English

10. Problemau atgenhedlu mewn anifeiliaid fferm

Mae'r sesiwn hon yn edrych ar faterion problemau atgenhedlu mewn anifeiliaid fferm.

Erbyn diwedd y sesiwn hon byddwch chi'n gallu:

  • Esbonio achosion anffrwythlondeb mewn anifeiliaid fferm
  • Disgrifio'r term mihifir-mihafar (freemartin)
  • Esbonio'r term dystocia, a'r prif ffactorau sy'n ei achosi
  • Disgrifio'r anhwylderau maethol sy'n gysylltiedig ag atgynhyrchu
  • Enwi'r prif anhwylderau etifeddol sy'n gysylltiedig â gwartheg a defaid.

Ffrwythlondeb ac Anffrwythlondeb mewn anifeiliaid fferm

Ffrwythlondeb yw gallu'r anifail gwryw neu fenyw i atgenhedlu.

Mae system atgenhedlu'r ddau yn dod o dan ddylanwad amrywiaeth o gonadotroffinau sydd ar waith yn eu tro.

Y fuwch laeth

Mae bwlch o 365 diwrnod rhwng lloia yn ddelfrydol yn y fuwch laeth.

Rhannau'r bwlch o 365 diwrnod rhwng lloia:

  • cael gwared ar haint yn y groth
  • cylchred oestrws reolaidd
  • canfod a yw'r fuwch yn wasod
  • ffrwythloni
  • mewnblannu embryo
  • cyn lleied o farwolaethau embryonig ag sy'n bosibl
  • osgoi erthyliadau
  • cynhyrchu llo byw

Prif achosion cyfraddau beichiogi isel mewn Gwartheg Llaeth

Prif achosion cyfraddau beichiogi isel:

  • Ddim yn dda wrth ganfod yr embryo
  • Rhoi tarw yn rhy fuan ar ôl lloia
  • Ddim yn dda wrth ganfod a yw'r fuwch yn wasod
  • Amseru Ymhadu Artiffisial (AI) yn wael
  • Endometritis
  • Afu/iau brasterog
  • Heintiau cenhedlol ac eraill, e.e. Leptospirosis
  • Straen
  • Cyfleusterau trin gwael
  • Techneg yr un sy'n rhoi'r AI
  • Ansawdd y semen
  • Maeth

Prif resymau iechyd dros ffrwythlondeb gwael yn y fuwch laeth

  • Endometritis
  • Afu/iau brasterog
  • Ofarïau cystig
  • Maeth gwael – cymeriant egni isel
  • Diffyg elfennau hybrin neu fitaminau

Erthyliadau wedi'u hachosi gan:

  • Leptospirosis
  • BVD
  • Infectious Bovine Rhinotracheitis
  • Neospora
  • Salmonellosis
  • Heintiau cenhedlol (genital), e.e. Brucella abortus, Trichosomonas foetus a Campylobacter

Y prif resymau dros ffrwythlondeb gwael yn y ddafad a chyfraddau beichiogiad gwael.

  • Cyfraddau ofwliad isel – yn ymwneud â sgôr cyflwr y corff: rhy dew/rhy denau
  • Cyfraddau beichiogiad isel – yn ymwneud â sgôr cyflwr y corff: rhy dew/rhy denau
  • Y ffoetws yn cael ei amsugno eto yn gynnar – straen maethol/go iawn
  • Marwolaeth hwyr y ffoetws
  • Erthyliad
  • Geni'n farw
  • Dystocia – wyna anodd
  • Cwymp y groth neu'r llawes goch (prolapses)
  • Diffyg gallu fel mam

Mihifir-mihafar (freemartin)

Diffiniad:

‘anifail deuryw (hermaphrodite) neu lo benyw anffrwythlon amherffaith sy'n efell i lo gwryw. Cafodd hormonau'r llo gwryw hwnnw effaith ar ei ddatblygiad’

Mae'r fenyw a'r gwryw yn rhannu'r un cyflenwad gwaed yn y groth ac felly mae'r testosteron yn drechol ac yn effeithio ar ddatblygiad yr ofarïau benywaidd. Efallai nad ydyn nhw yno, neu eu bod nhw wedi crebachu.

Dystocia

Mae dystocia'n cyfeirio at eni annormal neu anodd.

Achosion cyffredin:

  • ceg y groth heb ymledu'n llwyr
  • lloi/ŵyn mawr o'u cymharu â'r fam
  • ddim yn wynebu'r ffordd gywir wrth esgor

Materion maethol a metabolaidd sy'n gysylltiedig ag atgenhedlu

Clefyd neu gyflwr metabolaidd yw'r enw ar grŵp o afiechydon mewn gwartheg a defaid sy'n cael eu hachosi oherwydd diffyg cydbwysedd rhwng y maeth y mae’r anifail yn ei gael o'i gymharu â'r canlyniad rydych chi'n ei ddisgwyl.

Mae'n golygu bod y fetabolaeth normal yn gorfod gwneud gormod o ymdrechu.

Fel arfer mae'r diffyg cydbwysedd yn digwydd ar adegau allweddol yn y beichiogrwydd a'r llaetha, lle nad yw'r bwyd y mae'r anifail yn ei gael yn ddigon i ofynion y corff. Dyna pam maen nhw'n cael eu galw'n glefydau cynhyrchu weithiau.

Y Prif Anhwylderau Metabolaidd

Gwartheg

  • Hypocalcaemia – Twymyn Llaeth
  • Hypomagnesemia – Y Ddera (Staggers)
  • Rumen Acidosis
  • Acetonemia
  • Syndrom Afu/Iau Brasterog

Defaid

  • Hypocalcaemia – Twymyn Llaeth
  • Hypomagnesemia – Y Ddera (Staggers)
  • Rumen Acidosis
  • Toxaemia Beichiogrwydd – Clwy'r Eira (Twin Lamb Disease)
NADIS

Gwasanaeth gwybodaeth National Animal Disease Information Service

Mae'r wefan hon yn rhoi nodiadau rhagorol a chwisiau rhyngweithiol yn Saesneg ar bob mater iechyd sy'n gysylltiedig ag anifeiliaid fferm.

https://www.nadis.org.uk/

Clefydau etifeddol mewn gwartheg a defaid

Er mwyn gallu dweud bod anhwylder yn un etifeddol, mae’n rhaid bod trosglwyddo genetig gyda gennyn diffygiol yn digwydd. Efallai na fydd y cyflwr ar y rhiant ond gallai fod yn ei gario.

Enghreifftiau:

  • CVM mewn gwartheg
  • Entropion
  • Ymwrthedd i glefyd y crafu (scrapie)
  • Genau cam (overshot/undershot) mewn defaid

CVM: Complex Vertebral Malformation

Clefyd genetig yw CVM, sy'n arwain at loi annormal. Mae'n gyflwr enciliol, felly mae'n rhaid bod y fam a'r tad yn cario'r gennyn CVM er mwyn i'r lloi gael eu heffeithio. Hefyd mae hyn yn golygu, hyd yn oed os yw'r ddau riant wedi'u heffeithio, mai ¼ y lloi yn unig fydd yn annormal. Hyd yma, mewn gwartheg Holstein yn unig y cafwyd adroddiadau am y clefyd.

NADIS

Entropion

Mae entorpion (amrant llygad yn troi tuag i mewn) yn broblem etifeddol gyffredin mewn llawer o fridiau defaid a'u hepil sydd wedi'u croes-fridio.

Dydyn ni ddim yn deall yn llwyr beth yw'r cysylltiad genetig, ond mae'n ymddangos bod gan rai hyrddod fwy o risg o'i drosglwyddo i'w hepil.

Cloi

Ar diwedd y sesiwn hon dylech chi nawr fod yn gallu:

  • Esbonio achosion anffrwythlondeb mewn anifeiliaid fferm.
  • Disgrifio'r term mihifir-mihafar (freemartin).
  • Esbonio'r term dystocia, a'r prif ffactorau sy'n ei achosi.
  • Disgrifio'r anhwylderau maethol sy'n gysylltiedig ag atgynhyrchu.
  • Enwi'r prif anhwylderau etifeddol sy'n gysylltiedig â gwartheg a defaid.