English

2. Y System Resbiradol

Erbyn diwedd y sesiwn byddwch yn deall:

  • strwythur a swyddogaeth yr ysgyfaint
  • sut mae’r system resbiradol yn rhyngweithio â’r system gylchredol.

I ddechrau:

  • Ceudod trwynol
  • Tracea
  • Broncws
  • Bronciolyn
  • Alfeoli
  • Ysgyfaint chwith
  • Llengig
  • Asennau
  • Cyhyrau rhyngasennol
  • Mwcws
  • Cilia
  • Cartilag

Edrychwch ar y paragraffau canlynol. A allwch chi lenwi'r bylchau? Trafodwch y termau gyda'ch cyd-ddisgyblion, neu argraffwch y fersiwn PDF isod ac ysgrifennwch eich hatebion.

Ar ôl dod i mewn trwy’r ___________ a’r ___________, mae’r aer yn pasio trwy’r ___________. Wedyn mae’r tiwb yn hollti’n ddwy ___________, sy’n hollti ymhellach i ffurfio ___________. Mae’r rhain yn diweddu mewn codennau aer bychan a elwir yn ___________, lle mae cyfnewid nwyon yn digwydd.

Amddiffynnir yr ysgyfaint gan esgyrn a elwir yn ___________. Mae’r rhain yn symud wrth i chi anadlu oherwydd gweithrediad y ___________ ___________ sydd rhwng yr asennau. Cyhyr sy’n ffurfio gwaelod y thoracs ydy’r ___________, mae hwn hefyd yn symud wrth i chi anadlu.

PDF - Lawrlwytho

Swyddogaeth Cilia a Mwcws

Mae celloedd gobled, sy’n cynhyrchu mwcws, a cilia yn leinin y bronci. Mae’r mwcws yn dal llwch a microbau gan eu hatal rhag cyrraedd yr ysgyfaint. Mae’r cilia yn gallu symud, felly maen nhw’n gallu cydweithio i greu tonnau i symud y mwcws a’r llwch a’r microbau sydd wedi eu dal ynddo i fyny i’r geg a’r trwyn i gael gwared arnyn nhw.

Mae hyn yn atal heintiau’r ysgyfaint, gan gynnwys niwmonia, ffliw’r moch/adar a’r diciâu.

System resbiradol dofednod – sachau aer

Mae gan ieir naw sach aer, sy’n bocedi tebyg i swigod, gyda muriau tenau. Maen nhw’n gweithio fel system i dynnu aer i mewn i’r ysgyfaint (gan nad yw eu hasennau’n gallu symud a does dim llengig), yn enwedig wrth hedfan ac i atal gorboethi wrth hedfan. Mae heintiau’r sachau aer yn gallu bod yn broblem i ffermwyr dofednod.

Cyfraddau resbiradu arferol:

Anifail Cyfradd resbiradu (anadliadau/munud)
Gwartheg 12-26
Defaid 12-20
Moch 10-16

Os yw anifail yn anadlu’n fwy aml neu’n anadlu’n llai dwfn, mae’n arwydd o salwch, gan nad yw’r y system yn gweithio’n iawn, oherwydd haint neu rhyw glefyd arall. Mae peswch yn arwydd arall o broblemau gyda’r ysgyfaint.

Tasg:

Y ddwy sleid nesaf – y dysgwyr yn darllen drwy’r wybodaeth ac yn gosod 10 cwestiwn i’w cyfoedion eu hateb.

Rhyngweithio â’r system cylchrediad gwaed - Wrth orffwys

Wrth i gi defaid orffwys, bydd ei galon a’i ysgyfaint yn cydweithio er mwyn cynhyrchu egni i fyw drwy resbiradu. Pan fydd yn anadlu i mewn, bydd ocsigen o’r aer yn mynd i mewn i’w ysgyfaint. Mae’r ocsigen yn rhan hanfodol o gynhyrchu egni i fyw. Mae’r ocsigen yn tryledu i lawr graddiant crynodiad, o grynodiad uchel yn yr ysgyfaint i grynodiad isel yn y capilarïau gwaed sy’n rhedeg trwy’r ysgyfaint.

Mae’r gwaed wedyn yn llifo o’r ysgyfaint yn ôl i’r galon er mwyn pwmpio’r gwaed ocsigenedig i weddill corff y ci. Yn y corff, bydd meinweoedd sy’n resbiradu yn defnyddio’r gwaed ocsigenedig i greu egni.

Wrth orffwys bydd cyfradd resbiradu’r ci tua 12 anadl y funud a chyfradd ei galon tua 65 curiad y funud.

Rhyngweithio â’r system cylchrediad gwaed - Wrth weithio

Wrth weithio, bydd angen i gorff y ci weithio’n galetach ac felly bydd angen mwy o egni. Cynhyrchir egni drwy resbiradaeth, felly bydd angen i’r ci resbiradu mwy, a bydd angen mwy o ocsigen ar y ci. Bydd cyfradd anadlu’r ci y funud yn codi’n sylweddol a bydd yn anadlu’n fwy dwfn fel bod mwy o ocsigen yn tryledu i mewn i waed y ci. Bydd ei galon yn curo’n gynt er mwyn cludo’r ocsigen ychwanegol yn gyflymach i’w feinweoedd.

Wrth weithio, bydd cyfradd resbiradu'r ci yn codi i tua 38 anadl y funud a bydd cyfradd curiad y galon tua 160 curiad y funud.

Tasg

Tasg ymchwilio ar y we neu mewn gwerslyfrau i TB a ffliw moch/adar. Y dysgwyr yn cyflwyno eu gwybodaeth ar y daflen nesaf.

Lawrlwytho - Word, PDF

Diweddglo

Ar ddiwedd y sesiwn hon, dylech nawr ddeall:

  • strwythur a swyddogaeth yr ysgyfaint
  • sut mae’r system resbiradol yn rhyngweithio â’r system gylchredol.