Stori Cymru
Rydych yn symyd i ffwrdd o'r adnodd yma.
Ydych chi yn siwr ydych eisio gadael?
Ydw Nac ydw
Stori Cymru
Bro amaethyddol braf rhwng Cydweli a Chaerfyrddin yw Cwm Gwendraeth Fach. Yn haf 1960, roedd deng mil o wartheg yn pori ar fil o aceri ffrwythlon yno a nifer o hen deuluoedd yn byw ar y ffermydd, y meibion wedi dilyn eu tadau ers sawl cenhedlaeth. Allt y Cadno, Fferm y Llandre, Torcoed Isaf, Panteg, Glanyrynys, Ynysfaes – mae enwau Cymraeg y ffermydd yn canu.
Yna daeth stori ar led bod cyngor tref Abertawe yn ystyried codi argae ar draws y cwm a'i foddi – er mwyn creu cronfa ddŵr i ddiwydiannau gorllewin Morgannwg. Roedd pobl y cwm yn methu â chredu'r peth! Ond roedd y bygythiad yn wir. Roedd Cymru wedi colli llawer o gymoedd i greu cronfeydd dŵr i drefi poblog – Tryweryn, Clywedog, Elan, Claerwen, Efyrnwy. Ai dyna fyddai tynged Cwm Gwendraeth Fach yn ogystal?