English

8. Bridio Detholus mewn Anifeiliaid fferm

Mae'r sesiwn hon yn edrych ar fridio detholus mewn anifeiliaid fferm.

Erbyn diwedd y sesiwn hon byddwch chi'n gallu:

  • Disgrifio etifeddiad Mendelaidd
  • Esbonio'r gwahaniaeth rhwng genynnau trechol ac enciliol
  • Diffinio nodweddion etifeddol, ac esbonio sut mae'n bosibl dadansoddi trasau (pedigrees)
  • Esbonio bridio detholus sydd hefyd yn cael ei alw'n ddethol artiffisial
  • Diffinio mewnfridio, allgroesi (outcrossing) ac ymnerth croesryw
  • Gwerthuso rôl buches fridio gnewyllyn.

Beth yw bridio detholus?

Cynllunio i fridio anifeiliaid sydd â nodweddion dymunol er mwyn ceisio cynhyrchu epil sydd â nodweddion dymunol tebyg neu nodweddion gwell.

Enw arall ar hyn yw ‘bridio artiffisial’.

Dechreuodd y penderfyniad ymwybodol hwn i fridio anifeiliaid fferm yn gynnar yn y 18fed ganrif, a'r arloeswr oedd Robert Bakewell.

Robert Bakewell

Ganwyd ROBERT BAKEWELL yn 1725 yn Dishley, Swydd Gaerlŷr (Leicestershire), Lloegr. Bu farw ar 1 Hydref 1795, yn Dishley.

Amaethwr oedd Bakewell a lwyddodd i chwyldroi bridio defaid a gwartheg yn Lloegr drwy ddetholiad a mewnfridio trefnus.

Ef oedd y cyntaf i wella anifeiliaid er mwyn cynhyrchu cig ac er mwyn gwella ansawdd y carcas.

Detholiad naturiol

Detholiad naturiol yw pan mae nodweddion penodol wedi addasu er mwyn goroesi yn eu hamgylchedd.

Wedyn mae'r rhywogaeth sy'n goroesi gyda'r nodweddion hyn yn trosglwyddo eu gwybodaeth enetig i'w hepil.

Dydy'r rhywogaeth sydd â nodweddion llai dymunol ddim yn goroesi mor hawdd ac felly maen nhw'n aml yn diflannu.

Damcaniaeth esblygiad Darwin

Addasiad

  • Newid mewn poblogaeth er mwyn goroesi yw addasiad.
  • Mae’n gallu digwydd o ran ymddygiad.
  • Gallai gynnwys ymddygiad fel bod yr anifail yn gallu dianc yn haws rhag ysglyfaethwr.
  • Gallai fod yn gorfforol.
  • Gallai'r anifail dyfu coesau hirach fel ei fod yn gallu rhedeg yn gyflymach.

Etifeddiad Mendelaidd

Buodd Gregor Mendel, mynach o Awstria, yn astudio geneteg.

Mae "etifeddiad Mendelaidd" yn cyfeirio at batrymau etifeddiad sy'n nodweddion ar organebau sy'n atgenhedlu'n rhywiol.

Llwyddodd i ddarganfod deddfau sylfaenol etifeddiad.

Daeth i'r casgliad bod genynnau'n dod mewn parau a'u bod yn cael eu hetifeddu fel unedau ar wahân, un o bob rhiant.

Dilynodd Mendel sut roedd genynnau'r rhieni wedi'u didoli ac yn ymddangos yn yr epil fel nodweddion trechol neu enciliol.

Tair rheol Etifeddiad

  1. Deddf Didoli Mendel
  2. Deddf Trechedd Mendel
  3. Deddf Amrywiaeth Annibynnol Mendel

Deddf Didoli Mendel

Mae'r Ddeddf Didoli'n dweud bod gan unigolion ddau alel ac mae rhiant yn trosglwyddo un alel yn unig i'w epil.

Mae un alel yn dod o'r rhiant benywaidd a'r llall o'r rhiant gwrywaidd.

Efallai bydd y ddau ffactor yn cynnwys yr un wybodaeth, neu efallai ddim.

Os yw'r ddau alel yn unfath, mae'r unigolyn yn cael ei alw'n homosygaidd ar gyfer y nodwedd.

Os yw'r ddau alel yn wahanol, mae'r unigolyn yn cael ei alw'n heterosygaidd.

Deddf Trechedd Mendel

Mewn heterosygot, mae'r alel sy'n cuddio'r llall yn cael ei alw'n drechol. Mae'r alel sy'n cael ei guddio yn cael ei alw'n enciliol.

Genynnau trechol ac enciliol mewn anifeiliaid fferm

Mewn gwartheg, mae'r alel sy'n gwneud i gyrn dyfu yn enciliol. Mae'r alel heb gorn (polled), yn drechol. Mae genynnau ychwanegol sy'n effeithio ar dyfiant fel corn ar ben anifail.

Rhywogaeth Nodwedd Drechol Nodwedd Enciliol
Gwartheg Cot o flew du Cot o flew coch
Heb gyrn Corniog
Wyneb gwyn Lliw solet
Lliw solet Smotiau gwyn afreolaidd
Coch Melyn
Carnau fforchog Traed mul
Defaid Cnu blewog Cnu gwlanog
Gwlân gwyn Gwlân du
Llygaid brown Llygaid glas

Deddf Amrywiaeth Annibynnol Mendel

Mae Deddf Amrywiaeth Annibynnol Mendel yn dweud nad yw genynnau'n dylanwadu ar ei gilydd o ran didoli alelau'n gametau: mae pob cyfuniad posibl o alelau ar gyfer pob gennyn yr un mor debygol o ddigwydd.

Hynny yw, mae genynnau ar wahân ar gyfer nodweddion ar wahân yn cael eu trosglwyddo'n annibynnol ar ei gilydd o'r rhieni i'r epil.

OND: eithriad!

Dydy rhai cyfuniadau o alelau ddim yn cael eu hetifeddu'n annibynnol ar ei gilydd. Bydd genynnau ar gromosomau ar wahân sydd ddim yn homologaidd yn didoli'n annibynnol bob amser. Fodd bynnag, mae pob cromosom yn cynnwys cannoedd neu filoedd o enynnau sydd wedi'u trefnu'n llinol ar gromosomau, fel gleiniau ar linyn.

Mae cysylltedd yn gallu dylanwadu ar ddidoli alelau i gametau. Yma, mae genynnau sy'n ffisegol agos at ei gilydd ar yr un cromosom yn fwy tebygol o gael eu hetifeddu fel pâr.

Ond, oherwydd proses ailgyfuno, neu “groesi drosodd”, mae'n bosibl i ddau ennyn ar yr un cromosom ymddwyn yn annibynnol, neu fel petaen nhw ddim wedi'u cysylltu.

Mae genynnau sydd wedi'u cysylltu'n gallu cael eu gwahanu drwy ailgyfuno

Pan mae dau ennyn yn agos at ei gilydd ar yr un cromosom, maen nhw'n cael eu hystyried wedi'u cysylltu, ac mae eu halelau'n tueddu i gael eu trosglwyddo drwy feiosis gyda'i gilydd.

Ailgyfuno

Mae proses croesi drosodd, neu ailgyfuno, yn digwydd pan mae dau gromosom homologaidd yn alinio yn ystod meiosis ac yn cyfnewid rhan o ddeunydd genetig. Yma, cafodd yr alelau ar gyfer gennyn C eu cyfnewid. Y canlyniad yw dau gromosom sydd wedi'u hailgyfuno, a dau sydd heb eu hailgyfuno.

Beth yw nodweddion ‘etifeddadwy’?

Mae bridio anifeiliaid yn seiliedig ar y ffaith bod nodweddion rhieni i’w gweld yn fwy neu’n llai yn eu hepil. Y ffaith sy'n achosi hyn yw bod nodweddion yn fwy neu’n llai etifeddadwy a bod 50% o'r DNA, sy'n cynnwys y gallu etifeddadwy ar gyfer nodweddion anifail, yn cael ei drosglwyddo o riant i'w epil.

Mewn bridio anifeiliaid, mae rhieni posibl yn cael eu dethol er mwyn nodweddion penodol ac mae'r rhai gorau yn cael eu defnyddio fel rhieni. Fel hyn bydd y genhedlaeth nesaf wedi'u gwella'n enynnol ar gyfer y nodweddion dymunol.

Etifeddadwyedd

Mae etifeddadwyedd yn mesur pa mor dda mae gwahaniaethau yng ngenynnau anifail yn golygu bod gwahaniaethau yn eu nodweddion. Mae etifeddadwyedd agos at 1 yn dangos bod bron i'r holl amrywiaeth mewn nodwedd yn dod o wahaniaethau genetig, gydag ychydig iawn o gyfraniad o ffactorau amgylcheddol.

Mewnfridio, allgroesi (outcrossing) ac ymnerth croesryw

Mewnfridio

Dyma fridio dau unigolyn sy'n perthyn.

Dydyn ni ddim yn ystyried bod anifeiliaid yn perthyn y tu hwnt i 5 cenhedlaeth.

A allwch chi feddwl am fanteision ac anfanteision sy'n gysylltiedig â mewnfridio?

Mewnfridio

Manteision






Anfanteision






Mewnfridio

Manteision

  • NODWEDD DEBYG MEWN STOC IFANC (UNFFURF)
  • MAE GENYNNAU NAD YDYCH EU HEISIAU YN GALLU CAEL EU CARIO OHERWYDD GENYNNAU ENCILIOL
  • LLINACH-FRIDIO DDA

Anfanteision

  • COLLI AMRYWIAETH ENETIG
  • COLLI GENYNNAU GWAEL
  • YN FWY TUEDDOL O GAEL CLEFYDAU

Llinach-fridio a Chroes-fridio

Llinach-Fridio

Ffurf ar fewnfridio yw hon. Bridio anifeiliaid sydd â'r un llinach gwaed ond sydd ddim yn perthyn yn agos.

Croes-fridio

Bridio gryw a benyw o deuluoedd ar wahân.

All-groesi

All-groesi neu all-fridio yw'r dechneg o groesi rhwng bridiau gwahanol heb hynafiaid cyffredin.

Dyma'r arfer o gyflwyno deunydd genetig nad yw'n perthyn i mewn i linach fridio.

Mae'n cynyddu amrywiaeth enetig, felly mae'n lleihau'r tebygolrwydd y bydd unigolyn yn cael clefydau neu abnormaleddau genetig.

Tasg

Mewn parau, enwch gymaint o groesfridiau cydnabyddedig sy'n cael eu defnyddio ar ffermydd yn y DU.

Atebion: Rhestr o groesfridiau cyffredin

DEFAID

  • Dafad Groesryw Gymreig/Seisnig/Albanaidd
  • Dafad Gymysg Gymreig/Seisnig/Albanaidd
  • Suffolk x Wyneb Brith (Speckle Face)
  • Suffolk x Dafad Groesryw
  • Texel x Dafad Groesryw

GWARTHEG

  • Hereford x Friesian
  • Holstein x Friesian
  • Jersey x Friesian
  • Limousin x Friesian
  • Simmental x Friesian

Ymnerth Croesryw

Ymnerth Croesryw (hybrid vigour) yw'r graddau y mae epil croesryw i gyplu penodol yn well na dau frid y rhieni.

Er bod ymnerth croesryw yn gallu cael ei ddefnyddio i wella nodweddion fel cyfradd twf, mae'n cael llawer mwy o effaith ar nodweddion sy'n llai etifeddadwy, fel ffrwythlondeb, maint y cynnyrch llaeth a hirhoedledd (byw'n hir).

Mae'r nodweddion hyn, sy'n anodd eu gwella drwy fridio pur, yn cael eu gwella'n fawr drwy groesfridio – fel bod mwy o loi yn goroesi, fel bod yr atgenhedlu'n fwy effeithlon a bod cyfraddau twf lloi yn uwch.

Rhaglenni bridio Buches Fridio Gnewyllyn

Mae gan raglenni bridio gynlluniau cofnodi perfformio sy'n helpu bridwyr i nodi anifeiliaid sydd â photensial bridio gwell ac i annog eu defnydd yn ehangach yn y diwydiant.

Mae angen y cynlluniau hyn oherwydd bod perfformiad da byw yn dibynnu ar eu bridio a hefyd ar lawer o ffactorau amgylcheddol eraill fel bwydo a rheoli.

Beth mae cynlluniau cofnodi yn ei wneud?

Mae cynlluniau cofnodi'n ceisio gwahanu effeithiau bridio a'r amgylchedd ar berfformiad anifeiliaid fel ei bod hi’n bosibl nodi'r anifeiliaid hynny y mae eu bridio'n wirioneddol well.

Mae cofnodion perfformio'n sicrhau bod anifeiliaid bridio yn cael eu dethol ar sail mesuriadau gwrthrychol.

Buches/Diadell Fridio Gnewyllyn

Mae'r Fuches Fridio Gnewyllyn Teirw yn fuches elît o wartheg / defaid neu foch sy'n cael ei chadw ar eiddo masnachol, yn benodol er mwyn bridio teirw i'r fuches fasnachol.

Mae 2 fath, agor a chaeedig.

Mewn system gaeedig, mae'r anifeiliaid yn llifo i un cyfeiriad yn unig, o'r cnewyllyn i mewn i ffermydd masnachol.

Mewn system agored, mae'r epil gorau sy'n perfformio'n dda yn y fuches fasnachol yn gallu symud yn ôl i fod yn rhan o'r fuches gnewyllyn.

Cloi

Nawr mae gennych wybodaeth sylfaenol o'r canlynol:

  • Etifeddiad Mendelaidd
  • Y gwahaniaeth rhwng genynnau trechol ac enciliol
  • Nodweddion etifeddadwy
  • Dethol artiffisial
  • Mewnfridio, all-groesi ac ymnerth croesryw
  • Cnewyllyn buches fridio.