Stori Cymru
Rydych yn symyd i ffwrdd o'r adnodd yma.
Ydych chi yn siwr ydych eisio gadael?
Ydw Nac ydw
Stori Cymru
Ar 14 Hydref 1913, ffrwydrodd yr aer ym mhwll glo'r Universal yn Senghennydd. Saethodd fflamau ar hyd y lefelau dan ddaear ac i fyny'r siafft i wyneb y lofa. Bu'r timau achub yn ymladd y tân, y mwg a'r nwy a'r cwympiadau am wythnosau ac yn y diwedd cafwyd bod 439 glöwr wedi'u lladd ac un aelod o'r timau achub. Hon oedd y ddamwain waethaf yn hanes cloddio am lo yng ngwledydd Prydain. Roedd gan bob un bywyd a gollwyd stori i'w hadrodd. Weithiau, gall y ffigyrau beri inni golli golwg ar yr unigolion a'r teuluoedd oedd yn cael eu taro gan y colledion. Stori un o'r bywydau a gollwyd sydd yn y faled hon.