Rydych yn symyd i ffwrdd o'r adnodd yma.

Ydych chi yn siwr ydych eisio gadael?

  Ydw   Nac ydw

Clawdd Offa

Brenin y Saeson rhwng 757 a 796 oedd Offa. Hwnnw oedd y brenin cryfaf a gawsent hyd hynny. Penderfynodd nodi ffin bendant rhwng Cymru a Lloegr a gwahardd unrhyw un rhag croesi'r ffin. Ei ddull o greu ffin oedd codi clawdd a chreu ffos ddofn - a dyma Glawdd Offa. Roedd y Clawdd dros ddau fetr o uchder mewn mannau a'r ffos - ar ochr Cymru - yn ddau fetr o ddyfnder. Yn ychwanegol at hynny roedd ffens goed ar hyd crib y clawdd. Yn ffin 150 milltir (240 cilometr) o hyd, yn ymestyn o Brestatyn yn y gogledd-ddwyrain i Gas-gwent yn y de-ddwyrain, roedd ei godi'n anferth o waith yn yr wythfed ganrif. Hwn oedd y prosiect adeiladu mwyaf yn Ewrop nes y crëwyd y camlesi ar ddechrau'r Chwyldro Diwydiannol. Golygai lafur gan fyddin enfawr o weithwyr. Cymaint ydi'r marc ar y tir nes bod hyd yn oed yr olion sydd ar ôl o'r Clawdd yn weladwy o'r gofod.