Rydych yn symyd i ffwrdd o'r adnodd yma.

Ydych chi yn siwr ydych eisio gadael?

  Ydw   Nac ydw

Senghennydd

Galeri

Pa fath o gyfartaledd mae'r haneswyr canlynol wedi ei ddefnyddio wrth ysgrifennu'r hanes Tanchwa Senghennydd?

Hanesydd A "Glofa'r Universal oedd prif gyflogwr yr ardal, ac yn cyflogi dynion o bob oed. Ymhlith y rhai a fu farw yn y trychineb yn 1913 oedd bechgyn 14 oed a thadcus (teidiau) yn eu chwedegau."
Hanesydd B "Ar gyfartaledd roedd y dynion a laddwyd yn tri deg a hanner mlwydd oed. Gadawyd 205 o fenywod yn weddwon, 542 o blant heb eu tadau a 62 o rieni dibynnol ar eu meibion"
Hanesydd C "Roedd y garfan fwyaf o weithwyr a fu farw yn ifanc iawn. Roedd tua 17% o'r rhai a fu farw yn 20 mlwydd oed."
Hanesydd CH "Lladdwyd dynion o bob oed yn y trychineb ond roedd hanner y rhai a fu farw o dan 29 mlwydd oed. Bu farw deg aelod o dîm rygbi Senghennydd. Tair blynedd yn ddiweddarach, dechreuodd y pentref i chwarae rygbi unwaith eto, ond roedd 13 o'r chwaraewyr o dan 16 oed."
/