Rydych yn symyd i ffwrdd o'r adnodd yma.

Ydych chi yn siwr ydych eisio gadael?

  Ydw   Nac ydw

Gwybodaeth bellach

Mae'r gweithgareddau ac adnoddau digidol hyn yn ategu ac yn ymestyn y deunydd sydd yn y gyfrol.

STORI CYMRU
Hanesion a Baledi gan Myrddin ap Dafydd
Cyhoeddwyd gan Wasg Carreg Gwalch, Mawrth 2015
Darluniwyd gan Dorry Spikes
Fformat: Clawr Caled, 218x218 mm, 168 tudalen
ISBN: 9781845275167

Mae hanes Cymru yn llawn straeon. Straeon doniol, trist, cyffrous, arwrol a hudolus. Eto un stori yw hi, mewn gwirionedd. O oes i oes, o fro i fro, gallwn weld yr un un stori drachefn a thrachefn drwy Gymru gyfan gan glymu'r cymoedd a'r dyffrynnoedd i gyd yn un wlad: gelyn yn ymosod; y Cymry yn gwrthsefyll ac yn y diwedd yn goroesi. Yn y gyfrol hon, adroddir hanesyn ac mae baled yn dilyn pob un, gan fynd â ni i bob cwr o Gymru, yn dathlu'r holl gyfoeth amrywiol ac yn gweu'r cyfan yn un gyfrol.

Dylynwyd yr adnodd yma gan Cwmni Cynnal