Yr oestrws ei hun ydy’r cyfnod pan fydd y benyw yn ffrwythlon ac yn sefyll i’w pharu:

Anifail Hyd y gylchred oestrws   Hyd yr oestrws
  Arferol Ystod  
Buwch 20 diwrnod 16-24 diwrnod 4-24 awr
Mamog 16-17 diwrnod 10-20 diwrnod 1-2 diwrnod
Hwch 21 diwrnod 15-30 diwrnod 1-3 diwrnod

Gwartheg - Mae gwartheg yn 'polyoestrous' ond nid yn dymhorol, felly maen nhw'n gallu sefyll tarw unrhyw adeg o'r flwyddyn, dim ond os ydyn nhw'n wasod.

Mae bron i bob dafad yn dymhorol o ran oestrws.

Mae nifer yr oriau o olau dydd yn effeithio ar y gylchred oestrws i ddefaid. Mae'r golau'n dod i mewn i'r llygaid, gan symbylu'r chwarren bineaidd.

Mae hon yn anfon neges i'r chwarren bitwidol i ddechrau proses oestrws a symbylu ffoliglau. Mae'r gylchred yn cymryd tua 13 i 19 diwrnod.

Mae hychod yn 'polyoestrus' fel buchod a 21 diwrnod yw eu cylchred nhw.

OFARI, FFOLIGLAU A’R CORWPS LWTEWM

  • Hormon Symbylu Ffoligl (FSH) - mae hwn yn cael ei gynhyrchu gan y chwarren bitwidol ac mae’n symbylu’r ofa i aeddfedu yn y ffoligl.
  • Hormon Iwteineiddio (LH) - sy'n gwneud i'r ffoligl fyrstio gan ryddhau'r ofwm
  • Oestrogen — sy'n gwneud i'r anifail ddangos ei bod yn wasod.
  • Progesteron — yn atal FSH ac yn rhwystro’r anifail rhag ofylu. Os caiff ofwm ei ffrwythloni, yna bydd lefel y progesteron yn aros yn uchel trwy gydol y beichiogrwydd.
  • Prostaglandinau — os na chaiff yr wy ei ffrwythion, yna bydd y groth yn cynhyrchu prostaglandinau, a bydd y gyichred yn cael ei hailadrodd.

Ymgydiad (copulation)

Ymgydiad yw pan mae dau organeb o'r naill ryw a'r llall yn cyplu'n rhywiol. Mae dau organ rhyw gwahanol yn uno.

Ffrwythloniad

Mae ffrwythloniad yn digwydd ar ôl ymgydiad, dyma pan mae'r ddau gamet yn uno.

Ar ôl i'r gwryw alldaflu, mae llawer o sbermau'n teithio i fyny drwy'r fagina a thrwy geg y groth. Yna i'r groth i gwrdd â'r wy.

Mewnblaniad

Dyma pan mae'r wy yn cydio wrth wal y groth. Drwy gydio fel hyn mae'r ffetws yn cael maetholion ac ocsigen er mwyn tyfu.

Cyfnod cyfebru/beichiogrwydd

Dyma'r cyfnod pan mae anifail yn feichiog neu'n gyfebr. I ddefaid, 147 diwrnod yw'r cyfnod cyfebru cyfartalog, ond i wartheg mae'n 275 diwrnod ar gyfartaledd. Mae hyn yn gallu gwahaniaethu, yn dibynnu ar y brid. Mae'r bridiau sy'n aeddfedu'n gynharach yn tueddu i fod â chyfnod cyfebru byrrach na'r bridiau sy'n aeddfedu'n hwyrach. Os oes llawer o rai bach, mae'r cyfnod cyfebru yn tueddu i fod yn fyrrach.

Yn ystod 30 diwrnod cyntaf y cyfnod cyfebru, cewch eich argymell i osgoi gweithio'r da byw, gwneud newidiadau mawr i arferion bwydo a rhoi brechiadau.

Yr Esgor neu'r Geni

Y cyfnod geni yw’r enw ar hyn. Mae tri cham i'r geni/esgor mewn gwartheg a defaid a moch:

  • Cam 1 – ceg y groth yn ymledu
  • Cam 2 - y ffoetws yn cael ei ymwthio
  • Cam 3 - y brych yn cael ei ymwthio

Mae'r amseru'n gallu amrywio ond yn gyffredinol bydd cam un yn para rhwng 3 a 4 awr, bydd yr enedigaeth yn digwydd cyn pen awr neu lai o dorri'r bag dŵr cyntaf.

Cloi

Ar diwedd y sesiwn hon dylech chi fod yn gallu:

  • Disgrifio anatomi atgenhedlu gwrywaidd a benywaidd gwartheg a defaid.
  • Esbonio rôl yr organau atgenhedlu allweddol.
  • Enwi'r hormonau atgenhedlu ac esbonio eu rôl.
  • Nodi'r drefn yng nghylchred atgenhedlu anifeiliaid fferm.