Rydych yn symyd i ffwrdd o'r adnodd yma.

Ydych chi yn siwr ydych eisio gadael?

  Ydw   Nac ydw

Owain Glyndŵr - Llythyr Pennal

Mae'r llythyr hwn – llythyr Lladin oddi wrth Owain Glyndŵr, Tywysog Cymru at Siarl VI, Brenin Ffrainc – yn ddogfen hynod a gwerthfawr dros ben. Dyma'r peth agosaf sydd gennym at glywed llais Owain yn siarad â ni ar draws y canrifoedd. Mae'n dangos dawn Owain fel arweinydd ar wlad newydd, yn trafod gydag arweinydd arall o Ewrop. Caiff y memrwn gwreiddiol ei gadw'n ddiogel mewn amgueddfa ym Mharis ond cafodd ddychwelyd i Gymru ar gyfer dathliadau 600 mlwyddiant gwrthryfel Glyndŵr yn 2000.

Dyddiad y llythyr yw 31 Mawrth 1406 a chafodd ei ysgrifennu ym mhentref Pennal, rhwng Machynlleth ac Aberdyfi. Roedd y Ffrancwyr a'r Cymry eisoes ar delerau da gyda llysgenhadon yn cadw cysylltiad cyson rhwng y ddau arweinydd. Daeth cynrychiolwyr o Ffrainc i seneddau Glyndŵr ac yn Awst 1405, anfonwyd llynges a miloedd o filwyr o Ffrainc i ymladd ochr yn ochr â'r Cymry. Yn Llythyr Pennal cawn weledigaeth Glyndŵr am Gymru newydd heb gestyll gormesol ond gyda'i harchesgobaeth ei hun yn Nhyddewi, prifysgolion annibynnol, a'r Gymraeg yn iaith cyfraith a llys a senedd i leisio barn y bobl.