Rydych yn symyd i ffwrdd o'r adnodd yma.

Ydych chi yn siwr ydych eisio gadael?

  Ydw   Nac ydw

Teulu'r Beasleys

Yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg 2012, un o'r pebyll a gafodd y sylw mwyaf ar y Maes oedd pabell wag. Pabell yn anrhydeddu Trefor ac Eileen Beasley o Langennech, ger Llanelli, oedd hi, a'u brwydr hir yn yr 1950au i dderbyn biliau treth lleol yn y Gymraeg gan Gyngor lle'r oedd 90% o'r boblogaeth yn siarad Cymraeg. Roedd gwacter y babell yn dwyn i gof ganlyniad eu protest – gwagiwyd cartref teulu'r Beasleys sawl tro gan fwmbeilïaid am eu bod yn gwrthod talu eu dyledion i'r Cyngor nes cael gwasanaeth Cymraeg.

Gwrthododd teulu'r Beasleys dderbyn yr un esgus nac ildio i'r un bygythiad ac wedi wyth mlynedd o ddadlau eu hachos drwy lythyrau ac achosion llys, cawsant bapur treth cyngor Cymraeg. Heddiw, mae eu safiad yn cael ei ystyried yn arwrol ac fel yr achos cyntaf o dorri cyfraith bwriadol er mwyn sicrhau hawliau swyddogol i siaradwyr Cymraeg.