Stori Cymru
Rydych yn symyd i ffwrdd o'r adnodd yma.
Ydych chi yn siwr ydych eisio gadael?
Ydw Nac ydw
Stori Cymru
Yn 1158, penderfynodd y Norman William Fitz Robert ei fod eisiau rhagor o dir. Roedd yn byw yn ddiogel gyda chant o'i filwyr mewn tŵr ar ben tomen uchel yng nghastell Caerdydd. Anfonodd ei filwyr i lys Cymro o'r enw Morgan ab Owain, Arglwydd Caerllion a Gwynllwg. Lladdwyd Morgan a chipiwyd ei eiddo a'i diroedd gan y Normaniaid. Yn fuan wedi hynny, anfonodd William Fitz Robert fyddin gref o filwyr i Senghennydd ar yr un perwyl yn union. Ifor ap Meurig – a gâi ei alw'n 'Ifor Bach' oherwydd ei faint – oedd Arglwydd Seghennydd ac er i'r Normaniaid gipio darn helaeth o'i stad, ni chawsant afael arno ef na'i ddynion.
Yn ei gastell yng Nghaerdydd, teimlai'r Norman yn ddiogel a chryf. Ond un noson, dysgodd Ifor Bach a'i ddynion wers iddo. Aethant yn dawel at y waliau gydag ysgolion hirion. Ifor oedd y cyntaf dros y grib a buont yn chwilio drwy'r tŵr yn y tywyllwch. Daethant ar draws ystafell wely William Fitz Robert. Clymwyd y Norman a'i wraig a chipiwyd y ddau, a'u mab bychan, yn ôl i goedwigoedd y bryniau. Gwrthododd Ifor eu rhyddhau nes iddo ddychwelyd y tiroedd yr oedd wedi'u dwyn – ac ychydig mwy! – yn ôl i Gymry Senghennydd. Wedi hynny, ni fyddai'r Normaniaid yn teimlo mor ddiogel yng nghadernid eu cestyll.