English

3. Chwarennau endocrin anifeiliaid

Erbyn diwedd y sesiwn byddwch yn deall:

  • Rôl hormonau wrth reoli’r corff.
  • Strwythur a swyddogaeth y chwarren bitẅidol a’r hypothalmws.
  • Strwythur a swyddogaeth y chwarren bineaidd.
  • Strwythur a swyddogaeth y chwarren thymws a’r thyroid.

I ddechrau:

  • Yn unigol, ysgrifennwch bopeth rydych yn ei wybod am hormonau.
  • Ffurfiwch barau er mwyn ychwanegu at eich syniadau.
  • Y system endocrinaidd sy’n cynhyrchu hormonau, sy’n helpu’r system nerfol i reoli’r corff.
  • Caiff y ddwy system eu huno gan yr hypothalamws yn yr ymennydd.
  • Bydd y chwarennau’n cynhyrchu hormonau ac yn eu rhyddhau i mewn i’r llif gwaed. Bydd y llif gwaed yn eu cludo o amgylch y corff i gael effaith ar eu meinweoedd targed.
  • Mae hormonau’n gweithredu’n araf ac yn cael effaith hirdymor (ond mae nerfau’n gweithredu’n gyflym iawn ac am amser byr).

Chwarennau Endocrinaidd

Yr Hypothalamws a’r Chwarren Bitwidol

Mae’r hypothalamws yng nghanol yr ymennydd, gyda’r chwarren bitwidol yn hongian i lawr oddi wrtho.

Mae’r hypothalamws yn rheoli’r hormonau sy’n cael eu cynhyrchu o’r chwarren bitwidol drwy gynhyrchu hormonau rhyddhau neu hormonau ataliol dan reolaeth ysgogiadau nerfol. Mae’r chwarren bitwidol yn cynnwys dwy ran; y chwarren bitwidol flaen a’r chwarren bitwidol ôl.

Hormonau’r chwarren bitwidol

Hormonau’r chwarren bitwidol

  1. Taflen waith y system endocrinaidd - Word, PDF
  2. Asesu cyfoedion gan ddefnyddio’r daflen atebion - Word, PDF

Ewch yn ôl at y rhestr a lunioch chi fel parau ar ddechrau’r testun hwn. Faint gallwch chi ychwanegu at y rhestr mewn munud?

Chwarennau thymws, thyroid a pineaidd

Mae’r chwarren bineaidd yn gallu synhwyro hyd y diwrnodau. Yn ystod tywyllwch mae’n rhyddhau’r hormon melatonin i’r gwaed. Wrth i’r dyddiau fyrhau yn yr hydref, bydd lefelau melatonin yng ngwaed defaid yn codi, gan achosi i’r defaid a’r hyrddod fod eisiau bridio.

Mae’n bosibl rhoi mewnblaniad melatonin i ddefaid a hyrddod er mwyn iddynt fridio’n gynharach yn y tymor ac i gael prisiau uwch am yr ŵyn.

Y chwarennau thymws a thyroid

Chwarren thymws – rhan o’r system endocrinaidd a’r system imiwn. Mae’n cynhyrchu ac yn secretu’r hormon thymosin sy’n angenrheidiol ar gyfer aeddfedu a rhyddhau celloedd T o’r thymws i’r system lymffatig er mwyn ymladd yn erbyn pathogenau.

Chwarren thyroid – Mae’n cynhyrchu ac yn rhyddhau’r hormon thyrocsin sy’n rheoli cyfradd fetabolaeth y corff.

Y pancreas a’r chwarren adrenal

Erbyn diwedd y sesiwn byddwch yn deall:

  • stwythur a swyddogaeth y pancreas
  • strwythur a swyddogaeth y chwarennau adrenal.

Y Pancreas

Y pancreas sy’n rheoli lefel glwcos yn y gwaed. Mae’r pancreas yn cynhyrchu’r ensymau treulio hefyd. Caiff yr hormon inswlin ei gynhyrchu gan grŵp o gelloedd yn y pancreas.

Inswlin

Defnyddir yr hormon inswlin i reoli crynodiad glwcos yn y gwaed. Mae’n cadw lefel y glwcos yn y corff yn gyson, drwy homeostasis.

Os yw crynodiad glwcos y gwaed yn codi:

  1. Mae’r pancreas yn cynhyrchu inswlin.
  2. Mae glwcos yn mynd i’r celloedd ac yn cael ei storio yn yr afu fel glycogen.
  3. Mae lefel glwcos y gwaed yn gostwng.

Os yw crynodiad glwcos y gwaed yn gostwng;

  1. Mae’r pancreas yn cynhyrchu llai o inswlin a mwy o glwcagon.
  2. Mae’r afu/iau’n ryddhau glwcos i’r gwaed.
  3. Mae lefel glwcos y gwaed yn codi.

Rheoli lefelau siwgr

Llenwch y siart llif sydd ar y sleid nesaf i ddangos sut mae lefel glwcos y gwaed yn cael ei reoli.


Lawrlwytho - Word / PDF

Y Chwarennau adrenal

Chwarennau adrenal – nhw sy’n cynhyrchu adrenalin sy’n paratoi’r corff ar gyfer ymladd neu ffoi/ dianc.

Mae adrenalin yn cyflymu’r galon, yn codi’r pwysedd gwaed ac yn gwneud i’r anadl fynd yn fwy dwfn ac yn gyflymach.

Ar ddiwedd y sesiwn hon, dylech nawr ddeall:

  • Rôl hormonau wrth reoli’r corff.
  • Strwythur a swyddogaeth y chwarren bitẅidol a’r hypothalmws.
  • Strwythur a swyddogaeth y chwarren bineaidd.
  • Strwythur a swyddogaeth y chwarren thymws a’r thyroid.