Stori Cymru
Rydych yn symyd i ffwrdd o'r adnodd yma.
Ydych chi yn siwr ydych eisio gadael?
Ydw Nac ydw
Stori Cymru
Gwnaeth Robert Edwards o Gymru, a'i griw o fôr-ladron garw, gryn lanast ar fasnach llongau Sbaen ar ddechrau'r ddeunawfed ganrif drwy ymosod arnynt a dwyn eu trysorau. Daeth hyn i sylw'r Frenhines Anne oedd ar orsedd Lloegr ar y pryd - ond ennill gwobr, nid cael ei gosbi, fu tynged Robert y môr-leidr. Roedd Lloegr a Sbaen yn elynion ar y pryd ac yn ddistaw bach roedd coron Lloegr yn ddiolchgar iawn bod nifer o fôr-ladron yn creu cymaint o fygythiad i longau Sbaen.
Darn o dir ar ynys yn aber afon Hudson ar arfordir dwyreiniol America oedd gwobr Robert Edwards. Yn ôl yn y cyfnod hwnnw, 77 acer o fwd a chlai a thywod oedd yr anrheg. Erbyn heddiw, mae rhan isaf Broadway, Wall Street a gorsafoedd Hudson a Greenwich, Efrog Newydd, wedi'u hadeiladu ar hen dir y môr-leidr - mae'r erwau hynny yn rhan o Manhattan ac yn werth 800 biliwn doler. Hyd heddiw, mae dadlau cyfreithiol pwy yn union piau'r tir hwn - ac mae miloedd o ddisgynyddion teulu'r môr-leidr yn ymladd am eu hawliau yn y llysoedd!