English

7. Etifeddeg mewn Anifeiliaid

Cyflwyniad i eneteg

Erbyn diwedd y sesiwn hon dylech chi fod yn gallu:

  • Disgrifio beth yw ystyr y term ‘geneteg’.
  • Disgrifio egwyddorion etifeddeg drwy atgynhyrchu rhywiol.
  • Esbonio geiriau ac ymadroddion allweddol.

DNA

DNA yn y gell

Beth rydyn ni'n ei feddwl wrth eneteg?

Geneteg yw astudio genynnau a'u heffeithiau.

Gennyn yw darn o DNA sy'n codio ar gyfer nodwedd benodol.

Mae cromosomau'n cynnwys cannoedd o enynnau.

Beth rydyn ni'n ei fedwl wrth eneteg?

Geneteg yw astudio genynnau a'u heffeithiau.

  • Rydyn ni'n astudio'r effaith y mae DNA yn ei chael ar yr organeb sy'n berchen arno,
  • a sut mae'r DNA hwnnw'n cael ei etifeddu gan epil (offspring) a'r effaith y mae hynny'n ei chael.

Niferoedd cromosomau

Cromosomau o wryw dynol normal

Niferoedd cromosomau

Mae gan anifeiliaid gwahanol niferoedd gwahanol o gromosomau:

60

Niferoedd cromosomau

Mae gan anifeiliaid gwahanol niferoedd gwahanol o gromosomau:

54

Niferoedd cromosomau

Mae gan anifeiliaid gwahanol niferoedd gwahanol o gromosomau:

64

Niferoedd cromosomau

Mae gan anifeiliaid gwahanol niferoedd gwahanol o gromosomau:

78

Niferoedd cromosomau

Mae gan anifeiliaid gwahanol niferoedd gwahanol o gromosomau:

38

Niferoedd cromosomau

Mae gan anifeiliaid gwahanol niferoedd gwahanol o gromosomau:

56

Niferoedd cromosomau

Mae gan anifeiliaid gwahanol niferoedd gwahanol o gromosomau:

88

Niferoedd cromosomau

Mae gan anifeiliaid gwahanol niferoedd gwahanol o gromosomau:

2 (benyw), 1 (gwryw)

Niferoedd cromosomau

Mae gan anifeiliaid gwahanol niferoedd gwahanol o gromosomau:

80

Niferoedd cromosomau

Drwy ryfeddod natur,

  • dydy cynyddu nifer y cromosomau ddim fel petai'n gwneud i'r anifail fod yn fwy na chwaith yn fwy cymhleth.

Etifeddiad

Mae atgynhyrchu rhywiol yn dda i rywogaeth oherwydd ei fod yn cynyddu'r amrywiaeth sydd yn y rhywogaeth.

Ond sut?

Atgenhedlu sylfaenol

Wy y fenyw (ofwm) + Sberm y gwryw = bywyd newydd.

Atgenhedlu sylfaenol

Mae cromosomau'n cynnwys genynnau (cyfarwyddiadau ar gyfer nodwedd benodol) – mae'r epil yn cael un set o orchmynion oddi wrth y fam ac un set o orchmynion oddi wrth y tad.

Wrth i ni edrych ar etifeddiad, rydyn ni'n edrych ar sut mae'r cyfarwyddiadau (genynnau) hyn yn rhyngweithio.

Beth yw cell haploid?

- dim ond hanner nifer y cromosomau (h.y. mae gan gell ryw 23 pâr o gromosomau).



Beth yw cell ddiploid?

- mae ganddi'r nifer llawn o gromosomau (46 pâr).

Geneteg

Genoteip – cyfanswm cynnwys genetig unigolyn.

Ffenoteip - pryd a gwedd ac ymddygiad unigolyn rydych chi'n gallu eu harsylwi. Rhyngweithio rhwng genoteip a'r amgylchedd.

Gwybodaeth enetig

Locws – lleoliad y genynnau eu hunain ar y cromosom.

Alel – ffurfiau gwahanol ar yr un gennyn, llygaid glas neu frown.

Meiosis

Math o rannu celloedd sy'n rhoi pedair epilgell, pob un â hanner nifer cromosomau'r rhiant-gell, fel sy'n digwydd wrth gynhyrchu gametau.

Asid Diocsiriboniwclëig

DNA (byr am asid diocsiriboniwclëig). Mae'r deunydd sy'n cynnwys cyfarwyddiadau genetig sy'n cael eu defnyddio yn natblygiad a swyddogaeth organeb. Mae DNA wedi'i drefnu mewn llinynnau siâp helics dwbl.

Mwtaniadau genynnau

Mwtaniad yw newid mewn gennyn, ac maen nhw'n gallu achosi alelau newydd mewn locws penodol.

Dyma sut rydyn ni'n cael amrywiadau genetig newydd a sut rydyn ni'n gallu ffurfio bridiau newydd, sydd i'w weld orau mewn cŵn. Mae daeargi Bedlington yn fersiwn wlanog o gorfilgi (whippet), ac mae gwartheg a cheffylau bach wedi dod o fwtaniadau.

Mae cyfraddau mwtaniadau ar gyfer gennyn yn isel iawn fel arfer, e.e. un mewn miliwn.

Mae ymbelydredd, rhai triniaethau cemegol, tymheredd annormal o uchel neu isel neu enynnau eraill sydd gan yr organeb yn gallu gwneud i fwtaniadau ddigwydd yn gyflymach.

Enwi Genynnau

Rydyn ni'n defnyddio llythrennau i wneud hyn ac mae confensiwn rhyngwladol er mwyn osgoi dryswch. Mae rhai genynnau'n cael eu galw ar ôl y person a'u darganfu nhw, e.e. gennyn Inverdale mewn defaid Texel.

Mae'r briflythyren yn cael ei defnyddio ar gyfer yr alel trechol (dominant) a'r llythyren fach ar gyfer yr alel enciliol (recessive).

Enghraifft:
P = alel heb gyrn mewn gwartheg (polled), p = alel corniog

Genoteip a ffenoteip

  • W = gwlân gwyn mewn defaid
  • w = gwlân du

Wrth ddisgrifio'r anifail, gan fod ganddo gyflwr ‘diploid’ neu ddwbl o'r alel, defnyddiwn ddwy lythyren. Enghraifft:

  • PP = buwch heb gyrn
  • pp = buwch gorniog
  • WW = dafad wen
  • ww = dafad ddu

Parau o gromosomau Heterosygaidd a Homosygaidd

Mae homosygot yn unigolyn sydd ag alelau unfath (identical) ar locws penodol – e.e. PP neu pp.

Mae gan heterosygot alelau heb fod yn unfath ar locws penodol – e.e. Pp

Pan rydych chi'n cyplu tarw heb gyrn (PP) â buwch heb gyrn (PP) – mae'r epil i gyd heb gyrn (PP).

Pan rydych chi'n cyplu tarw corniog (pp) â buwch gorniog (pp) – mae'r epil i gyd yn gorniog (pp).

Pan rydych chi'n cyplu tarw heb gyrn (PP) â buwch gorniog (pp) – mae'r epil i gyd heb gyrn (PP). Mae'r alel trechol P fawr yn atal yr alel p fach rhag cael ei fynegi.

Nodwch fod y rhain yn heterosygaidd gan fod ganddyn nhw alelau heb fod yn unfath ac felly fyddan nhw ddim yn bridio'n gywir (true).

Cromosomau rhyw-gysylltiedig

Mae rhyw-gysylltiedig yn nodwedd lle mae gennyn wedi'i leoli ar gromosom rhyw. Fel arfer mae'r term yn cyfeirio at nodweddion sy'n dod o dan ddylanwad genynnau ar y cromosom X. Mae hyn oherwydd bod y cromosom X yn fawr ac yn cynnwys llawer mwy o enynnau na'r cromosom Y sy'n llai.

Mewn clefyd rhyw-gysylltiedig, y gwryw fel arfer sy'n cael ei effeithio oherwydd bod ganddo un copi o'r cromosom X sy'n cario'r mwtaniad. Mewn benyw, efallai bydd yr ail gopi iach o'r cromosom X yn cuddio effaith y mwtaniad.

Gwrywod : XY

Benywod : XX

Genynnau marwol

Dyma ennyn sydd o dan rai amodau e.e. os yw'n homosygaidd, yn gallu atal datblygiad organeb neu ei gelloedd germau, neu achosi marwolaeth. Mae'r gennyn hefyd yn gallu cael ei alw'n ‘ffactor marwol, y mwtan marwol, neu fwtaniad marwol’.

Enghreifftiau:

  • Lloi ‘bulldog’ mewn gwartheg.
  • Anws di-dwll mewn lloi, defaid a moch.
  • Hydroceffalws (dwrben) mewn gwartheg, defaid a moch.
  • Taflod hollt (cyffredinol).
  • Noethni mewn dofednod.

Gwerth Bridio wedi'i Amcangyfrif

Mae Gwerthoedd Bridio wedi'u Hamcangyfrif (EBVs) yn fesuriadau potensial genetig, sy'n gallu cael eu defnyddio i asesu rhinwedd bridio anifail am nodwedd benodol.

Mae'r gwerth yn cael ei roi fel a + neu a - ac mae'n gysylltiedig â nodweddion pwysig.

Nodweddion mewn Hyrddod

Nodwedd

Pwysau Wyth Wythnos (kg) = Cyfraddau twf cynnar
Pwysau Sgan (kg) = Cyfradd twf
Dyfnder y Cyhyrau (mm) = Cyhyrau ar draws
Dyfnder Braster y lwyn (mm) = Teneuwch
Maint y Torllwyth (% ŵyn) = Gallu Mamol
Epilgar Benyw (kg) = Gallu i odro
Maint Aeddfed (kg) = Maint y famog aeddfed

Nodweddion mewn Teirw Eidion

Nodweddion Tadol
Nodweddion Rhwyddineb Lloia

  • Pwysau geni (kg)
  • Cyfnod Cyfebru (days)
  • Rhwyddineb Lloia (%)

Nodweddion Twf a'r Carcas

  • Twf 200 Diwrnod (kg)
  • Twf 400 Diwrnod (kg)
  • Dyfnder Cyhyrau (mm)/ Arwynebedd Cyhyr y Llygad (cm2)
  • Dyfnder Braster y Cefn (mm)

Nodweddion Mamol

Hefyd bydd gan y fuwch eidion nodweddion sy'n dylanwadu ar ei hepil, ei datblygiad a'i carcas:

  • Llaeth 200 diwrnod mewn kg
  • Rhwyddineb Lloia
  • Nifer y benywod fel % o'r epil

Crynodeb

Gobeithio eich bod nawr yn gallu:

  • Disgrifio beth yw ystyr y term ‘geneteg’.
  • Disgrifio egwyddorion etifeddeg drwy atgynhyrchu rhywiol.
  • Esbonio geiriau ac ymadroddion allweddol a ddefnyddir mewn geneteg mewn amaethyddiaeth.