English

9. Technolegau Atgenhedlu

Erbyn diwedd y sesiwn hon byddwch chi'n gallu:

  • Disgrifio ac esbonio proses syncroneiddio oestrws
  • Esbonio proses ymhadu artiffisial
  • Gwerthuso rolau semen ac embryonau wedi'u rhywio
  • Disgrifio beth yw ystyr clonio, trosglwyddo embryonau a thransgenesis
  • Disgrifio ac esbonio'r dulliau amrywiol o roi diagnosis beichiogrwydd.

Cyflwyniad

Mae atgenhedlu, sef cynhyrchu epil, yn sail i'r rhan fwyaf o systemau ffermio.

Mae gwaith ffermio yn canolbwyntio gan fwyaf ar gael y fuwch yn gyflo a'r ddafad yn gyfebr eto er mwyn cynhyrchu cig neu ar gael cywion i ddodwy wyau.

Yn naturiol, byddai anifeiliaid yn cyplu yn y gwyllt, ond gan ein bod wedi dofi ein hanifeiliaid fferm, y ffermwr sy'n rheoli sut maen nhw'n atgenhedlu.

Mae gan ffermwr ddewis o ran ffyrdd o ffrwythloni’r anifeiliaid benyw a hefyd pa dechnoleg, os o gwbl, y mae'n dewis ei defnyddio.

Syncroneiddio oestrws

Oestrws yw'r cyfnod yng nghylchred atgenhedlu’r anifail benyw lle dywedir ei bod hi'n wasod, neu'n gallu sefyll gwryw.

Mae'r cyfnod oestrws yma'n gallu cael ei syncroneiddio, fel bod yr anifeiliaid benyw i gyd yn atgenhedlu gyda'i gilydd, dros gyfnod byr o amser.

Mae llawer o fanteision i hyn...

Allwch chi feddwl am rai?

Rheoli'r gylchred oestrws

Mae rheoli'r gylchred oestrws yn dibynnu ar drin yr hormonau sy'n rhan o'r gylchred. Mae dau ddull o reoli'r gylchred oestrws, sef:

a) dechrau lwteolysis

b) efelychu'r cyfnod lwteaidd.

a) Dechrau lwteolysis (y corpws lwtewm yn dadfeilio)

Gwneir hyn drwy roi pigiad o prostaglandin (PGF) yn y cyhyrau yn ystod cyfnod canol-lwteaidd y gylchred. O ganlyniad, bydd lwteolysis yn digwydd cyn pryd a bydd cwymp yn lefel y progesteron.

Bydd hi'n cymryd tua 30 awr ar ôl rhoi'r pigiad i'r progesteron gwympo i'r lefel sylfaenol. Wrth i'r progesteron gwympo, bydd GnRH yn cael ei actifadu ac yna bydd FSH a LH yn cael eu secretu o'r chwarren bitwidol flaen, a bydd y fuwch yn dod yn wasod cyn pen 3 i 4 diwrnod.

Ond, er mwyn i hyn weithio, rhaid bod corpws lwtewm yn yr ofari, ac mae'r corpws lwtewm yn sensitif i PGF rhwng diwrnodau 5 ac 17 y gylchred yn unig.

Mae angen archwilio’r rectwm er mwyn gweld a oes corpws lwtewm a hefyd er mwyn sicrhau nad yw'r anifail yn gyfebr/feichiog. Os yw anifail cyfebr yn cael pigiad PGF cyn 150 diwrnod neu dros 250 diwrnod o'r beichiogrwydd, mae'n debygol iawn y bydd yn erthylu.

Prostaglandins

Mae'r pigiadau hyn yn gallu cael eu defnyddio mewn nifer o ffyrdd:

  1. Syncroneiddio grŵp o dreisiedi/aneri/heffrod yn llwyr
  2. Rhoi pigiad i wartheg nad ydyn nhw wedi cael eu gweld yn sefyll tarw
  3. Rhoi pigiad i wartheg nad ydyn nhw'n syncroneiddio â gweddill y grŵp.

b) Efelychu'r cyfnod lwteaidd

Mae'n bosibl gwneud hyn drwy roi progesteron neu un o'r hormonau sy’n deillio ohono.

Y nod yw rhoi ffynhonnell o brogesteron sydd â hyd oes hirach na'r corpws lwtewm.

Mae'r progesteron sy'n cael ei roi yn gweithredu fel corpws lwtewm artiffisial, ac ni fydd anifeiliaid sydd wedi'u trin yn dod yn wasod tan i'r ffynhonnell gael ei thynnu ymaith.

PRID – Dyfais sy'n Rhyddhau Progesteron yn y Llawes Goch (Progesterone Releasing Intravaginal Device)

Mewnblaniad arbenigol yw’r ddyfais hon sy'n cael ei rhoi drwy declyn arbennig i mewn i lawes goch yr anifail a’i chadw yno am gyfnod o hyd at 12 diwrnod. Mae'r PRID yn cynnwys coil dur gwrthstaen hyblyg gyda chôt o rwber silicon drosto, sy'n cael ei drwytho â phrogesteron.

Mae'r progesteron yn atal gweithgarwch y GnRH, mae'r corpws lwtewm yn dadfeilio'n naturiol ond ni fydd yr anifail yn dod yn wasod oherwydd nad oes FSH a LH yn cael eu rhyddhau.

Ar ddiwrnod 12, mae'r PRID yn cael ei dynnu.

CIDR: Rhyddhau Cyffuriau Mewnol o dan Reolaeth (Controlled Internal Drug Release)

Mae'n cynnwys strwythur siâp T o neilon gyda silicon wedi'i drwytho â phrogesteron drosto, gyda chynffon blastig fach sy'n cael ei gadael yn dod allan o'r faneg/fwlfa. Ar ôl tynnu'r CIDR, mae pigiad prostaglandin yn aml yn cael ei roi, ac mae'r fuwch yn dod yn wasod cyn pen 3 i 4 diwrnod ar ôl i'r CIDR gael ei dynnu.

Crestar

Mewnblaniad progesteron yw hwn sy'n cael ei osod o dan y croen y tu ôl i glust anifail. Ar yr un pryd, mae pigiad o oestradiol yn cael ei roi i mewn i'r cyhyrau, sy'n helpu i gael gwared ar unrhyw ran o'r corpws lwtewm sydd ar ôl. Ar ôl 9 i 10 niwrnod, mae toriad bach yn cael ei wneud yn y croen sydd drosto ac mae'r mewnblaniad yn cael ei wasgu allan.

Mae'r fuwch yn dod yn wasod 48 awr ar ôl tynnu'r mewnblaniad.

Syncroneiddio oestrws mewn defaid

Mae dau brif ddull:

  • Defnyddio hormonau sy'n cael eu mewnblannu i'r famog.
  • Defnyddio hwrdd ymlid (teaser ram), sef hwrdd sydd wedi cael fasectomi.

Rhoi sbwng i mewn i famogiaid (sponging)

Beth sy'n digwydd wrth roi sbwng i mewn i famogiaid?

Mae'r sbwng yn cynnwys yr hormon progesteron. Mae'r hormon hwn yn anfon neges i'r ymennydd fel nad yw'r ddafad yn dod yn wasod.

Mae'r broses hon yn cymryd hyd at
2 wythnos (14 diwrnod).

Ar ôl i'r sbwng progesteron gael ei dynnu ar y 12fed diwrnod, dylech ffrwythloni'r famog 52 awr yn ddiweddarach.

Sut mae rhoi'r sbwng yn gweithio?

  • Diwrnod 1. Gosod y sbwng progesteron.
  • Diwrnod 3. Rhoi pigiad o 'estrumate' i'r famog.
  • Diwrnod 12. Tynnu'r sbwng.
  • Diwrnod 13. Cyflwyno'r hwrdd ymlid, mae hyn yn helpu i syncroneiddio'r mamogiaid i ddod yn wasod ar yr un pryd.
  • Diwrnod 14. Ffrwythloni'r mamogiaid 10-18 awr ar ôl i'r famog fod i mewn gyda'r hwrdd ymlid.

Hwrdd Ymlid

Beth yw hwrdd ymlid?

Hwrdd anffrwythlon yw hwrdd ymlid; mae'n cael ei ddefnyddio i ddod â'r mamogiaid i gyd yn wasod ar yr un pryd fel eu bod nhw'n gallu cael eu hanfon at yr hyrddod ffrwythlon.

Bydd hwrdd ymlid yn mowntio'r famog ond ni fydd yn ei ffrwythloni.

Mae testosteron ar yr hwrdd ymlid; dyma'r arogl sy'n dod â'r mamogiaid yn wasod.

Sut mae hwrdd ymlid yn syncroneiddio mamogiaid?

  • Diwrnod 1 – Rhoi pigiad estrumate (150mg) i mewn i'r cyhyrau.
  • Diwrnod 10 – Rhoi pigiad estrumate.
  • Diwrnod 11 – Cyflwyno'r hwrdd ymlid.
  • Diwrnodau 12-14 – Ffrwythloni'r famog 10-12 awr ar ôl i'r famog fod i mewn gyda'r hwrdd ymlid.
  • Mae'r famog yn wasod am 18-36 awr ond mae ei ffrwythlondeb yn gostwng bob awr.
  • Diwrnodau 27-30 – Gwylio am olion yr hwrdd ymlid ac ymhadu.

Mae'n bosibl gosod harnais ar yr hyrddod. Wedyn, mae hyn yn dangos i chi pa famogiaid y mae'r hwrdd wedi'u mowntio ac mae posibilrwydd bod y famog wedi'i ffrwythloni.

Rhoi Tarw neu Atgenhedlu Artiffisial

Rhoi Tarw

Mae'r tarw'n mowntio'r fuwch, sy'n sefyll tarw.

Mae semen yn cael ei alldaflu, o ganlyniad i symudiad peristalsig o'r epididymis, ar hyd y vas deferens i'r wrethra, ac yn y pen draw i'r llawes goch ychydig islaw gwddf y groth, sef y fynedfa i'r groth.

Ymhadu Artiffisial (AI)

Mae'r tarw, bob tro y mae'n alldaflu, yn cynhyrchu digon o semen, ar ôl ei wanedu (dilute), i wneud o leiaf 500 gwelltyn, gyda 0.25ml ym mhob gwelltyn. Mae’n cynnwys 20 miliwn o sbermatosoa.

Wedyn caiff ei gasglu a’i wneud yn ‘wellt’ o semen sy'n cael eu storio mewn nitrogen hylif.

Ychydig cyn yr ymhadu, bydd y technegydd yn dadlaith/toddi'r gwelltyn ac yn ei roi mewn chwistrell hir.

Amseru AI

Mae'r amseru'n allweddol, a byddai'n ymddangos bod 12-24 awr ar ôl 'dod yn wasod' yn ddelfrydol.

Mae'r semen yn cael ei ddadlaith, ac yn cael ei gyflwyno i lwybr y fuwch gan ddefnyddio ‘dryll’ addas. Mae'r semen yn cael ei chwistrellu i gorff y groth, yr ochr draw i wddf y groth.

TASG

Mewn parau, trafodwch fanteision posibl defnyddio AI mewn gwartheg.

Manteision defnyddio AI

  • Mynediad at y teirw gorau yn y byd heb orfod bod yn berchen arnyn nhw.
  • Dewis ehangach.
  • Llai o risg o glefydau a dim angen llogi tarw i'w roi i'ch gwartheg chi.
  • Dim angen talu i gadw tarw.
  • Llai o berygl.

Semen wedi'i rywio ac embryonau wedi'u rhywio.

Semen wedi'i rywio (sexed semen) yw semen sydd â sberm sy'n cario X neu Y er mwyn cynhyrchu epil o'r rhyw rydych ei eisiau, naill ai benyw neu wryw (mae tua 80%-90% yn gywir).

Oherwydd y gallu i ddefnyddio semen wedi'i rywio in vitrio (mewn tiwb profi) i ffrwythloni nifer o wyau o anifeiliaid benyw ffrwythlon iawn, mae’n fwy tebygol eich bod yn cael embryonau wedi'u rhywio i'w cyflwyno i anifail benyw.

Hefyd mae embryonau'n gallu cael eu fflysio allan o’r anifeiliaid benyw sy'n eu rhoi (donor) a chael eu cyflwyno i anifeiliaid benyw sy'n aros amdanyn nhw er mwyn cyflymu a chael mwy o enillion genetig mewn buches neu braidd.

Clonio

Clonio yw'r broses o gynhyrchu unigolion sydd â DNA unfath neu bron yn unfath, naill ai'n naturiol neu'n artiffisial.

Mae celloedd sy'n cynnwys DNA a roddwyd (donor) yn cael eu rhoi yn lle DNA yr anifail sy'n derbyn, mewn cnewyll blastocytau sydd wedi'u gwacáu (wy a sberm wedi ymasio (fused)), ac felly mae'n rhoi embryo newydd.

Dolly, dafad wedi'i chlonio gyntaf y byd.

© National Human Genome Research Institute

Trosglwyddo embryonau

Trosglwyddo embryonau yw'r broses lle mae embryonau wedi'u ffrwythloni yn cael eu fflysio (tynnu) o famog sy'n eu rhoi (donor), ac yna'n cael eu trawsblannu i famogiaid sydd wedi'u syncroneiddio'n addas er mwyn cael beichiogrwydd benthyg croth (surrogate).

Mae'r embryo yn dechrau mewnblannu tua 10 niwrnod ar ôl y llawdriniaeth.

Transgenesis

Transgenesis yw'r broses o gyflwyno gennyn (sy'n cael ei alw'n 'transgene') o un organeb i genom organeb arall. Y nod yw bod yr organeb transgenig yn mynegi'r gennyn ac yn dangos rhyw briodwedd neu nodwedd newydd.

Mae'r engraifft ar y sleid nesaf yn dangos sut byddai'n bosibl cael gafr i gynhyrchu llaeth gyda hormonau twf dynol, a allai helpu plant sydd â thwf corachaidd (stunted growth).

Dulliau o Roi Diagnosis Beichiogrwydd mewn Anifeiliaid Fferm

Mae tri dull sylfaenol: -

1. Prawf Progesteron Llaeth 24 diwrnod - Mae'r prawf hwn yn mesur lefelau progesteron yn y llaeth. Mae'n brawf da i ddangos os nad yw buwch yn gyflo. Ond mae canlyniadau positif anghywir yn bosibl, mewn achosion lle nad yw ffrwythloni wedi digwydd ond mae’r corpws lwtewm yn dal i fod yn fyw am unrhyw reswm.

2. Teimlo'r rectwm - Dydy hyn ddim yn bosibl tan ddiwrnod 35 beichiogrwydd. Mae'r groth yn cael ei theimlo drwy osod y llaw yn y rectwm, ac rydych chi'n gallu dweud y gwahaniaeth rhwng croth wag a chyflo.

3. Sganio uwchsain - Mae'r sganiwr yn cynnwys chwiledydd (probe), sy'n cael ei roi i mewn i rectwm y fuwch, ac sy'n sganio dros bob un o gyrn y groth. Mae'r sgrin yn dangos llun du a gwyn o'r groth, gyda'r wal yn olau a'r hylifau'n dywyll.

Cloi

Ar diwedd y sesiwn hon dylech chi fod yn gallu:

  • Disgrifio ac esbonio proses syncroneiddio oestrws
  • Esbonio proses ymhadu artiffisial
  • Gwerthuso rolau semen ac embryonau wedi'u rhywio
  • Disgrifio beth yw ystyr clonio, trosglwyddo embryonau a thransgenesis
  • Disgrifio ac esbonio'r dulliau amrywiol o roi diagnosis beichiogrwydd.