Stori Cymru
Rydych yn symyd i ffwrdd o'r adnodd yma.
Ydych chi yn siwr ydych eisio gadael?
Ydw Nac ydw
Stori Cymru
Ar hyd a lled Cymru mae olion hen gladdfeydd sy'n cael eu galw yn 'gromlechi'. Yr hyn a welir erbyn hyn yw maen copa a phedwar neu bum maen hir yn sefyll yn dal ei bwysau anferthol. Byddai cyrff yn cael eu claddu yn y gromlech a'r cyfan yn cael ei orchuddio â phridd a cherrig. Dros y blynyddoedd, diflannodd llawer o'r tyrrau pridd gan adael y sgerbwd cerrig. Mae enwau diddorol ar rai o'r rhain – Cromlech Pentre Ifan, Cromlech Maen y Bardd a Charreg Samson. Ar rostir ym mhenrhyn Gŵyr, Morgannwg mae cromlech a maen copa anferthol arni o'r enw Maen Arthur– mae'r maen sy'n ffurfio to'r gromlech yn pwyso dros bum tunnell ar hugain!