Rydych yn symyd i ffwrdd o'r adnodd yma.

Ydych chi yn siwr ydych eisio gadael?

  Ydw   Nac ydw

Buddug

Cangen o lwythau Celtaidd yn byw i'r de o Ucheldiroedd yr Alban ac yn siarad Brythoneg yng nghyfnod y Rhufeiniaid oedd y Brythoniaid. O'r Frythoneg y tarddodd yr ieithoedd Cymraeg, Cernyweg a Llydaweg.

Brython oedd Buddug. Roedd yn wraig i bennaeth llwyth yr Iceni yn nwyrain Lloegr ac yn y flwyddyn 61 Oed Crist, bu farw'r pennaeth. Nid oedd ganddynt fab ond dan gyfraith y Brythoniaid, byddai gwraig y pennaeth – sef Buddug – a'i merched yn arwain y llwyth mewn achos o'r fath. Roedd hi'n arferol yn niwylliant y Celtiaid bod merched yn arwain byddinoedd yn ogystal. Ymosododd y Rhufeiniaid ar ganolfan y llwyth, chwipio Buddug, camdrin y merched ac yn meddiannu gwlad yr Iceni. Casglodd Buddug filwyr y Brythoniaid ynghyd ac ymosod ar gaer y Rhufeiniaid.