Stori Cymru
Rydych yn symyd i ffwrdd o'r adnodd yma.
Ydych chi yn siwr ydych eisio gadael?
Ydw Nac ydw
Stori Cymru
Cwis
Ar hyd a lled Cymry mae olion hen gladdfeydd sy'n cael eu galw yn 'gromlechi'. Yr hyn a welir erbyn hyn yw maen copa a phedwar neu bum maen hir yn sefyll yn dal ei bwysau anferthol. Byddai cyrff yn cael eu claddu yn y gromlech a'r cyfan yn cael ei orchuddio â phridd a cherrig.
Dros y blynyddoedd, diflannodd llawer o'r tyrrau pridd gan adael y sgerbwd cerrig. Mae enwau diddorol ar rai o'r rhain - Cromlech Pentre Ifan, Cromlech Maen y Bardd a Charreg Samson. Ar rostir ym mhenrhyn Gŵyr, Morgannwg mae cromlech gyda maen copa anferthol arni - mae'r maen sy'n ffurfio to'r gromlech yn pwyso dros bum tunnell ar hugain! Sut llwyddodd yr hen bobl, dros bedair neu bum mil o flynyddoedd yn ôl, i symud y fath bwysau?
Mae stori y tu ôl i enw'r gromlech hon. Yr enw? - Maen Arthur. A'r stori? Roedd y Brenin Arthur yn marchogaeth yn sir Gaerfyrddin a sylwodd bod ei geffyl yn gloff. Daeth oddi ar gefn y ceffyl i roi sylw i'r carn clwyfus a sylwodd ar garreg fechan o dan y bedol. Rhyddhaodd y garreg a'i thaflu'n ddi-hid dros ei ysgwydd. Cyrhaeddodd honno Fro Gŵyr - a dyna faen copa cromlech Maen Arthur! Dyna ichi gawr oedd ein Arthur ni!
Tasgau Darllen
A ydych yn gallu sgorio 16?
Ysgrifennodd y bardd, Myrddin ap Dafydd gerdd am gromlech "Maen Arthur" ym Mro Gŵyr. Darllenwch y nodiadau cefndirol cyn ateb y cwestiynau canlynol.
1. Ticiwch cywir neu anghywir ar gyfer pob brawddeg. (5 marc)
Cywir | Anghywir | |
---|---|---|
Byddai cyrff yn cael eu claddu yn y gromlech. | ||
Roedd pobl yn defnyddio pren a dail i orchuddio'r gromlech. | ||
'Maen copa' yw'r garreg fawr sy'n ffurfio to'r gromlech. | ||
Adeiladwyd y cromlechi dros bedair neu bum mil o flynyddoedd yn ôl. | ||
'Maen Alfred' yw enw'r gromlech ym Mro Gŵyr. |
2. Edrychwch ar y testun yn y bocs isod.
Dewisiwch y geiriau sy'n disgrifio'r gromlech. (1 marc)
Ar hyd a lled Cymry mae olion hen gladdfeydd sy'n cael eu glaw yn 'gromlechi'. Yr hyn a welir erbyn hyn yw maen copa a phedwar neu bum maen hir yn sefyll yn dal ei bwysau anferthol.
hen gladdfeydd sy'n cael eu glaw yn 'gromlechi' | |
maen copa a phedwar neu bum maen hir yn sefyll yn dal ei bwysau anferthol. | |
'gromlechi'. Yr hyn a welir erbyn hyn yw | |
Ar hyd a lled Cymry mae olion hen gladdfeydd |
3. Edrychwch ar y paragraff isod
Mae maen copa cromlech Maen Arthur yn drwm iawn. Dewiswch 5 gair sy'n dangos hynny. (1 marc)
4. Labelwch y geiriau i gysylltu'r ansoddair ag enw'r peth mae'n ei ddisgrifio. (3 marc)
hen | |
hir | |
anferthol |
5. Pam mae llythrennau mawr ar gyfer Cromlech Pentre Ifan, Cromlech Maen y Bardd a Charreg Samson? (1 marc)
achos eu bod yn enwau dychmygol | |
achos eu bod yn enwau ar gromlechi enwog | |
achos eu bod yn enwau anghywir | |
achos eu bod yn enwau estron |
6. Rhowch y digwyddiadau hyn yn eu trefn, o 1 i 5.
Mae un wedi'i wneud yn barod i chi. (4 marc)
Arthur yn rhyddhau'r garreg | |
Arthur yn sylwi bod ei geffyl yn gloff | |
Arthur yn marchogaeth | 1 |
Arthur yn taflu'r garreg fechan dros ei ysgwydd | |
Arthur yn gweld carreg fechan o dan y bedol |
7. Ym marn yr awdur, pa fath o frenin oedd y Brenin Arthur? (1 marc)
corach | |
dewin | |
adeiladwr | |
cawr | |
sant |