Stori Cymru
Rydych yn symyd i ffwrdd o'r adnodd yma.
Ydych chi yn siwr ydych eisio gadael?
Ydw Nac ydw
Stori Cymru
Arwyddocâd hanesyddol
Yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg 2012, un o'r pebyll a gafodd y sylw mwyaf ar y Maes oedd pabell wag. Pabell yn anrhydeddu Trefor ac Eileen Beasley o Langennech, ger Llanelli, oedd hi, a'u brwydr hir yn y 1950au i dderbyn biliau treth lleol yn y Gymraeg gan Gyngor lle'r oedd 90% o'r boblogaeth yn siarad Cymraeg. Roedd gwacter y babell yn dwyn i gof ganlyniad eu protest - gwagiwyd cartref teulu'r Beasleys sawl tro gan fwmbeilïaid am eu bod yn gwrthod talu eu dyledion i'r Cyngor nes cael gwasanaeth Cymraeg.
Gwrthododd teulu'r Beasleys dderbyn yr un esgus nac ildio i'r un bygythiad ac wedi wyth mlynedd o ddadlau eu hachos drwy lythyrau ac achosion llys, cawsant bapur treth cyngor Cymraeg. Heddiw, mae eu safiad yn cael ei ystyried yn arwrol ac fel yr achos cyntaf o dorri cyfraith bwriadol er mwyn sicrhau hawliau swyddogol i siaradwyr Cymraeg.
Athrawes o ardal Hendy-gwyn ar Daf oedd Eileen a glöwr ym Mhwll y Morlais, Llangennech oedd Trefor. Priododd y ddau yn 1951 ac ar ôl cael eu tÿ eu hunain yn 1952, penderfynodd y ddau wrthod talu'r dreth oni chaent lythyr Cymraeg gan y Cyngor. Bu eu hachos o flaen y llys 16 o weithiau a bu'r bwmbeilïaid yn eu cartref bedair gwaith, gan fynd â'r rhan fwyaf o'u dodrefn oddi yno ar fwy nag un achlysur. Cawsant bapur treth dwyieithog yn 1960. Roedd ganddynt ddau blentyn - Elidyr a Delyth.
Yn 1900 roedd hanner pobl Cymru yn siarad y Gymraeg. Erbyn 1951, dim ond 29% o'r boblogaeth oedd yn ei siarad. Roedd pryder gwirioneddol y byddai'r Gymraeg - un o ieithoedd hynaf Ewrop - yn peidio â bod yn iaith fyw. Ysbrydolodd gweithred teulu'r Beasleys anerchiadau a phrotestiadau lu dros hawliau i'r siaradwyr Cymraeg, gan gynnwys sefydlu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Torrwyd llawer o ddeddfau; aeth llawer i garchar; enillwyd sawl buddugoliaeth fach. Ond bellach mae deddf gwlad wedi sicrhau bod y Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru.