Stori Cymru
Rydych yn symyd i ffwrdd o'r adnodd yma.
Ydych chi yn siwr ydych eisio gadael?
Ydw Nac ydw
Stori Cymru
Oherwydd terfysgoedd Beca a chynnwrf yn yr ardaloedd diwydiannol, roedd rhai pobl tua Llundain yn credu mai anwariaid oedd y Cymry! 'Rhowch dipyn o addysg iddyn nhw!' oedd y farn. Cymraeg oedd iaith Beca a'i merched; Cymraeg oedd iaith Dic Penderyn a'r gweithwyr haearn a'r glowyr hefyd. Yn 1846, cododd aelod seneddol ar ei draed yn Nhŷ'r Cyffredin a dweud y dylai plant Cymru ddysgu Saesneg er mwyn dod yn eu blaenau yn y byd
Gofynnwyd i dri bargyfreithiwr oedd wedi cael eu haddysg yng ngholegau Rhydychen a Chaer-grawnt wneud arolwg a pharatoi adroddiad am gyflwr Cymru. Tri Sais a thri eglwyswr oedden nhw – Johnson, Lingen a Symons. Doedd ganddyn nhw ddim gair o Gymraeg rhyngddynt ac nid oeddent yn deall dim am fywyd y capeli yng Nghymru chwaith. Cyhoeddwyd eu hadroddiad mewn cyfrol gyda chlawr glas. Roedd yn lladd ar y Gymraeg holl ddiwylliant y Cymry a chafodd y llys-enw 'Brad y Llyfrau Gleision'.